Penodi Eurig Salisbury’n Fardd y Dref yn Aberystwyth
Eurig Salisbury yn siarad yn Seremoni Urddo Maer Aberystwyth a gynhaliwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth ar 19 Mai. Llun: Nick Ferguson
31 Mai 2023
Mae’r Darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol a’r bardd arobryn Eurig Salisbury wedi cael ei benodi’n Fardd y Dref yn Aberystwyth, ac ef fydd y person cyntaf erioed i gyflawni’r swydd hon.
Gwnaed y cyhoeddiad yn Seremoni Urddo Maer Aberystwyth a gynhaliwyd gan Gyngor Tref Aberystwyth ar 19 Mai. Un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, y Cynghorydd Kerry Ferguson, a gafodd ei hurddo’n Faer.
Yn y Seremoni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cyflwynodd y Maer newydd y ffon farddol a thystysgrif i Eurig. Yn ei dro, bu Eurig yn cyfarch y Maer newydd a'r Maer sy'n ymddeol, Talat Chaudhri, â cherddi o’i waith.
Daeth y syniad o greu swydd Bardd y Dref yn Aberystwyth yn sgil awgrym gan y Cynghorydd Emlyn Jones, cydymaith newydd y Maer, a ddywedodd:
“Mae Aberystwyth yn dref dra lenyddol a chelfyddydol, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cytuno i sefydlu ‘Bardd y Dref’. Mae hyn yn adlewyrchiad o gyfoeth barddol yr ardal, gyda golwg yn ôl i draddodiad barddol Cymru o gael bardd ‘y llys’, ond yn bennaf yn edrych ymlaen i ddathlu beirdd a cherddi modern Cymru sydd yn ffynnu yma yn Aberystwyth. Allai feddwl am neb gwell nag Eurig i fod y cyntaf yn y traddodiad newydd yma!”
Wedi Seremoni Urddo'r Maer, dywedodd Maer newydd Aberystwyth, y Cynghorydd Kerry Ferguson:
“Ymhlith y gynulleidfa roedd Maer a swyddogion o St Brieuc, Maer ac ymwelwyr o Swydd Wicklow a Maer newydd Llanbed, ac mi roedden nhw i gyd yn frwd iawn dros y syniad. Felly mae’n ddigon posib y bydd mwy o Feirdd Tref yn ymddangos ar draws Cymru a thramor hefyd cyn hir. Mae’n deimlad braf o falchder i weld Cyngor Tref Aberystwyth yn cymryd cam mor arloesol.”
Wrth dderbyn ei deitl newydd, dywedodd Eurig:
"Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi'n Fardd Tref cyntaf Aberystwyth, ac rwy'n edrych ymlaen at flwyddyn o farddoni. Mae'r fenter newydd hon yn brawf amlwg o bwysigrwydd parhaus barddoniaeth gyhoeddus gref sydd â’i gwreiddiau yn y gymuned yma yng Nghymru.
"Er bod y ddelwedd draddodiadol o farddoniaeth Gymraeg yn ei gosod yn bennaf mewn ardaloedd gwledig, mae gennym hanes hir o farddoniaeth drefol, hyd yn oed os ydyw’n llai adnabyddus.
"Tra oeddwn yn cwblhau fy MPhil ym Mhrifysgol Aberystwyth astudiais waith y bardd o'r bymthegfed ganrif, Guto'r Glyn, y bu ei gerdd enwog o fawl i dref Croesoswallt yn ddechrau traddodiad canrifoedd o hyd o gyfansoddi barddoniaeth ynghylch ac o fewn tref Croesoswallt. Roedd barddoniaeth Gymraeg i’w chael mewn trefi eraill yng Nghymru a'r Gororau hefyd. Felly, mae yna gynsail i’r syniad o gael Bardd Tref."
Eurig Salisbury
Graddiodd Eurig Salisbury gyda gradd yn y Gymraeg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu o Brifysgol Aberystwyth yn 2004. Arhosodd yn Adran y Gymraeg hyd 2006 i ymchwilio ar gyfer gradd MPhil ('Canu Cynnar Guto'r Glyn').
Yn 2006, enillodd gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych, a chafodd hefyd ei benodi’n Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Treuliodd naw mlynedd yno, gan gyfrannu at dri phrosiect arloesol ym maes barddoniaeth yr Oesoedd Canol
Mae’n awdur cyhoeddedig (Llyfr Glas Eurig, 2008; Sgrwtsh!, 2011).
Cafodd ei benodi'n Fardd Plant Cymru 2011-13, sef y tro cyntaf i fardd ymgymryd â'r swydd am gyfnod o ddwy flynedd. Yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o wahanol weithgareddau barddonol, o weithdai mewn ysgolion a gwyliau llenyddol i gystadlaethau stomp a slam, a hynny ar hyd a lled y wlad, bu’n tiwtora llenorion ifanc ar fwy nag un achlysur yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ac roedd yn un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn 2014.
Cafodd ei benodi’n Ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2015.
Mae’n olygydd Cymraeg i gylchgrawn Poetry Wales. Mae hefyd wedi cydweithio â Gŵyl y Gelli, y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru ar nifer o brosiectau llenyddol ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn India, Bangladesh, Colombia, Cenia a nifer fawr o wledydd Ewropeaidd.
Roedd yn un o Gymrodyr Rhyngwladol Gŵyl y Gelli 2012-13.
Mae ei waith wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, yn cynnwys Bangla, Malayalam ac Eidaleg.