Gwaith adnewyddu’n dechrau ar yr Hen Goleg
Y saer treftadaeth o Aberteifi, Gary Davies (chwith) a Leighton Brown, Rheolwr Prosiect gydag Andrew Scott, ac un o’r ffenestri gwreiddiol o’r filas Sioraidd. Mae 664 o ffenestri yn yr Hen Goleg, mewn fframiau carreg, dur a phren.
12 Mehefin 2023
Mae cyfnod adnewyddu prosiect yr Hen Goleg wedi dechrau wrth i waith ar waliau cerrig, ffenestri a tho’r adeilad sydd wedi ei ddifrodi gan stormydd fynd yn ei flaen.
Wrth i gam nesaf y prosiect ddechrau, mae cyllid o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn golygu bydd y prosiect yn cael ei ymestyn i gynnwys adeilad cyfagos Y Cambria.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd sgaffaldiau helaeth yn cael eu codi ar hyd ochr y Prom o’r Hen Goleg i hwyluso’r gwaith, wrth i’r tîm anelu at sicrhau fod yr adeilad yn dal dŵr cyn y gaeaf.
Mae dechrau’r cyfnod adnewyddu yn garreg filltir bwysig yn y prosiect uchelgeisiol i ailddatblygu’r Hen Goleg, cartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru.
Daw wedi blwyddyn o waith sydd wedi canolbwyntio ar ddymchwel elfennau mewnol ac allanol gafodd eu hychwanegu at y safle hanesyddol ar hyd y degawdau mwyaf diweddar:
- Dymchwelwyd yr hen Adeilad Ystadau yn Stryd y Brenin i wneud lle ar gyfer atriwm newydd a fydd yn cynnig mynediad i bob lefel o’r adeilad.
- Tynnwyd ychwanegiadau i du fewn yr adeilad a wnaed yn ystod y 1960au a datgelwyd llawer o nodweddion pensaernïol gwreiddiol, gan gynnwys yr hyn y credir iddi fod yn gampfa yn nyddiau cynnar y Brifysgol.
Mae parchu treftadaeth yr adeilad yn flaenoriaeth ac wedi golyg gwaith pensaernïol manwl i gydymffurfio â'r caniatad adeilad rhestredig sydd ei angen ar yr adeilad rhestredig Gradd 1, gwaith a fydd yn parhau wrth i'r prosiect ddatblygu.
Prif gontractwr ar brosiect yr Hen Goleg yw’r cwmni adeiladu o Bort Talbot, Andrew Scott Ltd.
Dywedodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd: “Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn ein gwaith treftadaeth a chadwriaethol yma yn Andrew Scott ac rydym yn falch iawn o fod yn adnewyddu adeilad rhestredig Gradd 1 sydd mor eiconig. Mae cymhlethdod y prosiect hwn yn ein hysbrydoli, gan fod datrys heriau o’r math yma yn greiddiol i’r hyn rydym yn ei wneud. Mae’r Hen Goleg yn diffinio glan y môr Aberystwyth ac mae chwarae rhan fawr yn ei adfer i’r hyn a fu yn ein cyffroi.”
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Arweinydd Gweithredol Prifysgol Aberystwyth ar brosiect yr Hen Goleg: “Rydym yn falch iawn o weld y gwaith ar yr Hen Goleg yn symud ymlaen i’r cyfnod adnewyddu. Mae hwn yn brosiect cymhleth a heriol sydd wedi gofyn am ddylunio a gwaith paratoi manwl ac rwy’n ddiolchgar i’r tîm prosiect cyfan ac i’r swyddogion cynllunio cadwraethol lleol am eu gwaith i sicrhau’r cynnydd a welwyd hyd yn hyn. Mae ein gweledigaeth ar gyfer yr Hen Goleg yn cynnig cyfle enfawr i Aberystwyth, i’r Brifysgol ac i’r dref, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol, yn ogystal â sicrhau dyfodol adeilad pensaernïol hynod ddiddorol sydd wedi chwarae rhan mor bwysig yn hanes y Gymru fodern.”
Bydd cymal adnewyddu’r prosiect yn cynnwys gwaith gan gontractwyr arbenigol, a fydd yn defnyddio deunyddiau sy'n cyfateb mor agos â phosibl i'r rhai gwreiddiol.
Comisiynwyd Stoneguard o Fanceinion i wneud y gwaith carreg, cwmni sydd wedi gweithio ar brosiectau nodedig yng Ngerddi Kew, yr Amgueddfa Hanes Natur a Phalas San Steffan.
Mae’r gwaith o adfer ac adnewyddu ffenestri pren yr Hen Goleg yn cael ei wneud gan y saer treftadaeth o Aberteifi, Gary Davies, sydd wedi gweithio ar brosiectau arobryn Castell Aberteifi a Llwyngoras yn Sir Benfro, sy’n dyddio o’r 16eg ganrif.
Cwmni Greenough a’i Feibion o Ynys Môn sydd yn ymgymryd â’r dasg enfawr o ail-doi’r Hen Goleg. Bu’r cwmni toi treftadaeth yn gweithio ar y Llyfrgell Genedlaethol a Chastell Coch, ac ar hyn o bryd mae nhw’n gweithio ar do Neuadd y Dref Manceinion.
