Lansio ysgoloriaeth newydd ym maes Hanes Cymru
07 Mawrth 2023
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru wedi lansio ysgoloriaeth uwchraddedig newydd, diolch i rodd hael gan gyn-fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth.
Mae Dr David Jenkins, a astudiodd am ei radd a doethuriaeth yn yr Adran Hanes Cymru ddeugain mlynedd yn ôl, wedi rhoi £500,000 i greu Cronfa Ysgoloriaeth Pennar.
Bydd yr ysgoloriaeth, sy’n adlewyrchu diddordebau academaidd Dr David Jenkins ei hun, yn cael ei dyfarnu'n flynyddol i fyfyriwr ôl-raddedig sy'n gwneud ymchwil doethurol ar hanes cymdeithasol ac economaidd Cymru a'r Gororau rhwng y blynyddoedd 1500 a 2000.
Bydd yr ysgoloriaeth yn talu am ffioedd dysgu ac yn darparu incwm i'r ymgeisydd llwyddiannus, yn ogystal ag arian tuag at deithio a mynychu cynadleddau.
Yn ei blwyddyn gychwynnol, dyfarnwyd yr ysgoloriaeth i'r myfyriwr PhD Simon Parsons.
Dywedodd yr Athro Paul O'Leary o'r Adran Hanes a Hanes Cymru:
“Mae deiliad cyntaf Ysgoloriaeth Pennar, Simon Parsons, yn ymchwilio i bwnc pwysig effaith y rheilffyrdd ar fywyd economaidd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ganddo ddiddordeb arbennig ym mhatrymau’r buddsoddi mewn rheilffyrdd a bydd ei ymchwil yn taflu goleuni pwysig ar fywyd economaidd y cyfnod.
"Fel adran, rydym yn hynod ddiolchgar i Dr David Jenkins am ei haelioni, ac am y cyfleoedd astudio uwchraddedig y bydd Cronfa Ysgoloriaeth newydd Pennar yn eu cynnig. Mae'r Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed eleni, a thrwy gydol y cyfnod hwn mae rhoddion dyngarol fel hyn wedi cael effaith amhrisiadwy ar y Brifysgol a'n myfyrwyr.”
Ac yntau’n hanu o linell hir o forwyr o Geredigion, mae Dr David Jenkins wedi ysgrifennu'n helaeth ar agweddau ar hanes morwrol, hanes trafnidiaeth a hanes diwydiannol Cymru.
Ymddeolodd fel Prif Guradur Trafnidiaeth Amgueddfa Cymru yn 2017, wedi gyrfa o 35 mlynedd, ac mae'n parhaui fod yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn yr Amgueddfa.
Mae Dr Jenkins yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Adran Hanes a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Henebion Llundain; cyd-olygydd Cymrua’r Môr/Maritime Wales, aelod o fwrdd golygyddol Folk Life, ac yn Ymddiriedolwr y Comisiwn Prydeinig ar gyfer Hanes Morol.
Mae wedi gwasanaethu fel ysgrifennydd Cymdeithas Perchnogion Llongau Môr Hafren am dros ddeng mlynedd ar hugain.
Mae Cronfa Ysgoloriaeth newydd Pennar yn un o nifer o raglenni cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. I gael rhagor o fanylion anfonwch e-bost i: ysgoloriaethau@aber.ac.uk