Rhewlifoedd bregus wedi’u gorchuddio gan gerrig yn destun ymchwil gan wyddonwyr Aberystwyth
Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth ar rewlifoedd yn yr Alpau
04 Gorffennaf 2023
Mae gwyddonwyr yn ymchwilio i’r cynnydd yn y cerrig sy’n gorchuddio rhewlifoedd sy’n gallu effeithio ar ba mor gyflym maent yn dadmer wrth i’r hinsawdd newid.
Mae'r rhan fwyaf o rewlifoedd mynydd wedi colli llawer iawn o iâ dros yr 20fed a'r 21ain ganrif. Mae chwech y cant o’r iâ yn Alpau’r Swistir wedi dadmer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, a rhagwelir mai rhewlifoedd yr Alpau fydd ymysg y cyntaf yn y byd i ddiflannu oherwydd newid hinsawdd.
Ar yr un pryd, mae cyfran y cerrig mân sy'n gorchuddio arwyneb y rhewlifoedd hyn wedi cynyddu. Mae bellach yn gorchuddio oddeutu 11% o rewlifoedd mynydd y byd.
Mae rhewlifoedd gyda’r gweddillion hyn yn eu gorchuddio yn ymateb yn wahanol i newid hinsawdd o gymharu â rhewlifoedd iâ ‘glân’ fel y’u gelwir. Credir bod haenau trwchus ohono fe’n arafu dadmer rhewlifoedd tra credir bod gorchuddion teneuach yn ei gyflymu.
Mae tîm o academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i pam mae hyn yn digwydd yn Glacier de Tsijiore Nouve yn y Swistir. Byddan nhw’n mesur trwch y cerrig mân ar draws y rhewlif, yn cofnodi ei briodweddau ac yn mapio sut mae creigiau yn cyrraedd yr wyneb. Y nod wedyn yw ehangu’r gwaith i gynnwys rhagor o rewlifoedd yn yr Alpau er mwyn helpu i ddeall tebygrwydd yr ymateb i newid hinsawdd ar draws y rhanbarth.
Mae rhewlifoedd y Swistir a rhai ardaloedd mynyddig cyffelyb yn ffynonellau pwysig iawn o ddŵr ac ynni hydroi'r boblogaeth leol ac mae colli iâ yn gyflym yn berygl llifogydd yn ogystal. Felly mae deall dylanwad cerrig mân ar gyflymder dadmer rhewlifoedd yn bwysig iawn
Arweinir yr astudiaeth gan dîm o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, gan gynnwys Dr Marie Busfield, Dr Tom Holt a Dr Morgan Jones. Dywedodd Dr Busfield:
“Mae deall datblygiad hirdymor y cerrig mân hyn sy’n gorchuddio’r rhewlifoedd yn bwysig gan eu bod yn achosi ymateb gwahanol i newid hinsawdd o gymharu â rhewlifoedd iâ glân achos bod y cerrig yn ymddwyn fel blanced, gan insiwleiddio’r iâ oddi danynt. Mae cyrchfannau sgïo yn Alpau'r Swistir er enghraifft eisoes yn manteisio ar yr egwyddor sylfaenol trwy osod blancedi dros rewlifoedd wrth ymyl llethrau sgïo, a all arafu pa mor gyflym y maent yn dadmer, ond heb ei atal. Fodd bynnag, does dim dealltwriaeth dda o'r ffactorau penodol sy'n ysgogi sut mae'r cynnydd yn y cerrig mân hyn yn digwydd. Nod ein hymchwil yw llunio model ar gyfer sut mae'r croniad cyflym hwn ar rewlifoedd Alpaidd bach yn digwydd.
“Mae rhewlifoedd y Swistir yn lleoedd delfrydol ar gyfer y dadansoddiad hirdymor o sut mae’r gweddillion hyn yn datblygu oherwydd y gwaith monitro rhewlifoedd helaeth a’r awyrluniau hanesyddol. Mae delweddau o'r awyr o'r 1940au i'r presennol yn dangos cynnydd nodedig mewn cerrig mân ar yr arwyneb, ochr yn ochr â cholledion iâ am gyfnod hir, yn Glacier de Tsijiore Nouve. Mae hyn yn rhoi cyfle prin i ni edrych ar y newid yn y croniad o gerrig mân dros gyfnod sydd wedi’i ddogfennu’n dda, ac sy’n cyd-fynd â newidiadau hinsawdd diweddar. Yn dilyn ein gwaith cychwynnol yn edrych ar strwythur y rhewlif y llynedd, mae ein hymchwil bellach yn canolbwyntio ar ddeall yn well y prosesau sy’n ysgogi croniad y cerrig hyn, a’u hesblygiad hir dymor.”
Ariennir yr ymchwil hwn gan Brifysgol Aberystwyth gan y Gymdeithas Ymchwil Cwaternaidd a Chymdeithas Geoforffoleg Prydain.