Blas ar fywyd myfyrwyr milfeddyol i ddysgwyr o Gymru
Dysgwyr ar y Rhaglen Seren yng Nghanolfan Addysg Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth
19 Gorffennaf 2023
Mae dysgwyr ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn gyrfa fel milfeddyg wedi cael blas ar fywyd coleg wedi i Brifysgol Aberystwyth gynnal ei Hysgol Haf Milfeddygol Seren gyntaf.
Cofrestrodd cyfanswm o 40 o ddisgyblion o bob rhan o Gymru ar gyfer y rhaglen sy’n bedwar diwrnod o hyd ac wedi ei threfnu gan Ganolfan Addysg Filfeddygol y Brifysgol, a agorodd ar gampws Penglais ym mis Medi 2021 fel yr ysgol filfeddygol gyntaf yng Nghymru.
Mae Prifysgol Aberystwyth a rhaglen Seren Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd ar y prosiect, gan greu Ysgol Haf breswyl 4 diwrnod am ddim i ddysgwyr o Gymru sy'n ystyried astudio gwyddor filfeddygol.
Ychwanegodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
“Mae’n wych gweld cynifer o ddysgwyr Seren yn mynychu’r ddwy ysgol haf sy’n cael eu cynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’n arbennig o gyffrous ein bod ni’n gallu cefnogi’r ysgol haf Milfeddygaeth gyntaf, sy’n cynnwys profiad ymarferol gwerthfawr ar gyfer milfeddygon posibl y dyfodol. Mae’r rhaglen Seren wedi gweithio’n galed i ffurfio partneriaethau â phrifysgolion yng Nghymru, y DU a thramor er mwyn helpu i ehangu gorwelion a chodi dyheadau ymysg ein dysgwyr disgleiriaf yng Nghymru. Mae rhaglenni ysgol haf Seren yn cynnig cyfleoedd eithriadol i ddysgwyr yng Nghymru drwy roi profiad o fywyd prifysgol iddynt ynghyd â gweithgareddau allgyrsiol yn eu maes astudio o ddewis.”
Mae ehangu partneriaethau Seren gyda phrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd a cheisio creu gweithgareddau peilot newydd mewn meysydd penodol i bynciau ym mhrifysgolion Cymru yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru.
Dywedodd Siân Gwenllian, un o’r aelodau dynodedig:
“Rwy’n falch o weld y rhaglen Seren yn cael ei hymestyn i hyrwyddo rhagor o gyfleodd i ddysgwyr astudio ym mhrifysgolion Cymru ac i gynnwys meysydd pwnc newydd am y tro cyntaf, fel y gwelwn ni gyda’r cwrs Milfeddygaeth yn Aberystwyth. Bydd cynyddu ymwybyddiaeth a chyfleoedd i astudio ym mhrifysgolion Cymru yn gwneud gwahaniaeth i ddysgwyr ac i ddyfodol Cymru.”
Bydd yr Ysgol Haf Filfeddygol yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys sesiynau ar sgiliau clinigol anifeiliaid ac ymweliadau â fferm Trawsgoed a chanolfan geffylau’r Brifysgol yn ogystal â milfeddygfa leol.
Dywedodd Dr Gwenllian Rees, darlithydd Milfeddygaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym yn falch iawn o allu cynnig y sesiynau blasu unigryw hyn i bobl ifanc o Gymru sydd â diddordeb mewn dilyn gradd, ac yna gyrfa fel milfeddyg.
“Ein nod yw rhoi cyfle i filfeddygon y dyfodol gael profiad o fywyd fel myfyriwr milfeddygol, a hynny drwy amryw o sesiynau ymarferol gyda’r anifeiliaid ar ein fferm a’n canolfan geffylau ardderchog yn ogystal â darlithoedd a gwersi anatomeg. O na fyddai cwrs fel hyn ar gael pan oeddwn i’n ddisgybl ysgol yn Llanelli, yn breuddwydio am ddod yn filfeddyg rhyw ddiwrnod!”
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine:
"Mae'n wych gweld ysgol haf gyntaf milfeddygol Seren yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth - gan gynnwys rhaglen breswyl 4 diwrnod am ddim ar gyfer Milfeddygaeth.
Mae cefnogi milfeddygon y dyfodol drwy raglen Seren Llywodraeth Cymru yn wych. Mae gan filfeddygon rôl allweddol wrth sicrhau bod anifeiliaid yn iach ac yn cael ansawdd bywyd da, ac mae'r proffesiwn milfeddygol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa gyffrous. Mae'n bwysig iawn i ddysgwyr ysgolion uwchradd allu cael profiad gwerthfawr o astudio i fod yn filfeddyg, a'r cyfleoedd sydd ar gael wedyn."
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnal ysgol haf bedwar diwrnod o 17-20 Gorffennaf 2023 ar gyfer 80 o ddisgyblion o Gymru sydd newydd orffen eu haroliadau TGAU ac sydd â diddordeb ym maes y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol.
Mae eu rhaglen, sydd hefyd yn cael ei hariannu drwy raglen Seren Llywodraeth Cymru, yn cynnwys sesiynau dan arweiniad yr Athro Mererid Hopwood ar y Gymraeg a'r byd mawr crwn; Dr Andrea Hammel ar sut gall profiadau ffoaduriaid y gorffennol lywio'r dyfodol, a Dr Dylan Marshall ar wleidyddiaeth ryngwladol newid hinsawdd.