Ffisegwyr o Aberystwyth yn cydweithio ar brosiect telesgop solar
Darlun yn dangos sut y bydd Telesgop Solar Ewrop yn edrych ar ôl iddo gael ei adeiladu yn yr arsyllfa yn La Palma, Sbaen. Credyd: IDOM
26 Gorffennaf 2023
Mae Prifysgol Aberystwyth yn rhan o gydweithrediad rhyngwladol i adeiladu'r telesgop solar mwyaf a adeiladwyd yn Ewrop erioed.
Nod prosiect Telesgop Solar Ewrop (EST) yw darparu dirnadaethau newydd ac unigryw ynghylch ffenomenau tywydd y gofod.
Mae'r prosiect yn gydweithrediad rhwng nifer o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y DU.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o gonsortiwm o brifysgolion yn y DU a fydd yn cynorthwyo i ddatblygu dyluniadau ar gyfer adeiladu'r telesgop solar agorfa-fawr, a fydd wedi'i leoli yn arsyllfa fyd-enwog El Roque de los Muchachos, yn La Palma yn Sbaen.
Lansiwyd y prosiect EST yn 2008, a’i nod yw darparu dirnadaethau gwerthfawr ynghylch y mecanweithiau sy'n achosi ffagliadau heulol ac echdoriadau coronaidd lluosog.
Y digwyddiadau hyn sy’n creu ‘tywydd y gofod', fel y'i gelwir, sy’n gallu arwain at stormydd geomagnetig ar y ddaear - a welir ar ffurf goleuni'r gogledd - ac maent yn cael effaith sylweddol ar ein cymdeithas dechnolegol.
Arweinir Consortiwm Prifysgolion y Deyrnas Unedig (UKUC) gan Brifysgol Sheffield; ac mae’n cynnwys Prifysgolion Aberystwyth, Belfast, Durham, Caerwysg a Glasgow.
Meddai'r Athro Huw Morgan, Pennaeth Ffiseg Cysawd yr Haul ym Mhrifysgol Aberystwyth:
"Mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o fod yn aelod o gonsortiwm y DU ar gyfer Telesgop Solar Ewrop. Mae hyn yn adeiladu ar ein hanes hir o gyfrannu at ymgyrchoedd ac adnoddau rhyngwladol sy'n ymroddedig i wella ein dealltwriaeth o gysawd yr haul. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein hymchwilwyr wedi gwneud darganfyddiadau allweddol am yr Haul yn seiliedig ar ddata o delesgopau solar cyfredol ar y ddaear. Rydym felly’n gyffrous iawn i fod yn rhan o'r rhwydwaith Ewrop-gyfan hwn o sefydliadau a fydd yn cydweithio i adeiladu'r adnodd newydd hwn."
Yr Athro Robertus von Fay-Siebenburgen o Ysgol Mathemateg ac Ystadegau Prifysgol Sheffield yw prif ymchwilydd y prosiect UKUC. Meddai:
"Yr EST fydd y telesgop solar mwyaf a adeiladwyd yn Ewrop, a bydd yn cadw ei bartneriaid Ewropeaidd ar flaen y maes o ran ymchwil ffiseg solar.... Bydd y math hwn o seilwaith ymchwil, sydd heb ei ail yn y maes, yn adnodd hynod i seryddwyr ac astroffisegwyr plasma Ewropeaidd ar gyfer arsylwi ar yr Haul a thywydd y gofod, adnodd a fydd yn braenaru’r tir ar gyfer datblygiadau gwyddonol i fynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf a phwysicaf y byd, megis datblygu ynni ymasiad gwyrdd.
"Trwy allu astudio'r prosesau ffisegol sy'n digwydd yng nghromosffer yr haul yn y fath fanylder am y tro cyntaf, byddwn yn cael dirnadaeth newydd ynghylch sut mae'r mecanweithiau gwresogi sy'n sail i'r prosesau gwresogi plasma yn digwydd. Bydd dysgu sut mae’r prosesau hyn yn digwydd yn naturiol yn ein helpu i archwilio sut i efelychu'r broses er budd y ddynoliaeth."
Un o brif amcanion yr EST yw gwella ein dealltwriaeth o'r Haul trwy arsylwi ar ei feysydd magnetig mewn manylder digynsail. Unwaith y bydd yn weithredol, bydd yn gallu datgelu signalau sydd ar hyn o bryd wedi’u cuddio yn y sŵn, gan ddatgelu bodolaeth mân strwythurau magnetig anhysbys.
Cafodd y cam rhagarweiniol o ddylunio’r telesgop, a ariannwyd gan raglen Horizon 2020 y Comisiwn Ewropeaidd, ei gwblhau yn ddiweddar. Ar ôl cyfnod adeiladu o chwe blynedd, y bwriad yw y bydd yr EST yn dod yn weithredol yn 2028-2029.
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect, gweler: www.est-east.eu