Dau ddeg tri miliwn yn agored i lygredd mwyngloddio metel - astudiaeth
Argae sorod wedi’i fethu’n rhannol yng ngogledd-orllewin Rwmania (Credyd: Yr Athro Paul Brewer, Prifysgol Aberystwyth)
22 Medi 2023
Credir bod dau ddeg tri miliwn o bobl o amgylch y byd yn cael ei heffeithio gan groniadau gwastraff gwenwynig a all fod yn beryglus, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae’r ymchwil gan dîm sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth ac sydd wedi ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Science, yn cynnig cipolwg newydd ar effaith helaeth llygredd mwyngloddio metel ar afonydd a gorlifdiroedd ledled y byd. Mae hefyd yn dangos yr heriau amgylcheddol ac iechyd sy’n gysylltiedig â hynny.
Gan ddefnyddio cronfa ddata fyd-eang newydd o 185,000 o fwyngloddiau metel, asesodd yr ymchwil raddfa fyd-eang llygredd mwyngloddio metel mewn systemau afonydd a’r effeithiau ar boblogaethau dynol a da byw.
Fe fodelodd yr astudiaeth lygredd o bob safle mwyngloddio metel gweithredol ac anweithredol hysbys, gan gynnwys cyfleusterau storio sorod - a ddefnyddir i storio gwastraff mwyngloddio – gan edrych ar fetelau llygredig a allai fod yn niweidiol fel plwm, sinc, copr ac arsenig, sy'n symud i lawr yr afon o safleoedd mwyngloddio ac sydd yn aml yn cael ei ddyddodi mewn sianeli afonydd ac ar orlifdiroedd am gyfnodau estynedig.
Mae’r canlyniadau’n amlygu cyrhaeddiad eang y llygredd, gan effeithio ar tua 479,200 cilomedr o sianeli afonydd ac yn cwmpasu 164,000 cilomedr sgwâr o orlifdiroedd ar raddfa fyd-eang.
Mae tua 23.48 miliwn o bobl yn byw ar y gorlifdiroedd hyn sydd wedi eu heffeithio, gan gynnal 5.72 miliwn o dda byw a chwmpasu dros 65,000 cilomedr sgwâr o dir dyfrhau. Oherwydd diffyg data sydd ar gael ar gyfer sawl gwlad, mae'r tîm sy’n gyfrifol am yr astudiaeth yn credu bod y niferoedd hyn yn amcangyfrif ceidwadol.
Gall bodau dynol ddod i gysylltiad â’r metelau llygredig hyn mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys trwy gysylltiad uniongyrchol â’r croen, llyncu damweiniol, anadlu llwch llygredig, yfed dŵr llygredig a bwyta bwyd sy’n cael ei dyfu ar briddoedd llygredig.
Mae hyn yn achosi perygl ychwanegol i iechyd cymunedau trefol a gwledig mewn gwledydd incwm isel a chymunedau sy'n dibynnu ar yr afonydd a'r gorlifdiroedd hyn, yn enwedig mewn ardaloedd sydd eisoes yn llawn afiechydon sy'n gysylltiedig â dŵr.
Mewn gwledydd diwydiannol yng Ngorllewin Ewrop, gan gynnwys y Deyrnas Gyfunol, a’r Unol Daleithiau, mae’r llygredd metel hwn yn fygythiad mawr a chynyddol i ddiogelwch dŵr a bwyd, yn peryglu gwasanaethau ecosystem hanfodol, ac yn cyfrannu at ymwrthedd gwrthficrobaidd yn yr amgylchedd.
Dywedodd un o awduron yr ymchwil, yr Athro Paul Brewer o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’r canfyddiadau arwyddocaol iawn hyn yn dangos maint y bygythiad i bobl, ecosystemau, a’r amgylchedd ehangach o weithgarwch mwyngloddio metel ar draws y byd. Am y tro cyntaf rydyn ni wedi gallu sefydlu bod nifer y bobl sy'n agored i fetelau llygredig sy'n dod o ollwng gwastraff mwyngloddio i afonydd dros yr hirdymor bron i 50 gwaith yn fwy na'r nifer sydd wedi eu heffeithio’n uniongyrchol gan fethiannau argaeau sorod difrifol.
“Mae’r dull modelu newydd a gafodd ei ddefnyddio yn yr astudiaeth hon yn cynnig ffordd i’r diwydiant ac asiantaethau rheoleiddio asesu effeithiau posibl gweithgarwch mwyngloddio metel i lawr yr afon ar boblogaethau dynol a’r amgylchedd. Bydd hyn o fudd i genedlaethau’r dyfodol gan y byddwn yn gallu datblygu strategaethau gwell sy’n seiliedig ar ddata ar gyfer nodi a rheoli tir sydd wedi’i lygru gan fwyngloddio metel.”
Gwnaeth yr Athro Mark Macklin, a arweiniodd y tîm ymchwil amlddisgyblaethol, sylwadau ar arwyddocâd yr astudiaeth, gan nodi:
“Mae ein methodoleg modelu a mapio newydd sy’n seiliedig ar brosesau ar gyfer rhagweld gwasgaru gwastraff mwyngloddio mewn systemau afonydd ledled y byd yn cynnig ffordd i lywodraethau, rheoleiddwyr amgylcheddol, a’r diwydiant mwyngloddio a fydd, am y tro cyntaf, allu asesu’r effaith oddi ar y safle ac i lawr yr afon o fwyngloddio ar ecosystemau ac iechyd pobl.
“Rydyn ni’n disgwyl y bydd hyn yn helpu lliniaru’n sylweddol effeithiau amgylcheddol mwyngloddio hanesyddol a phresennol ac, yn bwysicaf oll, cynorthwyo lleihau effeithiau datblygiadau mwyngloddio yn y dyfodol ar gymunedau, yn ogystal ag amddiffyn diogelwch bwyd a dŵr.”