Blwyddyn gyntaf addysg nyrsio Aberystwyth – ‘hwb mawr’ i’r gwasanaeth iechyd lleol
Rhai o fyfyrwyr a staff nyrsio Prifysgol Aberystwyth gyda pharfeddygion y GIG lleol
29 Mehefin 2023
Mae’r flwyddyn gyntaf o addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi bod yn hwb mawr i’r gwasanaeth iechyd lleol yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dechreuodd Prifysgol Aberystwyth gynnig graddau nyrsio o Oedolion ac Iechyd Meddwl ym mis Medi 2022.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau’r cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r cwrs hefyd yn cynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr nyrsio yn Ysbyty Bronglais ac ardaloedd cymunedol er mwyn iddynt gael profiad ymarferol mewn ysbyty.
Mae hanner hyfforddiant myfyrwyr nyrsio ymarfer clinigol. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae tua hanner cant o’r myfyrwyr wedi’u lleoli yn Ysbyty Bronglais a lleoliadau eraill ar draws ardal bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae’r Brifysgol wedi creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fod y Bwrdd Iechyd yn falch o fod yn bartneriaid dysgu ymarfer allweddol gyda Phrifysgol Aberystwyth ac mae wedi cefnogi’r cwrs o’r cychwyn cyntaf.
“Mae taith y myfyriwr o’r ystafell ddosbarth i’r gweithle yn herio gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd proffesiynol ac yn darparu cyfleoedd i drosglwyddo theori i ymarfer ac adeiladu sgiliau ymarferol hanfodol yn y profiad byd go iawn sydd ei angen i baratoi’r genhedlaeth nesaf o nyrsys ac ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol”, meddai Mandy.
“Cydweithio yw conglfaen profiad clinigol llwyddiannus i fyfyrwyr nyrsio. Yn y cyfnod heriol hwn mae’r partneriaethau rhyngom ni ac addysg uwch yn hanfodol i ddysgu clinigol a hefyd paratoi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd.
“Nod gweithio mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Aberystwyth yw cefnogi recriwtio a chadw nyrsys yn lleol, yn ogystal â’r potensial i annog modelau newydd o ofal iechyd. Bydd y cydweithio’n parhau i gyfrannu at wella’r ddarpariaeth gofal iechyd yn lleol a thu hwnt.”
Wrth siarad am ei lleoliad yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gorwelion, dywedodd y fyfyrwraig nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth Gwenno Jones:
“Fe wnes i fwynhau fy lleoliad yn fawr, roedd pob aelod o staff yn y lleoliad yn groesawgar ac yn fy nhrin fel rhan o’u tîm. Roedd y staff yn dangos proffesiynoldeb, tosturi, ac empathi tuag at y cleifion dan eu gofal dan bwysau aruthrol ar adegau. Ces i fy annog i gymryd rhan weithredol yng ngofal cleifion yn yr ardal, gan ddarparu gofal nyrsio cyfannol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Dwi wedi dysgu llawer o sgiliau newydd y byddaf yn eu datblygu yn fy ngyrfa nyrsio.
“Roedd gen i oruchwyliwr ac aseswr gwych a oedd yn gallu dangos ystod eang o glinigau i mi a rhoi cyfleoedd i mi ddatblygu fy sgiliau a gwybodaeth nyrsio.”
Dywedodd Amanda Jones, Prif Arweinydd mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydyn ni’n falch iawn bod yr addysg nyrsio newydd eisoes yn profi i fod yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, mae’n fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.
“Rydyn ni’n ddiolchgar hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi cyflawni hyn, gan gynnwys y Byrddau Iechyd lleol, Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwyfwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd newydd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Rydyn ni’n gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”