Coleddu technolegau efelychu digidol i addysgu’r genhedlaeth nesaf o nyrsys - symposiwm
Llun o’r symposiwm ym Mhrifysgol Aberystwyth
05 Gorffennaf 2023
Cafodd rôl technoleg efelychu arloesol wrth chwyldroi hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol sylw mewn symposiwm arbennig ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.
Daeth dros 200 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, addysgwyr a myfyrwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd ar gyfer y digwyddiad undydd, a drefnwyd ar y cyd gan Ganolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Rhannasant wybodaeth, syniadau ac arfer gorau cyfredol yng Nghymru yn ogystal ag edrych ymlaen at sut y gall arloesi esblygu a gwella'r profiad dysgu ymhellach.
Gwnaeth tîm o Ganolfan Sgiliau Clinigol ac Efelychu Sydney hefyd rannu sut mae technolegau efelychu yn cael eu defnyddio mewn gweithgareddau addysgiadol yn Awstralia.
Siaradodd Amanda Jones, Prif Arweinydd mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, am sut mae’r Brifysgol yn defnyddio dulliau newydd ac arloesol wrth gyflwyno ei chyrsiau nyrsio israddedig.
“Rydym wedi bod yn defnyddio technolegau efelychu yn ein haddysgu ers croesawu’n myfyrwyr nyrsio cyntaf i Aberystwyth ym mis Medi’r llynedd. Maen nhw’n ein galluogi i ail-greu llawer o agweddau ar sefyllfaoedd iechyd y byd go iawn gan ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol lle gall ein myfyrwyr ddysgu sgiliau newydd a'u rhoi ar brawf cyn gweithio gyda chleifion go iawn.
“Trwy drefnu’r symposiwm hwn ar y cyd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, rydym am ddatblygu rhwydweithiau ledled Cymru ymhellach er mwyn hybu’r defnydd o dechnolegau efelychu mewn addysg gofal iechyd proffesiynol a sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’r adnoddau dysgu pwerus hyn wrth i ni addysgu’r genhedlaeth nesaf o nyrsys.”
Dan y teitl ‘Esblygu Addysg a Hyfforddiant Seiliedig ar Efelychu: Coleddu technolegau digidol i gefnogi dysgu gofal iechyd proffesiynol’, bu’r symposiwm yn ddigwyddiad hybrid gydag o ddeutu 100 o gynrychiolwyr ar gampws Penglais a 100 arall yn ymuno ar-lein.
Dywedodd Pushpinder Mangat, Cyfarwyddwr Meddygol AaGIC:“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r symposiwm hwn. Gwyddom y bydd datblygiadau mewn addysg sy'n seiliedig ar efelychu o fudd i'n dysgwyr. Trwy rannu ein sgiliau gallwn sicrhau ein bod yn gwella gofal cleifion nawr ac yn y dyfodol a gwella sgiliau gweithlu’r presennol a’r dyfodol gan ddefnyddio’r technolegau ymdrochol diweddaraf sy’n seiliedig ar efelychu.”
Mae gan y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ystafelloedd efelychu hollol fodern o'r radd flaenaf gydag ystod o offer arloesol yn cynnwys manicinau rhyngweithiol sy’n gallu atgynhyrchu cyflyrau difrifol megis trawiad ar y galon; pensetiau VR, a chleifion rhithwir, efelychiedig.
Lansiodd Prifysgol Aberystwyth ei rhaglenni gradd BSc mewn Nyrsio (Oedolion) a Nyrsio (Iechyd Meddwl) ym mis Medi 2022, ac mae manylion y cyrsiau i’w gweld ar wefan y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd.