Mosaig yr Hen Goleg
Rhan o'r mosaig gan C F A Voysey. Credir bod y ffigwr canolog yn cynrychioli'r mathemategydd Groegaidd, y ffisegydd, peiriannydd a seryddwr Archimedes.
29 Tachwedd 2023
Ddiwedd yr 1800au cafodd ei ddifrïo a’i alw’n "flotyn" ac yn "anffodus", ond mae'r mosaig ar ben deheuol Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi dod yn un o nodweddion diffiniol yr adeilad Gothig eiconig o Oes Fictoria.
Y pensaer, John Pollard Seddon, a gomisiynodd y mosaig a thalu amdano o’i boced ei hun. Fe’i cynlluniwyd gan yr artist Charles F. A. Voysey a'i gynhyrchu gan Gwmni Mosaig Jesse Rust o Battersea, gan ddefnyddio gwydr a ailgylchwyd wedi'i asio â thywod a phigment.
Cafodd ei osod yn ei le ym 1887 yn rhan o waith ailadeiladu’r Hen Goleg ar ôl tân dinistriol 1885; nid yw’r elfennau wedi pylu’r lliwiau ac mae'n dal y llygad ar unwaith wrth edrych i lawr o dir castell Aberystwyth.
138 mlynedd yn ddiweddarach ac mae'r Hen Goleg yn cael ei drawsnewid eto, y tro hwn yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol bwysig i Gymru.
Oherwydd bod sgaffaldiau wedi’u codi i hwyluso'r gwaith, cafodd yr artist o Aberystwyth, Alison Pierse, gyfle yn ddiweddar i astudio'r mosäig yn agos a rhoi barn ar ei gyflwr.
Yn ogystal â’i swydd yn Gydlynydd Dysgu Gydol Oes yn Ysgol Addysg y Brifysgol a dysgu cyrsiau Celf, mae Alison yn artist mosaig ei hun, ac fe gyhoeddodd erthygl ar fosaig yr Hen Goleg yng nghyfnodolyn Cymdeithas C. F. A. Voysey, TheOrchard, ym mis Hydref 2022.
Gan agor gydag ymateb yr Athro Ainsworth i'r mosaig - ‘The only blot to spoil the picture being the unfortunate mosaic!’, mae Alison yn disgrifio’i ddatblygiad a'r dadlau a ddilynodd.
"Darbwyllwyd Pwyllgor y Coleg gan Seddon i ymgorffori mosaig ar du allan adain ddeheuol newydd Coleg y Brifysgol - ar thema a fyddai'n adlewyrchu datblygiadau newydd diwedd cyfnod Fictoria mewn gwyddoniaeth a diwydiant. Rhoddodd i'r Voysey ifanc y dasg o ddylunio mosaig tri phanel i’r adran Wyddoniaeth newydd, i'w osod o fewn i ffrâm o dywodfaen wedi'i cherfio yn y wal."
Roedd dylanwad William Morris yn fawr ar Voysey, a daeth yn ffigwr blaenllaw yn y mudiad Celf a Chrefft.
"Mae darluniau Voysey ar gyfer y mosaig gwreiddiol (sydd bellach yn archif RIBA) yn wahanol iawn i'r mosaig a roddwyd yn ei le. Mae'r dyluniad gwreiddiol yn anghymesur – mae'r ffigwr ar y dde mewn ystum tri-chwarter, contrapposto, yn hanner penlinio, yn dal llyfr ac yn chwifio bolltau mellt i symboleiddio trydan. Mae'r ffigwr ar y chwith yn dal trên stêm a glôb. Mae'r ffigwr yn y canol yn eistedd, mewn myfyrdod, ei ên yn pwyso ar ei law dde."
Fodd bynnag, roedd y dyluniad yn cynnwys elfennau a oedd yn ddadleuol ac a allai fod wedi arwain at waredu’r gwaith yn llwyr flwyddyn yn unig ar ôl ei osod.
Credir bod y ffigwr canolog yn cynrychioli'r mathemategydd Groegaidd, y ffisegydd, peiriannydd a seryddwr Archimedes, ac fe eisteddai’n wreiddiol ar orsedd ag arni symbolau offeiriadolaeth, yn cynnwys coron driphlyg y babaeth.
Yn ôl Voysey, bwriad hyn oedd "awgrymu'r gwrthdaro rhwng gwyddoniaeth a dogma", ond ni fu’r ymateb yn dda.
Ychwanega Alison: "Nid tan i'r mosaig gael ei greu a'i osod ar fur yr Hen Goleg (1887) y sylwodd Pwyllgor Bwrdd y Coleg ar y symboliaeth offeiriadolaeth yr oedd Voysey wedi'i chynnwys yn ei ddyluniad. O ddarllen y geiriau yng nghofnodion Bwrdd y Coleg, megis 'sarhaus, anffodus ac annerbyniol’ gwelir pa mor gryf oedd teimladau’r capelwyr ar y Bwrdd, a fynnodd fod Voysey naill ai'n gwneud newidiadau i'w ddyluniad, neu y câi’r mosaig ei dynnu i lawr."
Byddai wedi bod yn rhy ddrud i’w symud ac felly newidiwyd y mosaig a dilëwyd y delweddau Pabyddol.
Ymddengys bod amheuon Coleg Prifysgol Cymru am y mosaig wedi parhau a gwnaed ymgais arall ym 1897 i gael gwared ag ef. Unwaith eto, cost ei dynnu i lawr a achubodd y dydd.