Prosiect adfer tir mawn i daclo newid hinsawdd yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Safle ymchwil tir mawn, Prifysgol Aberystwyth
27 Mawrth 2023
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cychwyn ar brosiect i adfer tir mawn fel rhan o ymdrech i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer.
Fel rhan o fuddsoddiad £30 miliwn gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) dros gyfnod o bedair blynedd a hanner, bydd ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio ar adfer tir mawn.
Gyda’r lleiniau treialu bellach yn dechrau ym Mhwllpeiran,mae’r gwyddonwyr yn profi pa ddulliau a all leihau allyriadau carbon deuocsid (CO2) a methan (CH4) fwyaf wrth adfer mawndir.
Mae Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr yn disgrifio ystod o dechnoleg sy’n tynnu carbon deuocsid a methan o’r atmosffer yn uniongyrchol, gan anelu at wrthsefyll newid hinsawdd a achosir gan ddynoliaeth drwy ymyrraeth ar raddfa eang.
Mae mawndiroedd yn gorchuddio 12% o arwynebedd tir y Deyrnas Gyfunol ac yn storio llawer iawn o garbon. Mae mawndiroedd iach yn dal CO2 o'r atmosffer ac felly gallant helpu i wrthbwyso effeithiau gweithgareddau dynol fel llosgi tanwydd ffosil sy'n codi lefelau CO2 yn yr atmosffer, gan arwain at newid hinsawdd.
Fodd bynnag, mae tua 80% o fawndiroedd y DU wedi’u heffeithio’n sylweddol gan y ffordd y cânt eu rheoli. O ganlyniad, mae llawer o'r ardaloedd hyn bellach yn allyrru nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer.
Dywedodd Yr AthroIain Donnison, Paennaeth Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Yn eu cyngor diweddar i Lywodraeth Cymru, awgrymodd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y dylid adfer tua 40,000 hectar o fawn erbyn 2050 fel rhan o gyfraniad Cymru at daclo newid hinsawdd. Yn y prosiect hwn, rydyn ni’n dangos sut y mae’n bosibl i adfer corsydd blanced yr ucheldir drwy dynnu’r llystyfiant sy’n dominyddu a chynyddu faint o fwsogl Sphagnum sydd yno. Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i sut y gellid ailosod y deunydd planhigion rydyn ni’n tynnu o’r ardaloedd hyn fel biochar er mwyn lleihau ymhellach allyriadau nwyon tŷ gwydr.”
“Mae’n fraint aruthrol bod gennyn ni’r rôl flaenllaw hon yn y buddsoddiad sylweddol hwn yn yr ymdrechion i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Bydd y prosiect hwn, ynghyd ag eraill, yn gwneud cyfraniadau pwysig er mwyn cyrraedd y targedau net sero - targedau sydd mor allweddol er mwyn diogelu dyfodol ein planed.”
Ychwanegodd Dr Ben Roberts o Brifysgol Aberystwyth:
“Ein nod yw cyflymu adferiad mawndiroedd; rydyn ni’n profi gwahanol ffyrdd o gyflawni hynny, gan gynnwys ar ardaloedd o fawndir bas. Rydyn ni’n un o dri ardal ymchwil a'r unig un yng Nghymru. Mawndiroedd yw un o’r storfeydd carbon mwyaf yn fyd-eang. Mae 80% o’n mawndiroedd mewn cyflwr dirywiedig ac mae hyn yn achosi llawer o allyriadau. Felly mae angen i ni adfer y mawndiroedd hynny fel nad ydyn nhw’n rhyddhau carbon, ond yn ei storio.”
Caiff y canlyniadau eu defnyddio er mwyn llywio penderfyniadau’r llywodraeth yn yr hir dymor ar y dechnoleg fwyaf effeithiol er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd a lleihau allyriadau CO2 er mwyn cyrraedd allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
Mae’r prosiect yn rhan o ail ran Cronfa Blaenoriaethau Strategol y Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sy’n buddsoddi mewn ymchwil rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o ansawdd uchel. Dyma’r rhaglen fwyaf i asesu dulliau Tynnu Nwyon Tŷ Gwydr ac wedi ei chyllido gan Lywodraeth y DU drwy Ymchwil ac Arloesi’r DU hyd yn hyn.
Dywedodd yr Athro Syr Duncan Wingham, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), sy’n rhan o UKRI:
“Mae’r buddsoddiad hwn mewn ymchwil i dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer yn gam hollbwysig tuag at liniaru effeithiau newid hinsawdd a gallai helpu i gyflawni uchelgais y Deyrnas Gyfunol i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050. Daeth y cyllid o Gronfa Blaenoriaethau Strategol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, gan fuddsoddi mewn pump gwahanol brosiect arddangos tynnu nwyon tŷ gwydr. Bydd y prosiect hwn yn helpu gwyddonwyr i ddeall a all tiroedd mawn dynnu nwyon tŷ gwydr o’r atmosffer ar y raddfa sydd ei hangen i warchod ein planed.”
Mae staff o Brifysgol Aberystwyth yn cydweithio gyda gwyddonwyr yng Nghanolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mangor ar y prosiect hwn.