Kindertransport – gwirioneddau anghysurus wrth graidd cynllun arwrol y rhyfel
Yr Athro Andrea Hammel
01 Rhagfyr 2023
Wrth gofio 85 mlynedd ers y cynllun Kindertransport, mae academydd o Brifysgol Aberystwyth yn datgelu ochr fwy tywyll i’r stori dwymgalon o lwyddiant adeg y rhyfel.
Ar 2 Rhagfyr 1938, cyrhaeddodd y trên Kindertransport cyntaf dref Harwich yn swydd Essex, gan ddod â 196 o ffoaduriaid Iddewig o Berlin.
Dros y deg mis canlynol, achubwyd tua 10,000 o blant ffo Iddewig trwy’r Kindertransport. Ni fyddai’r rhan fwyaf ohonynt yn gweld eu rhieni byth eto gan y byddai llawer ohonynt yn cael eu llofruddio yn yr Holocost.
Yn ei llyfr Newydd, ‘Kindertransport-What Really Happened’, mae’r arbenigwr yr Athro Andrea Hammel yn awgrymu - er bod y cynllun Kindertransport yn aml yn cael ei ystyried yn enghraifft gadarnhaol o agwedd ddyngarol ac anhunanol y DU tuag at ffoaduriaid yn y gorffennol - mewn gwirionedd, y dylid bod yn fwy beirniadol wrth ystyried ei ganlyniadau.
Dywedodd yr Athro Hammel, Cyfarwyddwr Canolfan Astudio Symudedd Pobl:
“Yn draddodiadol, cofir am y Kindertransport fel cynllun hael a drefnwyd gan y llywodraeth, yn achubiaeth arwrol er gwaethaf yr holl anawsterau. Serch hynny, mae ymchwil helaeth dros y ddau ddegawd diwethaf yn awgrymu y dylid edrych ar waddol y Kindertransport yn fwy beirniadol.
“O safbwynt y gwaith trefnu a’r ariannu, ychydig o adnoddau a roddwyd gan lywodraeth Prydain, a oedd yn ymateb i bwysau gan y cyhoedd a arswydai o weld y datblygiadau o dan y Drydedd Reich. Yn wir, roedd y Kindertransport yn ddibynnol ar roddion elusennol a gwirfoddolwyr.
“Hefyd, dim ond i blant y llaciwyd y rheolau ar gael teithebau – gwrthododd dderbyn rhieni y plant ffo, gan y byddent wedi cystadlu am swyddi ar adeg o ddiweithdra uchel ymhlith gweithwyr Prydain. Ni fu’r meini prawf dethol yn blaenoriaethu’r achosion mwyaf dybryd, ychwaith, ond yn hytrach yn ffafrio’r rhai oedd yn debygol o wneud y cyfraniad gorau i’r gymdeithas. Ac fe gafodd rhai plant a phobl ifainc eu rhoi mewn cartrefi anaddas, gan arwain at ganlyniadau erchyll ar adegau.
“Gallwn ddysgu llawer gan hanes o ran sut y triniwyd ffoaduriaid yn hanesyddol, ac fe allai hynny wneud bywyd yn haws i blant sy’n ffoi rhag ymladd heddiw. Felly mae’n bwysig ein bod yn edrych yn realistig ar fethiannau yn ogystal â llwyddiannau’r Kindertransport.”
Mae ‘Kindertransport – What Really Happened’ gan yr Athro Andrea Hammel wedi’i gyhoeddi gan Polity Books.