Ethol daearyddwr Aberystwyth yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol
Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth
07 Mawrth 2023
Mae daearyddwr blaenllaw ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae Rhys Jones, sy’n Athro Daearyddiaeth Ddynol yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, ymhlith 56 o wyddonwyr cymdeithasol sydd wedi eu cydnabod gan yr Academi am ragoriaeth yn eu meysydd a’u cyfraniadau ehangach i’r gwyddorau cymdeithasol er budd cyhoeddus.
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Jones yn canolbwyntio ar ystod o themâu cydberthynol sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth wleidyddol, daearyddiaeth y wladwriaeth a’r defnydd a wneir o fewnwelediadau ymddygiadol mewn polisi cyhoeddus mewn ystod o wahanol wledydd. Mae hefyd yn arbenigwr ar ddatganoli yn y DU, yn enwedig yng Nghymru.
Mae Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol yn academi o academyddion, cymdeithasau dysgedig ac ymarferwyr yn y gwyddorau cymdeithasol ar draws y Deyrnas Gyfunol gyda’r nod o hyrwyddo budd cyhoeddus y gwyddorau cymdeithasol.
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd yr Athro Jones:
"Mae cael fy ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol yn bleser ac yn fraint o’r radd flaenaf. Bydd y Gymrodoriaeth newydd yma yn rhoi llwyfan newydd ar gyfer dwshau effaith fy ymchwil ymhellach. Hoffwn i ddiolch i’m cydweithwyr yn Aberystwyth am eu holl gefnogaeth. Dwi’n ystyried y dyfarniad hwn yn deyrnged i’w gwaith nhw hefyd.”
Dywedodd yr Athro Sarah Davies, Pennaeth yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r Gymrodoriaeth uchel ei bri yma yn tystio i ansawdd a rhagoriaeth ymchwil yr Athro Jones a’i effaith ar bolisi cyhoeddus a heriau eraill sy’n wynebu cymdeithas. Fel Adran, estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog ato ar dderbyn yr anrhydedd nodedig hwn ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio gydag ef wrth iddo barhau i ddatblygu ymchwil sy’n bwydo i mewn i bolisi cyhoeddus ac sydd o fudd i gymdeithas.”
Mae’r Athro Jones wedi cyhoeddi’n eang yn ei feysydd diddordeb, gan gynnwys 11 o lyfrau a dros 80 o erthyglau a phenodau llyfrau. Mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Mae ei brosiectau ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar syniadau o gydlyniant tiriogaethol a chyfiawnder gofodol yn yr Undeb Ewropeaidd a daearyddiaethau mudiadau rhanbarthol yn yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â thwristiaeth treftadaeth, hunaniaeth a symudedd rhwng Iwerddon a Chymru.