Prifysgol Aberystwyth i agor labordy cartref clyfar er mwyn profi technoleg ansawdd bywyd i'r henoed
Yr Athro Colin McInnes a Dr Patricia Shaw ar safle adeiladu y labordy cartref clyfar
19 Mai 2023
Bydd cadeiriau olwyn ac anifeiliaid anwes awtonomaidd ymhlith y dechnoleg a fydd yn cael ei dreialu mewn cartref clyfar newydd a blaengar ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy'n anelu at wella ansawdd bywyd i'r henoed neu bobl â chyflyrau iechyd.
Bydd y Labordy Cartref Clyfar yn debyg i gartref cyffredin, gydag ystafell fyw, cegin, ystafell ymolchi, ac ystafelloedd gwely, ond bydd ganddo hefyd synwyryddion, cynorthwywyr robotig, a chysylltedd llawn.
Y math o beth y bydd ymchwilwyr yn gallu eu profi yw technoleg cynorthwyo/hwyluso bywyd i'r rhai sydd â phroblemau symudedd, yn ogystal â dyfeisiau a ysgogir gan y llais, cynnal archwiliadau o bell gan feddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, ac archwilio sut y gall robotiaid a realiti estynedig gynorthwyo pobl yn eu cartrefi.
Ymhlith y dyfeisiau sydd eisoes wedi'u hadeiladu ar gyfer y cartref mae cadair olwyn glyfar, sugnwr llwch awtonomaidd, braich robotig symudol, a chath anwes o'r enw "Pixel".
Yr Adran Cyfrifiadureg a’r Adran Seicoleg fydd yn defnyddio'r labordy yn bennaf, ond y nod yn y tymor hwy yw agor y drws i ymchwil ryngddisgyblaethol, megis astudiaethau ar gyfer rheoli ynni neu ansawdd aer.
Bydd y byngalo 120m2, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn cael ei godi ar gampws Penglais y Brifysgol. Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau erbyn diwedd 2023.
Meddai Dr Patricia Shaw, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Cyfrifiadureg: "Mae technoleg yn trawsnewid y ffordd yr ydym yn darparu gofal iechyd i bawb.
"Ond gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a mwy o alwadau am ofal cymdeithasol, bydd technoleg cartrefi clyfar yn chwarae rhan arbennig o hanfodol i wella ansawdd bywyd a rhoi annibyniaeth i'r henoed.
"Mae'n arbennig o ddefnyddiol mewn cymunedau gwledig tebyg i orllewin Cymru gan y gallai fod angen i gleifion deithio'n bell i weld arbenigwyr.
"Bydd y labordy cartref clyfar yn rhoi lle i adrannau ledled y Brifysgol gyd-greu technolegau a phwyso a mesur sut maen nhw'n gweithio yng nghyd-destun y byd go-iawn. Bydd hefyd yn creu lle i ecosystem cyfan gofal cymdeithasol – sy'n rhychwantu darparwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, cyhoeddus a phreifat, a'r henoed eu hunain - i chwilio am atebion newydd."
Meddai’r Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi): "Mae ymchwil i ofal iechyd clyfar wedi bod yn digwydd ym Mhrifysgol Aberystwyth dros nifer o flynyddoedd. Yr hyn mae'r adnodd hwn yn ei wneud yw rhoi sefyllfa bywyd go iawn i ymchwilwyr ar y campws er mwyn gallu gweld sut mae technolegau penodol yn gweithio, ymhle y gellir eu gwella, ac i sbarduno ysbrydoliaeth i arloesi ymhellach.
"Gwella bywydau pobl yw nod yr adnodd a sicrhau bod ganddyn nhw'r offer wrth law i sicrhau ansawdd bywyd da waeth beth yw eu hoedran. Rydym eisiau gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat er mwyn llwyddo i ateb anghenion pobl."