IBERS yn dod yn ganolfan ragoriaeth ymchwil ffermio cynaliadwy
Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, Prifysgol Aberystwyth
30 Mai 2023
Mae Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â rhwydwaith ffermio cynaliadwy y Deyrnas Gyfunol o ganolfannau arloesi a ffermydd arddangos sy’n arwain y byd.
Mae IBERS yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel canolfan unigryw ar gyfer ymchwil wyddonol ryngddisgyblaethol i heriau byd-eang diogelwch bwyd, bio-ynni, cynaliadwyedd ac effeithiau newid hinsawdd.
Mae’n ymuno ag 16 o ganolfannau ymchwil a 41 o ffermydd arddangos eraill, sydd i gyd yn rhan o’r Rhwydwaith LEAF (Cysylltu Ffermio a’r Amgylchedd), gan ddod â rhai o ffermwyr mwyaf blaengar y Deyrnas Gyfunol a chanolfannau ymchwil blaenllaw at ei gilydd i ddangos a datblygu dulliau ffermio mwy cynaliadwy, sy’n cael eu darparu trwy Reoli Ffermydd Integredig.
Wrth siarad yn y digwyddiad lansio, dywedodd Vicky Robinson, Cyfarwyddwr Technegol LEAF:
“Mae ymchwil, arloesi a’r ffordd maen nhw’n cael eu rhoi ar waith ar lawr gwlad ar y fferm yn gonglfeini Rhwydwaith LEAF. Mae’r Deyrnas Gyfunol yn arwain y byd o ran ymchwil a datblygu syniadau a thechnolegau newydd yn ymwneud â chynhyrchu bwyd mwy cynaliadwy. Mae troi’r syniadau a’r arloesi hyn yn newidiadau ymarferol ar ffermydd yn allweddol er mwyn symud ymlaen at systemau bwyd a ffermio byd-eang mwy gwydn ac adfywiol.
“Mae rhoi gwyddoniaeth ar waith yn y modd hwn, sy’n cyfuno ymchwil, datblygu a chyfnewid gwybodaeth, yn sylfaen i Rwydwaith LEAF. Mae’r darganfyddiadau a’r syniadau newydd o’n canolfannau arloesi yn cael eu rhaeadru i lawr i’n ffermydd arddangos sydd, yn eu tro, yn profi eu bod yn ymarferol ac yn economaidd hyfyw yn y maes. Yna caiff y datblygiadau eu rhannu’n ehangach i'r gymuned ffermio drwy ymweliadau safle, sgyrsiau a hyfforddiant. Yn ei hanfod, mae’n enghraifft wych o ddull cylchol o gynhyrchu a chyfnewid gwybodaeth.
“Mae’n anrhydedd enfawr croesawu IBERS i’n Rhwydwaith LEAF. Yn ogystal â datblygu’r genhedlaeth nesaf o fiolegwyr, bydd ei gyfleusterau ymchwil sy’n cwmpasu geneteg planhigion, ffenoteipio, bioburo a phrosesu bwyd ynghyd â Banc Bio IBERS, yn ein galluogi i fanteisio ar ystod enfawr o ymchwil a gweithgareddau ymgysylltu, er budd ein ffermwyr, tyfwyr, aelodau a’r gymuned ffermio ehangach. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at feithrin partneriaeth gref a chyffrous gydag IBERS.”
Ychwanegodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS:
“Rydym yn hynod falch o gael ein lansio fel Canolfan Arloesi LEAF. Mae'n arwydd o'n hymrwymiad i roi’r sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf i ffermwyr er mwyn iddyn nhw fynd i'r afael â'r heriau presennol drwy Reoli Ffermydd Integredig. Bydd bod yn rhan o rwydwaith DU o sefydliadau ymchwil blaenllaw yn gwella ein cysylltiadau â’r gymuned ffermio ehangach. Mae hefyd yn cynnig llwyfan cyffrous ac arloesol i rannu syniadau, arbenigedd a dealltwriaeth i ddatblygu a darparu ffermio mwy cynaliadwy.”
Lansiwyd IBERS fel Arloesedd LEAF ar 25 Mai 2023. Mae’n ymuno ag 16 o Ganolfannau Arloesi LEAF eraill – Prifysgol Hartpury, Canolfan Dechnoleg Fferm Agrii Throws, Prifysgol Bangor, Bayer Crop Science, Canolfan Ymchwil Llaeth, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helfil a Bywyd Gwyllt Prifysgol Reading, Prifysgol Harper Adams, Sefydliad James Hutton, Ffermydd Prifysgol Newcastle, NIAB EMR, Rothamsted Research North Wyke, Y Brifysgol Amaethyddol Frenhinol, Canolfan Ymchwil ac Arloesi Gwartheg Llaeth SRUC, Canolfan Ymchwil Bryniau a Mynydd SRUC, a Chanolfan Dechnoleg Stockbridge.
Mae rhagor o wybodaeth am Rwydwaith LEAF ar gael drwy fynd i: https://leaf.eco/farming/leaf-network