Myfyrwyr Aberystwyth yn paratoi ar gyfer gŵyl ryngwladol dylunio perfformiad
Myfyrwyr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth bydd yn ymweld â Gŵyl Bedeirblynyddol Dylunio a Gofod Perfformio Prâg ym Mehefin 2023
02 Mehefin 2023
Bydd grŵp o fyfyrwyr Drama, Theatr a Dylunio Perfformiad o Brifysgol Aberystwyth yn cael cyfle heb ei ail i weithio ochr yn ochr ag artistiaid, dylunwyr a gwneuthurwyr theatr byd-eang mewn gŵyl fyd-enwog yn Tsiecia fis nesaf.
Mae Gŵyl Bedeirblynyddol Dylunio a Gofod Perfformio Prâg yn cael ei chynnal rhwng 8 a 18 Mehefin a dyma’r arddangosfa fwyaf yn y byd o ddylunio theatr, senograffeg a phensaernïaeth theatr.
Bydd yr ŵyl yn cyflwyno dros 250 o weithiau celf o fwy na 100 o wledydd, gan arddangos perfformiadau byw, modelau senograffig, gosodiadau amlsynhwyraidd, gwisgoedd, mannau theatr a pherfformio, a thechnolegau digidol.
Bydd y 15 myfyriwr o Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn cael profiad gwaith amhrisiadwy, fel gwirfoddolwyr ac ar interniaethau ym maes curadu, cynhyrchu neu wasanaethau gwesteion yn ystod yr ŵyl deg diwrnod.
Mae Dr Andrew Filmer, Uwch Ddarlithydd Theatr a Pherfformio, yn rhan o'r tîm artistig rhyngwladol sydd y tu cefn i ŵyl 2023, tra bo Simon Banham, Athro mewn Senograffeg a Dylunio Theatr, yn rhan o'r tîm sy'n cynrychioli'r DU yn yr Arddangosfa Gwledydd a Rhanbarthau. Bydd Dr Louise Ritchie, Darlithydd mewn Theatr ac Ymarfer Theatr, a gyd-ysgrifennodd y cais am gyllid i gefnogi taith y myfyrwyr, yn mynd gyda nhw i'r ŵyl.
Meddai Dr Filmer, sy'n curadu'r Arddangosfa Gofod Perfformio yn yr ŵyl eleni:
“Rwyf wrth fy modd bod ein myfyrwyr wedi cael y cyfle rhagorol hwn i brofi ‘Gŵyl Bedeirblynyddol Prâg’. Yn ystod yr ymweliad, byddant yn cael eu cyflwyno i ystod enfawr o artistiaid a gwaith celf a chael eu hysbrydoli, byddant yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol i gyflwyno gŵyl o bwys rhyngwladol, a byddant yn elwa ar gyfle i ddatblygu’n broffesiynol a llunio gyrfa.”
Cafodd y myfyrwyr arian tuag at eu taith a’u llety gan gynllun symudedd myfyrwyr Cymraeg Llywodraeth Cymru, Taith.