Academydd o Aberystwyth yn datblygu ap i bobl sy’n dysgu Sbaeneg
Dr Guy Baron
06 Mawrth 2023
Mae academydd entrepreneuraidd o Aberystwyth wedi cael cymorth ariannol a mentora i ddatblygu ap newydd ar gyfer dysgu Sbaeneg.
Y Pennaeth Ieithoedd Modern, Dr Guy Baron, yw'r academydd cyntaf o Aberystwyth i gael ei dderbyn ar Raglen Sbarduno Masnachu Ymchwil Aspect (ARC).
Nod y rhaglen yw helpu academyddion ac ymchwilwyr o ddisgyblaethau'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol (SHAPE) i droi syniadau sy'n seiliedig ar eu hymchwil yn fusnesau neu fentrau i helpu pobl, cymdeithas a'r economi.
Bydd Dr Baron yn cydweithio â Dr Edore Akpokodje a myfyrwyr yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ei syniad am ap dysgu Sbaeneg newydd.
Dros y chwe mis nesaf, bydd y Rhaglen Sbarduno ARC yn caniatáu i Dr Baron elwa ar sesiynau cymorth busnes a sesiynau hyfforddi rhithwir dan arweiniad arbenigwyr o'r diwydiant i fireinio ei sgiliau entrepreneuraidd. Bydd yn gallu manteisio ar hyfforddiant arbenigol sy’n ymwneud yn benodol â’r sector, ynghyd â chymorth pwrpasol gan fentoriaid, i’w helpu i ddatblygu model busnes. Bydd hefyd cael ac arweiniad ar sut i gyflwyno wrth wneud cais am gyllid neu fuddsoddiad.
Meddai Dr Baron:
"Dros y blynyddoedd, mae'r Adran Ieithoedd Modern wedi datblygu llawer o ddeunyddau ar gyfer dysgu iaith sydd ar gael ar yr adnodd dysgu ar-lein, Blackboard. Fodd bynnag, petai’r deunydd hwn ar gael ar ffurf ap symudol, mae’r myfyrwyr wedi dweud yn glir wrthym y byddai’n haws ei ddefnyddio ac y byddai’n gwella eu profiad dysgu yn aruthrol.
"Mae'n gyffrous iawn gallu gweithio gyda chydweithwyr yn yr Adran Cyfrifiadureg a chael budd o'u harbenigedd ym maes datblygu apiau. I gychwyn, byddwn yn creu ap prototeip, ac yna'n ei ddatblygu o'r fan honno. Bydd y rhaglen ARC yn darparu hyfforddiant entrepreneuraidd, cymorth mentora a chefnogaeth ymarferol ar sut i ddatblygu'r ap at ddibenion masnacheiddio."
"Ein nod yn y pen draw yw cyflwyno apiau ar gyfer yr holl ieithoedd rydyn ni'n eu dysgu, ac ychwanegu elfen fodern at ddysgu iaith ym Mhrifysgol Aberystwyth sy’n mynd i fod o fudd mawr i'n myfyrwyr."
Ar ddiwedd y Rhaglen Sbarduno ARC chwe mis ei hyd, bydd Dr Baron ac academyddion o brifysgolion eraill sy'n cymryd rhan yn y rhaglen, yn cael cyfle i roi cyflwyniad mewn ymgais i sicrhau gwobr ariannol sy’n werth £50,000 mewn digwyddiad ar y diwedd i roi sylw i gyflawniadau’r rhaglen.