Mae dod o hyd i ddeunyddiau adeiladu cyfatebol ar gyfer y gwaith adfer yn adlewyrchu hanes adeiladu ac ailadeiladu’r Hen Goleg yn ei flynyddoedd cynnar.
Mae gwaith yn cael ei wneud i ddod o hyd i ffynonellau newydd o dywodfaen a chalchfaen gan nad yw'r garreg a ddefnyddiwyd i'w adeiladu yn y 1860au a’i hailadeiladu ar ôl tân 1885 bellach yn cael ei chloddio.
Bydd pob un o'r 664 ffrâm ffenestr, mewn dur, carreg a phren, yn cael eu hadfer yn unigol yn unol â statws rhestredig Gradd 1 yr adeilad.
Mae arolwg cychwynnol wedi datgelu bod llawer o'r fframiau pren sy'n wynebu Heol y Brenin yn rhai o ffynidwydden Douglas, tra bod mahogani i’w weld ar lawer sy'n wynebu'r môr. Daw unrhyw bren newydd o ffynonellau cynaliadwy.
Disgwylir y bydd tua 50,000 o'r llechi presennol yn cael eu hailddefnyddio tra bydd 20,000 o lechi newydd 'Gruglas' o Chwarel y Penrhyn ym Methesda, Gwynedd, sy'n cyfateb i liw a graen y rhai gwreiddiol, yn cael eu defnyddio ar yr ochr sy'n wynebu'r môr. Bydd hyn yn gwella gwydnwch yr adeilad rhag tywydd stormus.
Yn ychwanegol at y rhain mae’r llechi gwyrdd nodedig ar dyredau De Seddon, y rhan o’r Hen Goleg sydd agosaf at y castell.
Yn ogystal, bydd hyd at dri chwarter y plwm ar doeau’r Hen Goleg hefyd yn cael ei gasglu a’i doddi i’w ailddefnyddio ar yr adeilad.
Y Cambria
Mae caffael ac ailddatblygu’r Cambria wedi’i ariannu’n llawn gan £5.4m oddi wrth Llywodraeth y DU drwy ei Chronfa Ffyniant Bro, fel rhan o becyn llwyddiannus o geisiadau gan Gyngor Sir Ceredigion a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021.
Bydd Y Cambria, cartref y Coleg Diwinyddol am flynyddoedd lawer a swyddfeydd yn fwy diweddar, yn cynrychioli Cam 2 y prosiect ac yn darparu cyfleusterau cynadledda a chyfarfod ynghyd â rhagor o lety gwesty 4*.
Gan gynnwys y Cambria, mae prosiect yr Hen Goleg yn ei gyfanrwydd yn cynrychioli buddsoddiad o £43m.
Mae disgwyl i Gam 1, sef yr Hen Goleg ei hun a'r filas Sioraidd (1 a 2 Marine Terrace), gael ei gwblhau tua diwedd 2025.
Bydd Cam 2, Y Cambria, yn dilyn ac mae disgwyl i’r gwaith hwnnw gymryd blwyddyn arall i’w gwblhau.
Bywyd Newydd i'r Hen Goleg
Bydd yr Hen Goleg ar ei newydd wedd yn ganolfan o bwys ar gyfer dysgu, treftadaeth, diwylliant a menter mewn tri pharth thema: Byd o Wybodaeth, Diwylliant a Chymuned, a Menter ac Arloesi.
Arwyddair y Brifysgol yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer Byd o Wybodaeth a fydd yn cynnwys canolfan a fydd yn dathlu Gwyddoniaeth ac Ymchwil arloesol, Amgueddfa’r Brifysgol, prosiect Pobl Ifanc i ddarparu cyfleoedd i hybu sgiliau, dyheadau a lles, canolfan astudio myfyrwyr 24-7 a sinema â’r dechnoleg ddiweddaraf.
Y Cwad yw calon yr Hen Goleg, a bydd yn ganolbwynt i orielau arddangos y parth Diwylliant a Chymuned a fydd yn cynnwys arddangosfeydd wedi’u curadu o gasgliadau’r Brifysgol ac arddangosfeydd teithiol gan bartneriaid o bwys. Bydd y parth hwn hefyd yn cynnwys Canolfan Ddeialog gyntaf y Deyrnas Gyfunol.
Bydd y parth Menter ac Arloesi yn darparu 12 Uned Busnes Creadigol a mannau cymunedol i annog entrepreneuriaid ifanc ym maes busnesau creadigol a digidol, dwy sector sy’n tyfu’n gyflym ac o bwysigrwydd economaidd mawr i orllewin Cymru.
Unwaith y bydd wedi ei orffen mae disgwyl i’r Hen Goleg ddenu 200,000 o ymwelwyr a chyfrannu hyd at £14.5m at yr economi leol yn flynyddol, gan ei roi ar yr un lefel â chyrchfannau twristiaeth megis cestyll Caernarfon a Chonwy.
Caiff hyd at 130 o swyddi eu creu yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol a bydd mwy na 400 o gyfleoedd gwirfoddoli. Bydd llety gwesty 4* a mannau ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau ar draws 7 llawr a 143 o ystafelloedd, gan gynnwys 10 ystafell gyda chapasiti yn amrywio o 60 i 200 o bobl.
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol, ac unigolion.