Sioe Fawr: Dathlu unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru, ‘hyfforddi at anghenion y genedl’
rhai o fyfyrwyr milfeddygol Prifysgol Aberystwyth ar daith astudio ddiweddar yn Ne Affrica
24 Gorffennaf 2023
Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu dwy flynedd ers sefydlu unig Ysgol Gwyddor Filfeddygol Cymru ar faes y Sioe Fawr heddiw (11:30yb, dydd Llun, 24 Gorffennaf).
Ers 2021, mae myfyrwyr wedi bod yn astudio am radd Baglor mewn Gwyddor Filfeddygol (BVSc) sydd yn cael ei darparu ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC).
Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r ystod lawn o greaduriaid, o anifeiliaid anwes i anifeiliaid fferm, yn unol â phob rhaglen filfeddygol arall.
Fel rhan o’r radd bum mlynedd, mae’r myfyrwyr yn treulio dwy flynedd ym Mhrifysgol Aberystwyth a thair blynedd i ddilyn yng Nghampws Hawkshead yr RVC yn Swydd Hertford.
Ymysg y siaradwyr yn y digwyddiad dathlu ar faes y Sioe fydd y dyfarnwr rygbi rhyngwladol Nigel Owens, Dr Dylan Phillips o’r Coleg Cymraeg ynghyd â staff a myfyrwyr o’r Ysgol.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:
“Mae’n wych gweld y cwrs israddedig Gwyddor Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dathlu ei ail ben-blwydd. Mae mor bwysig i roi’r cyfle i filfeddygon y dyfodol astudio yng Nghymru, gan gynnwys addysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Wedi i mi eu gweld fy hun, rwy’n gallu tystio bod y cyfleusterau’n ardderchog ac rwy’n edrych ymlaen at weld yr Ysgol yn mynd o nerth i nerth.”
Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio agweddau penodol o wyddor filfeddygol drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chefnogaeth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Meddai Dr Dylan Phillips, Ysgrifennydd ac Uwch Reolwr Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Mae’r Coleg yn falch iawn o gefnogi datblygu’r ddarpariaeth Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth.
“Gyda chanran uwch o weithwyr yn medru’r Gymraeg yn y sector amaethyddol nag yn unrhyw sector arall yng Nghymru, mae’n bwysig ein bod yn meithrin graddedigion sydd â’r sgiliau addas ar gyfer gofynion y byd ffermio.
“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i deulu’r diweddar DGE Davies, Llandysul, am eu rhodd hael i’r Coleg i sefydlu Ysgoloriaeth Defi Fet er cof amdano. Mae’r ysgoloriaeth ar gael i un myfyriwr yn flynyddol sy’n astudio rhan o’u cynllun gradd Milfeddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn werth £500 y flwyddyn dros bum mlynedd.”
Dywedodd y dyfarnwr rygbi a ffermwr Nigel Owens:
“Mae’n wirioneddol wych bod yr Ysgol wedi’i sefydlu yn Aberystwyth. Dyma adnodd hynod o bwysig i Gymru ac i amaethyddiaeth yma. Mae’r ffaith bod darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ar y cwrs mor bwysig hefyd. Heb amheuaeth, mae’n rhywbeth i ni ddathlu ar lefel genedlaethol, yma yn y Sioe Fawr.”
Mae’r Ganolfan Addysg Milfeddygaeth yn rhan allweddol o Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth ac yn cynrychioli buddsoddiad o dros £2 miliwn mewn cyfleusterau addysgu newydd ar gampws Penglais. Cafodd y ganolfan, sy’n cynnwys cyfleusterau anatomi ac astudio newydd sbon, eu hariannu gan gyfuniad o roddion gwerth £500,000 gan gyn-fyfyrwyr a chronfeydd y Brifysgol ei hun.
Yn ogystal â’r cyfleusterau newydd ar gampws Penglais y Brifysgol, mae myfyrwyr hefyd yn astudio yn y labordai sy’n cael eu defnyddio gan fyfyrwyr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ac yn ennill profiad gwerthfawr ar ffermydd llaeth a defaid y Brifysgol, ac yng Nghanolfan Geffylau Lluest.
Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’n hyfryd gallu dathlu dwy flynedd gyntaf yr Ysgol, sydd wedi'i sefydlu er mwyn cwrdd ag anghenion unigryw Cymru, gyda phwyslais ar anifeiliaid fferm a’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
“Mae amaeth a’i diwydiannau perthynol yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru ac mae cyfrifoldeb arnom ni fel prifysgolion i ddarparu’r bobl a’r sgiliau a fydd yn cyfrannu at sicrhau eu bod yn llwyddo am flynyddoedd i ddod. Mae’r Ysgol Gwyddor Filfeddygol wedi ychwanegu darn hollbwysig i’r jig-so, un sy’n adeiladu gwytnwch yn yr economi wledig drwy addysg ac ymchwil mewn cyfnod o newid a heriau mawr posibl.
“Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r gorau o ddau fyd mewn prifysgolion sydd yn cynnig rhagoriaeth academaidd ac enw da am brofiad myfyrwyr, ac rwy’n diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at wireddu’r freuddwyd o ysgol gwyddor filfeddygol yng Nghymru.”
Dywedodd yr Athro Stuart Reid CBE, Llywydd a Phennaeth yr RVC:
“Mae’r Coleg Milfeddygol Brenhinol yn falch iawn o fod yn dathlu llwyddiant dwy flynedd gyntaf ein rhaglen filfeddygol ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac yn edrych ymlaen at groesawu’r garfan gyntaf o fyfyrwyr i gyfnodau clinigol eu gradd yn ddiweddarach eleni.”
Mae’r Ysgol yn adeiladu ar dros 100 mlynedd o addysg ac ymchwil ym maes iechyd anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, yn fwy diweddar, y radd BSc Biowyddorau Milfeddygol a gyflwynwyd yn llwyddiannus ym mis Medi 2015.