Cydnabod myfyrwraig gyfranodd at ddatrys cod Enigma
Joy Welch
30 Tachwedd 2023
Mi fydd ystafell seminar yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn cael ei henwi er cof am gyn-fyfyrwraig gyfrannodd at ddatrys y cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Ymunodd Joy Welch â Phrifysgol Aberystwyth yn 1946 a bu’n astudio Economeg, Daearyddiaeth ac Athroniaeth gan raddio yn 1950. Bu farw yn 2017.
Nawr, mae'r Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol a sefydlodd yn ei henw ym 1988 wedi cyfrannu £170,000 tuag at brosiect yr Hen Goleg, arian a fydd yn mynd tuag at greu Ystafell Seminar Joy Welch.
Mae'r rhodd yn golygu fod cyfanswm yr arian a godwyd at y prosiect gan unigolion, ymddiriedolaethau a sefydliadau bellach wedi croesi’r £4m.
Ynghyd â chyfraniadau oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Cymunedau'r Arfordir a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae cyfanswm yr arian a godwyd bellach dros £30m, gan ei gwneud yn un o'r ymgyrchoedd codi arian mwyaf llwyddiannus yn hanes Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, arweinydd Prosiect yr Hen Goleg: “Rydym yn falch iawn o dderbyn cefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch a'i rhodd hael tuag at brosiect yr Hen Goleg.
"Mae'r Hen Goleg yn adeilad hynod bwysig i lawer fawr o bobl ac mae eu cefnogaeth hael i'r prosiect yn adlewyrchu hyn yn glir. Mae ein gweledigaeth ar gyfer canolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth a diwylliant hefyd wedi taro deuddeg gyda'n prif gyllidwyr. Mae eu cefnogaeth yn hanfodol i drawsnewid yr adeilad yn atyniad o arwyddocâd cenedlaethol a fydd yn dod â manteision economaidd sylweddol i Aberystwyth a’r ardaloedd cyfagos.”
“Mae’r hyn sydd wedi’i gyflawni gan ein tîm codi arian yn rhyfeddol. Fodd bynnag, mae’r gwaith yn parhau wrth inni anelu i wireddu potensial llawn yr adeilad rhestredig Gradd 1 hynod hwn.”
Mae gwybodaeth am Apêl yr Hen Goleg ar gael arlein yma.
Joy Welsh
Yn wreiddiol o Glagate ger Lancaster, gwirfoddolodd Joy Welch ar gyfer Gwasanaeth Merched y Llynges Frenhinol (WRNS) yn 1943, â hithau’n 17 oed.
Aeth ei gwaith gyda’r WRNS â hi i Eastcote, a oedd wedi ei gysylltu â Bletchley Park, lle bu’n gweithio ar y peiriannau a ddefnyddiwyd i dorri cod Enigma’r Almaen.
Ym 1988 sefydlodd Ymddiriedolaeth Elusennol Addysgol Joy Welch a derbyniodd y Brifysgol gefnogaeth reolaidd ganddi, gan adlewyrchu ei hatgofion melys o'i chyfnod yn Aberystwyth.
Cydnabuwyd ei chefnogaeth hirdymor ym 1998 pan dderbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan y Brifysgol.
Ar hyd y blynyddoedd cyfrannodd yr Ymddiriedolaeth dros £400,000 er mwyn cyllido ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac ar Ddiwrnod y Sylfaenwyr eleni cyhoeddodd y Brifysgol ei bod wedi derbyn gwaddol newydd o £3.15m gan yr Ymddiriedolaeth.
Bydd y gronfa hon yn cyllido o leiaf 12 grant ymchwil ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig neu ôl-ddoethurol ar draws pob disgyblaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Bywyd Newydd i’r Hen Goleg
Bydd y prosiect £43m i roi bywyd newydd i’r Hen Goleg yn darparu canolfan newydd o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd o Wybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Arwyddair y Brifysgol yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer Byd o Wybodaeth a fydd yn cynnwys canolfan a fydd yn dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa’r Brifysgol, parth Pobl Ifanc â gweithgareddau wedi’u harwain gan bobl ifanc i hybu sgiliau, dyheadau a lles, a chanolfan astudio myfyrwyr 24-7 a sinema â’r dechnoleg ddiweddaraf.
Y Cwad yw calon yr Hen Goleg, a bydd yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Diwylliant a Chymuned a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid o bwys. Bydd y parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc ym maes busnesau creadigol a digidol, dwy sector sy’n tyfu’n gyflym ac o bwysigrwydd economaidd mawr i orllewin Cymru.
Unwaith y bydd wedi ei orffen mae disgwyl i’r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m at yr economi leol yn flynyddol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth megis cestyll Caernarfon a Chonwy.
Caiff hyd at 130 o swyddi eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4* a mannau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys ystafell ddigwyddiadau ar gyfer hyd at 200 o bobl gyda golygfeydd dramatig ar draws Bae Ceredigion.
Mae disgwyl i Gam 1, sef yr Hen Goleg ei hun a'r filas Sioraidd (1 a 2 Marine Terrace), gael ei gwblhau tua diwedd 2025.
Bydd Cam 2, Y Cambria, yn dilyn ac mae disgwyl i’r gwaith hwnnw gymryd blwyddyn arall i’w gwblhau.