Gwobr Frenhinol i Brifysgol Aberystwyth am ymchwil arloesol ym maes parasitoleg
Mae Sgistosomiasis yn effeithio ar dros 200 miliwn o bobl ledled y byd ac mae’n cael ei drosglwyddo gan falwod dŵr croyw mewn ardaloedd trofannol yn Affrica, Asia a De America.
17 Tachwedd 2023
Mae Gwobr Pen-blwydd y Frenhines wedi'i dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth am ei gwaith arloesol yn mynd i’r afael ag effaith andwyol llyngyr lledog parasitig.
Mae’r wobr, sy'n rhan o’r system Anrhydeddau Prydeinig, yn dathlu gwaith gwyddonwyr yn Adran Gwyddorau Bywyd y Brifysgol, sy’n arbenigo ar grŵp penodol o lyngyr lledog parasitig sy’n achosi clefydau distrywiol fel Sgistosomiasis mewn pobl a Ffasgiolosis mewn da byw.
Mae Sgistosomiasis yn glefyd trofannol sydd fel rheol yn lledaenu drwy gysylltiad â dŵr ffres wedi’i heintio, gan ladd tua 12,000 o bobl ac yn heintio mwy na 200 miliwn bob blwyddyn.
Mae Fasciolosis yn effeithio ar fwy na 300 miliwn o wartheg a 250 miliwn o ddefaid yn fyd-eang, gyda cholledion i’r diwydiant amaeth o dros £2.5 biliwn y flwyddyn.
Caiff Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines eu dyfarnu am yn ail flwyddyn i ddathlu rhagoriaeth ac arloesedd ac i gydnabod gwaith eithriadol sydd o fudd i’r byd ehangach.
Dan ofal yr Ymddiriedolaeth Pen-blwydd Frenhinol, dyma'r Anrhydedd uchaf i’w dyfarnu i sefydliadau addysg bellach ac uwch y Deyrnas Gyfunol.
Cafodd enwau’r 22 o brifysgolion a cholegau a enillodd y wobr eleni eu cyhoeddi mewn derbyniad ym Mhalas St James’s neithiwr (16 Tachwedd).
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Rwyf wrth fy modd bod gwaith blaengar ein gwyddonwyr yn cael ei gydnabod â Gwobr Pen-blwydd y Frenhines ac rwy’n estyn fy llongyfarchiadau diffuant i bawb a fuodd yn ymwneud â’r ymchwil arloesol hwn, ddoe a heddiw. Mae ein gwyddonwyr wedi bod yn astudio’r parasitiaid hyn ers dros ganrif, gan ddadansoddi eu cylchoedd bywyd cymhleth a’u rhyngweithiadau cynnal i lefel ddigynsail o fanwl, a nodi gwendidau y gellir eu targedu â brechlynnau neu gyffuriau newydd. Mae’r wobr yn tanlinellu pwysigrwydd yr ymchwil o safon byd-eang sy’n digwydd yma yn Aberystwyth.”
Meddai Karl Hoffmann, Cyfarwyddwr Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Llyngyr, Prifysgol Aberystwyth:
“Mae llyngyr parasitig yn achosi rhai o’r clefydau heintus mwyaf andwyol, llesgaidd a chronig ymhlith pobl ac anifeiliaid ledled y byd. Maen nhw’n lladd miloedd o bobl ac anifeiliaid yn flynyddol, ac yn arwain at ddioddefaint miliynau’n fwy. Maen nhw hefyd yn bygwth diogelwch bwyd a chnydau ac yn creu colledion economaidd sylweddol.
“Mae’r wobr hon yn deyrnged i’r parasitolegwyr sydd wedi creu canolfan ragoriaeth yn Aberystwyth ac sy’n chwarae rhan allweddol yn yr ymdrechion rhyngwladol i reoli clefydau llyngyr lledog a lliniaru ar eu heffeithiau andwyol ar iechyd pobl ac anifeiliaid yn ogystal â chynhyrchu bwyd yn fyd-eang.”
Dywedodd Syr Damon Buffini, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Penblwydd Brenhinol:
“Mae Gwobrau Penblwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach yn rhan annatod o’n cyfundrefn Anrhydeddau genedlaethol, gan daflu goleuni ar y gwaith arloesol sy’n digwydd mewn prifysgolion a cholegau ledled y Deyrnas Gyfunol. Mae pob un o’r 22 enillydd yn dangos rhagoriaeth, arloesedd ac effaith, gyda llawer yn mynd i’r afael â rhai o’r problemau anoddaf rydym ni fel cymdeithas yn eu hwynebu heddiw. Dylid eu canmol am gyrraedd y pinacl hwn o lwyddiant yn y sector addysg drydyddol. Llongyfarchiadau!”
Enillodd Prifysgol Aberystwyth Wobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2009 yn ogystal yn dilyn cydnabyddiaeth o’i hymchwil arloesol ac uchel ei effaith ym maes bridio planhigion a chnydau.