Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber yn cael ei phenodi i fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Dr Rhian Hayward MBE
01 Medi 2023
MaeDr Rhian Hayward MBE wedi cael ei phenodi yn Aelod i gynrychioli Cymru ar Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Dr Hayward yw Prif Swyddog Gweithredol ArloesiAber ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n cynnig adnoddau ac arbenigedd sydd ymhlith y gorau yn y byd yn y sector biotechnoleg, technoleg amaeth a bwyd a diod, gan annog busnesau, entrepreneuriaid ac academyddion i gydweithio ym maes ymchwil.
Gwnaed y penodiad gan Lynne Neagle AS, Dirprwy Weinidog Iechyd a Lles Llywodraeth Cymru, a chafodd ei gyhoeddi heddiw (dydd Gwener 1 Medi) gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Bydd Dr Hayward yn gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd, gan ddechrau ar 1 Medi 2023, a hi hefyd fydd Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Yn ôl yr Athro Susan Jebb, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Rwy'n falch iawn o groesawu Rhian i Fwrdd yr Asiantaeth. Bydd yn dod â gwybodaeth a phrofiad eang i'r Bwrdd ac i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, gyda dealltwriaeth ddofn o’r strwythurau datganoledig y mae'r Asiantaeth yn gweithredu oddi mewn iddynt. Edrychaf ymlaen at weithio gyda hi wrth i ni barhau i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chyflawni ein nod o 'fwyd y gallwch ymddiried ynddo'."
Mae’r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth.
Dywedodd yr Athro Hatton: "O dan arweinyddiaeth Rhian, mae ArloesiAber yn creu rhwydwaith bywiog o entrepreneuriaid, busnesau ac ymchwilwyr sy'n darparu cynnyrch newydd ac arloesol yn y sectorau bwyd a diod, â photensial cyffrous ar gyfer twf economaidd. Bydd ei phrofiad a'i gwybodaeth eang am y sector o fudd aruthrol i'r Asiantaeth ac yn ei gwaith fel Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru."
Mae Dr Hayward wedi bod yn dilyn gyrfa ym meysydd gwyddoniaeth ac arloesi. Bu’n Is-gadeirydd Cymdeithas Parciau Gwyddoniaeth y Deyrnas Unedig a chafodd sawl penodiad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys aelodaeth o Fwrdd Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol a Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod.
Daw Dr Hayward yn wreiddiol o Abertawe, ac mae ganddi DPhil o Brifysgol Rhydychen mewn epidemioleg clefydau heintus a gradd BSc dosbarth cyntaf o Goleg King’s, Llundain. Mae’n un o Gymrodyr Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Dyfarnwyd MBE i Rhian am wasanaethau i Entrepreneuriaeth yng Nghymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2016.
Meddai Dr Rhian Hayward: "Mae'n destun balchder mawr imi gael ymuno â Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chefnogi eu gwaith pwysig wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr ym maes bwyd. Mae’r cyfrifoldeb i gynghori ar faterion sy'n ymwneud â Chymru a chynrychioli buddiannau Cymru yn un rwy'n ei dderbyn â brwdfrydedd ac ymrwymiad personol sylweddol."
Penodiad am 35 diwrnod y flwyddyn yw hwn, â thâl o £14,000 y flwyddyn. Gwnaed y penodiad hwn ar sail teilyngdod a chan ddilyn Cod Ymarfer y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.