Dadorchuddio Plac Porffor i Anrhydeddu Cennad Heddwch
Dadorchuddio'r plac gyda gwesteion yn cynnwys Rolant Elis (ŵyr), Meg Elis (wyres), Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yr Athro Elizabeth Treasure, Eluned Morgan AS, ac aelodau Pwyllgor Placiau Porffor Cymru.
03 Tachwedd 2023
Bydd un o’r placiau porffor uchel eu bri yn cael ei ddadorchuddio yn Aberystwyth heddiw (dydd Gwener 3 Tachwedd) i anrhydeddu cyfraniad rhyfeddol menyw a arweiniodd ddirprwyaeth i’r Unol Daleithiau ym 1924 i gyflwyno deiseb heddwch wedi’i llofnodi gan bron i 400,000 o fenywod Cymru.
Caiff y plac er cof am Annie Hughes Griffiths (1872-1942), a fu’n astudio yn Aberystwyth yn y 1890au, ei osod ar wal ei chyn gartref ym Maes Lowri lle mae ei ŵyr dal yn byw.
Caiff ei ddadorchuddio am 1 o’r gloch ddydd Gwener 3 Tachwedd gan aelodau o’i theulu a bydd Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Prif Chwip Llywodraeth Cymru, Jane Hutt AS, ymhlith y siaradwyr.
Annie Hughes Griffiths yw’r bedwaredd fenyw ar ddeg i’w anrhydeddu gan fudiad Placiau Porffor Cymru, a sefydlwyd er mwyn gwella cydnabyddiaeth menywod eithriadol yng Nghymru.
Dywedodd Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru: “Rydyn ni’n meddwl bod Annie wir yn ymgorffori ysbryd Placiau Porffor Cymru. Mae’r ffaith ei bod hi’n gallu arwain ar brosiect a oedd yn cyffwrdd llawer iawn o fenywod ledled Cymru a’u hysbrydoli i arwyddo deiseb o blaid heddwch yn arbennig iawn, ond yn fwy felly mewn oes heb y math o gyfathrebu sydd gennym ni heddiw. Ac roedd mynd ymlaen wedyn a’i chyflwyno i Arlywydd yr Unol Daleithiau a theithio ar draws y wlad yn gamp anhygoel. Rydw i mor falch y gallwn ni nodi hyn gyda Phlac Porffor.”
Dywedodd Jane Hutt MS: "Roedd Annie Hughes Griffiths yn arloeswraig ym mudiad heddwch y menywod yng Nghymru ac mae'n iawn ei bod yn cael ei chofio am ei hymdrechion rhyfeddol gyda phlac porffor. Rwy'n falch iawn bod ei hetifeddiaeth bellach yn cael ei chydnabod ac mae'r ddeiseb a gafodd ei harwain ganddi hi wedi'i dychwelyd i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth."
Mae’r seremoni’r Plac Porffor yn rhan o raglen Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth. ‘Hawlio Heddwch’ yw thema’r ŵyl eleni, wedi’i hysbrydoli gan ganmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24.
Yn dilyn y seremoni, bydd cyfrol ddwyieithog yn cael ei lansio yn y Llyfrgell Genedlaethol am 5yp ddydd Gwener 3 Tachwedd, lle mae’r ddeiseb bellach yn cael ei harddangos.
Wedi’i golygu gan yr Athro Mererid Hopwood a Dr Jenny Mathers o Brifysgol Aberystwyth, mae Yr Apêl / The Appeal (Y Lolfa) yn cloriannu arwyddocâd yr ymgyrch heddwch a sut aeth Annie Hughes Griffiths a thîm o drefnwyr ati i gasglu llofnodion 390,296 o fenywod o bob cefndir a phob cwr o Gymru.
Dywedodd yr Athro Mererid Hopwood: “Wrth i ni lansio cyfrol yn adrodd hanes rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru, mae’n arbennig o addas ein bod yn dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu ymdrechion Annie a’r miloedd o fenywod eraill a ddaeth ynghyd ganrif yn ôl i wneud apêl mor uchelgeisiol am heddwch byd-eang.”
Mae tocynnau ar gyfer Gŵyl Ymchwil Prifysgol Aberystwyth – Hawlio Heddwch yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.