Campfa hunan-bweru i agor yn y gromen chwaraeon newydd
Delwedd artist o sut fydd y gamfa hunan-bweru newydd yn edrych.
24 Tachwedd 2023
Mae cynlluniau ar gyfer canolfan ymarfer fawr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth gam yn agosach yn sgil codi cromen chwaraeon newydd ar Gampws Penglais.
Mi fydd y gromen, sy’n 40 metr wrth 23 metr ac wedi ei lleoli yn ymyl cae chwaraeon amlbwrpas Canolfan Chwaraeon y Brifysgol, yn cynnwys offer campfa hunan-bweru newydd ac yn agor ym mis Rhagfyr 2023.
Gyda sgriniau’n darparu'r holl ddata ymarfer corff angenrheidiol, bydd y beiciau a’r peiriannau rhwyfo a cherdded/rhedeg newydd yn cael eu pweru gan y defnyddwyr yn hytrach na’u plygio i gyflenwad trydan.
Darparwyd yr offer newydd gan Matrix Fitness ac mae wedi ei ariannu'n rhannol gan grant o £250k gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac ar hyn o bryd wedi’u lleoli yn Neuadd Chwaraeon y Ganolfan Chwaraeon.
Bydd symud yr offer i’r gromen chwaraeon yn dyblu nifer y gorsafoedd a fydd ar gael o 65 i 130.
Mae’r gwaith yn rhan o raglen uwchraddio a fydd yn y golygu y bydd y peiriannau oll yn rhai hunan-bweru yn y pen draw.
Mae dwy haenen anrhyloyw i’r gromen newydd er mwyn atal gorboethi ar ddiwrnodau heulog llachar a cholli gormod o wres mewn tywydd oer, a hynny er mwyn lleihau’r defnydd ynni.
Dywedodd Darren Hathaway, Pennaeth Chwaraeon a Thiroedd Prifysgol Aberystwyth:
"‘Dyn ni’n ymfalchïo yn y cyfleusterau sydd gennyn ni yma yng Nghanolfan Chwaraeon y Brifysgol, ac sy'n agored i fyfyrwyr, staff a'r gymuned leol.
"‘Dyn ni’n gwneud pob ymdrech i fuddsoddi yn ein cyfleusterau a, lle bo'n bosibl, i arloesi wrth uwchraddio’r offer. Mae’r offer hunan-bweru newydd yn gam bach arall tuag at gyfyngu ein hôl troed carbon wrth i'r Brifysgol weithio tuag at ddod yn ystâd sero net erbyn 2030. ‘Dyn ni hefyd yn gobeithio y bydd pawb sy'n defnyddio'r offer newydd yn teimlo ychydig yn well o wybod eu bod nhw o fudd i’r iechyd, i’r meddwl ac i’r amgylchedd."
Bydd y symud yn golygu y bydd y Neuadd Chwaraeon yn dychwelyd at ddefnydd hamdden a chwaraeon tîm fel pêl-rwyd a phêl-fasged, a rhaglen ymarfer corff helaeth y Ganolfan Chwaraeon, Ffit-rhwydd.
Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth ar agor i fyfyrwyr, staff ac aelodau'r cyhoedd. Mae manylion ffioedd aelodaeth a'r cyfleusterau ar gael ar-lein.