Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Ian Gwyn Hughes
Ian Gwyn Hughes
20 Gorffennaf 2023
Mae Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Diwylliant Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ddarlledwr y BBC, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.
Daw Ian Gwyn Hughes yn wreiddiol o Fae Colwyn a chafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Eirias, Bae Colwyn ac Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Aeth ymlaen i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth.
Ym 1982, dechreuodd ei yrfa ddarlledu yn gweithio i radio CBC (Cardiff Broadcasting Company). Erbyn diwedd y flwyddyn roedd wedi dechrau gweithio fel cyflwynydd a sylwebydd i Adran Chwaraeon BBC Cymru/Wales, a thros y tri degawd nesaf bu'n gweithio i'r BBC fel gohebydd pêl-droed, golygydd pêl-droed, ac fel sylwebydd ar Match of the Day.
Yn 2011 fe'i penodwyd yn Bennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a daeth yn Bennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
Dros y deuddeng mlynedd diwethaf mae wedi goruchwylio sawl moment allweddol yn hanes pêl-droed cenedlaethol Cymru, wedi bod yn rhan o ddwy Bencampwriaeth Ewropeaidd UEFA a Chwpan y Byd FIFA 2022 yn Qatar.
Cyflwynwyd Ian Gwyn Hughes fel Cymrawd er Anrhydedd gan Steve Thomas, Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth, a ddywedodd:
"I gefnogwyr pêl-droed, mae'r enw Ian Gwyn Hughes yn gyfarwydd iawn. Am flynyddoedd lawer, ef oedd llais pêl-droed rhyngwladol yng Nghymru. Ers 2011, mae wedi arwain cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, lle gellir crynhoi ei waith gan y llinell a fabwysiadwyd ac sydd bellach yn gyfarwydd – Gyda’n Gilydd yn Gryfach.
“Does dim dwywaith fod gweledigaeth Ian, sef dod â phawb at ei gilydd fel un carfan gref o gefnogwyr, a chreu cwlwm gwirioneddol rhwng y cyhoedd a’r chwaraewyr, wedi talu ar ei ganfed. Mae ei waith wedi bod yn rhan o stori lwyddiant ryfeddol i’r tîm cenedlaethol – i bêl-droed ac i’r genedl. Mae’n anrhydedd ac yn fraint cael cyflwyno Ian Gwyn Hughes yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.”
Wrth dderbyn ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd fel rhan o’r seremoni raddio ddydd Iau 20 Gorffennaf 2023, dywedodd Ian Gwyn Hughes:
“Fyddech chi ddim yn credu cymaint o fraint ac anrhydedd yw bod yma heddiw. Ddeugain mlynedd yn ôl, roeddwn i’n eistedd fyny yno yn graddio mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Rwyf wedi gweithio gyda phobl wych yn y byd darlledu yn y BBC ac fel pennaeth cyfathrebu yn y deng mlynedd diwethaf gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Wrth eistedd yno ddeugain mlynedd yn ôl, ni feddyliais erioed y byddai gradd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn arwain at fod yn bennaeth cyfathrebu mewn dwy Bencampwriaeth Ewropeaidd a Chwpan y Byd.”
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2023
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.
Mae gwobrau Prifysgol Aberystwyth yn dathlu unigolion sydd â gwreiddiau neu gysylltiadau yn yr ardal, ac sydd naill ai: wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac arbennig i ddatblygiad y Brifysgol dros gyfnod maith; wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth genedlaethol neu ryngwladol mewn maes academaidd sy’n berthnasol i’r Brifysgol; neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r byd diwylliannol, academaidd, addysgol, proffesiynol, neu economaidd.
Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2023 (yn y drefn y’u cyflwynir):
- Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Tina Evans, awdur blogiau ac areithwraig lawn ysbrydoliaeth 'Human on Wheels', a chyflwynydd teledu
- Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd
- Ann Griffith, Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022
- Yr Athro Dato' Dr Rahmat Mohamad, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Dechnolegol MARA, Malaysia
- Kate O'Sullivan, milfeddyg gyda Mill Referrals, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain
- Phil Thomas, milfeddyg, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da
- Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru.