Her Tri Chopa’r Brifysgol yn codi miloedd at Uned Cemotherapi Bronglais
Dathlu ar gopa Pen y Fan: Cwblhaodd staff o Brifysgol Aberystwyth Her Tri Chopa Cymru mewn 16 awr.
19 Mai 2023
Mae staff Undeb y Myfyrwyr a Phrifysgol Aberystwyth wedi cwblhau Her Tri Chopa Cymru i godi arian tuag at Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais.
Cyn toriad gwawr ddydd Llun 15 Mai dechreuodd y criw o 21 o gerddwyr ar yr her o gwblhau'r daith gerdded 17 milltir mewn llai na 24 awr, gan gynnwys amser teithio.
Cyrhaeddwyd copa niwlog llaith ac oer yr Wyddfa mewn cwta ddwy awr a hanner ac erbyn amser cinio roedd y criw wedi cyrraedd copa heulog braf ond oer Cadair Idris, gyda'i olygfeydd godidog ar draws canolbarth Cymru.
Ac erbyn 8pm, yn heulwen diwedd dydd, cyrhaeddodd y tîm bwynt uchaf Bannau Brycheiniog, Pen y Fan, ar ôl dringo ychydig dros 6000 o droedfeddi mewn 16 awr.
Gwnaeth y tîm o gerddwyr gryn argraff ar yr arweinwyr mynydd profiadol Paul Inch a Connaire Cann gyda’u hysbryd cydweithredol ar yr hyn a brofodd yn ddiwrnod di-dramgwydd, hwyliog a gwerth chweil.
Gosodwyd targed cychwynnol o £1000 a bellach mae’r gronfa wedi derbyn ymhell dros 200 o roddion gwerth dros £4600 gyda chyfraniadau yn cyrraedd o hyd.
Bydd yr holl arian a godir yn mynd at Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Elusen y Flwyddyn Prifysgol Aberystwyth ar gyfer 2022/2023.
Gall unrhyw un sy’n dymuno cyfrannu, wneud hynny drwy’r wefan https://hyweldda.enthuse.com/cf/bronglais-chemotherapy-day-unit.
Dywedodd Jean Jones, aelod staff ac un o drefnwyr y daith: “Dyna ddiwrnod gwych – llafurus a chyffrous i’r un graddau ac ar gyfer achos sydd mor bwysig. Rydyn ni i gyd yn adnabod pobl sydd wedi elwa o'r cyfleusterau ym Mronglais felly mae'n braf teimlo ein bod wedi gwneud ychydig o wahaniaeth trwy gwblhau'r her hon. Diolch i bawb a gymerodd ran, i’r rhai a’n cefnogodd ar y diwrnod ac i bawb sydd wedi cyfrannu at y codi arian.”
Un a longyfarchodd y criw ar gwblhau’r her yw’r Athro Andrew Thomas o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sydd wedi derbyn triniaeth cemotherapi yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.
Dywedodd Andrew: “Da iawn bawb. Rwy'n amlwg yn gwerthfawrogi'r achos yn fawr, er fy mod yn gwybod nad yw hyn yn ymwneud â mi. Ond mae cemo yn erchyll ac mae ni fydden yn licio meddwl am orfod teithio ar ei gyfer, a byddai’r holl gannoedd o bobl sy’n mynd drwy hyn yn Aber ar hyn o bryd yn cytuno. Mae mor bwysig cael yr uned ym Mronglais, ac maent yn dda iawn. Parch a gwerthfawrogiad aruthrol.”