Cyhoeddi Meri Huws yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth
Meri Huws
28 Gorffennaf 2023
Mae cyn Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi ei phenodi’n Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth.
Ymunodd Meri Huws â Chyngor y Brifysgol yn 2019, gan wasanaethu fel dirprwy i’r Cadeirydd presennol Dr Emyr Roberts ers Awst 2021.
Daw’n Gadeirydd ar 1 Ionawr 2024, ar ôl i dymor Dr Roberts ddod i ben.
Yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, Meri Huws oedd Comisiynydd y Gymraeg cyntaf Cymru gan wasanaethu yn y rôl rhwng 2012-2019. Cyn hynny bu’n Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Roedd ei rolau blaenorol yn cynnwys swyddi Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ei sir enedigol, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Meri Huws, Darpar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth:
“Bydd yn fraint dod yn Gadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfle i gyfrannu at fy alma mater fel aelod o’r Cyngor am y bedair blynedd diwethaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at wasanaethu fel Cadeirydd am y cyfnod sydd i ddod.
“Fel Prifysgol sy’n tyfu, ac ar fin penodi Is-Ganghellor newydd, bydd fy ffocws i ar gefnogi datblygiad a momentwm parhaus y sefydliad gwych a hanesyddol hwn. Mae’n Brifysgol sy’n rhagori mewn addysgu ac ymchwil ac rwy’n falch iawn o’n record fel sefydliad o bwys byd-eang sydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd ein hardal, ein ranbarth a’n cenedl.”
Dywedodd Cadeirydd presennol Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Dr Emyr Roberts:
“Llongyfarchiadau gwresog i Meri ar ei phenodiad i’m olynu fel Cadeirydd y Cyngor. Rwyf wrth fy modd y bydd gan y Cyngor unigolyn wrth ei lyw sydd â record mor nodedig, ac ymrwymiad diamheuol i'n Prifysgol.
“Pan ddaw fy nhymor i ben ar ddiwedd 2023, byddaf yn gweld eisiau fy ngwaith gyda’r Brifysgol yn fawr. Fodd bynnag, gadawaf gyda’r hyder o wybod fod gennym Gadeirydd newydd yn ei lle sy’n ymgorffori gwerthoedd Aberystwyth, sydd wedi ein gwasanaethu cystal wrth i ni ddatblygu’r Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf.”