Academyddion Cymru yn helpu asiantaethau gofod i fesur carbon coedwigoedd y byd
Yr Athro Richard Lucas
23 Mai 2023
Mae cyfraniad academyddion Aberystwyth at fapio biomas coedwigoedd y byd ar gyfer Asiantaeth Gofod Ewrop (ESA) yn cynorthwyo ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae ehangu ac adfer coedwigoedd yn gyfle i wledydd dynnu carbon o’r atmosffer a chyfrannu at ymdrechion cenedlaethol tuag at gyflawni sero net, yn ogystal â buddion lliniaru eraill.
Mae'r fersiwn ddiweddaraf o'r set ddata biomas ar wyneb y ddaear, sy'n defnyddio arsylwadau lloeren ac a ddatblygwyd gan wyddonwyr sy'n gweithio fel rhan o Fenter Newid Hinsawdd ESA, yn ei gwneud hi'n bosibl am y tro cyntaf i fonitro newidiadau mewn gorchudd coedwigoedd a stoc carbon gyda sicrwydd.
Nid oedd mapiau blaenorol yn caniatáu i newid biomas gael ei fesur rhwng blynyddoedd, naill ai'n genedlaethol neu'n rhyngwladol, a hynny’n rhannol am fod gwahanol loerennau'n cael eu defnyddio. Fodd bynnag, mae'r set ddata ddiweddaraf yn cynnwys data ychwanegol a ddarparwyd yn gyfan gwbl gan Asiantaeth Archwilio'r Gofod Japan (JAXA) ac sydd wedi gwella'n sylweddol y gallu i adnabod biomas ar lefel fyd-eang.
Llwyddodd tîm y prosiect, dan arweiniad yr Athro Richard Lucas o Brifysgol Aberystwyth, i oresgyn y broblem hon fel rhan o ymdrech ar y cyd rhwng Menter Newid Hinsawdd ESA a JAXA. Mae JAXA yn cynhyrchu data pwrpasol ac yn prosesu data radar cyfaint uchel o'r teithiau Lloeren Arsylwi Tir Uwch (ALOS ac AL-OS-2) ar gyfer y mapiau byd-eang o fiomas ar wyneb y ddaear.
Dywedodd yr Athro Lucas o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’r data radar lloeren newydd hwn yn gallu treiddio’n rhagorol drwy ganopi’r goedwig. Trwy ei gyfuno â data arall o loerennau Envisat a Sentinel-1 ESA rydyn ni’n gwella graddnodi ar draws y gwahanol flynyddoedd. Mae hyn yn darparu'r sail sylfaenol ar gyfer cysondeb ar draws ein mapiau biomas ansawdd uchel.
“Mae’r cydweithio rhwng Menter Newid Hin-sawdd ESA a JAXA wedi helpu i wella’n sylweddol y modd yr ydyn ni’n monitro gorchudd coedwigoedd. Mae gennyn ni bellach set ddata arsylwi’r Ddaear gydag amcangyfrifon mwy dibynadwy i ymchwilio a mesur newid biomas a biomas ar lefel fyd-eang.
“Yn y pen draw bydd y data mwy cadarn yn helpu i roi mwy o sicrwydd i ni ynghylch sut mae’r carbon sy’n effeithio ar dwf, colled a diraddiad coedwigoedd yn newid. Bydd hyn yn dylanwadu’n fawr ar gamau lliniaru gan wledydd a’r gymuned fyd-eang.”
Daw rhyddhau’r set ddata cyn yr Archwiliad Byd-eang cyntaf, sydd i’w gwblhau yn ystod COP28 yn yr Emiraethau Arabaidd Unedig ym mis Tachwedd. Bydd yn anelu at adolygu cyn-nydd ar y cyd tuag at gyfyngu ar gynhesu byd-eang o dan 2C neu 1.5C o’i gymharu â'r cyfnod cyn-ddiwydiannol.
Ychwanegodd Dr. Takeo Tadono o JAXA, a rheolwr ymchwil cyfres taith ALOS:
“Ar ran JAXA, rydyn ni’n gwerthfawrogi’n ddi-ffuant ymdrechion enfawr tîm prosiect biomas Newid Hinsawdd ESA wrth gwblhau’r mapiau biomas byd-eang ar gyfer bum cyfnod amser. Mae’r set ddata hon yn dangos pwysigrwydd arsylwi’r Ddaear drwy loeren a’u cyfraniadau disgwyliedig at ymchwil newid hinsawdd ac at ein dealltwriaeth o ddosbarthiad geo-ofodol storio carbon coedwigoedd.”