Adnoddau dementia enillwyr Dragon’s Den yng nghanolfan nyrsio Prifysgol Aberystwyth
Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd Amanda Jones, ac Elin Jones AS yn agor y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym mis Medi 2022.
25 Ionawr 2023
Mae un o enillwyr cystadleuaeth Dragon’s Den wedi gosod adnoddau ar gyfer addysgu myfyrwyr nyrsio am ddementia fel rhan o Ganolfan Gofal Iechyd newydd Prifysgol Aberystwyth.
Enillodd RemPods fuddsoddiad o £100,000 ar raglen y BBC, ac maen nhw wedi creu ystafelloedd sy’n cynorthwyo cleifion bregus ac unigolion sydd â diagnosis dementia, gan gynnwys ystafell sy’n ymdebygu i gerbyd trên, wal atgofion ac ystafell gymunedol.
Dyma’r tro cyntaf i gynnyrch y cwmni gael ei ddefnyddio mewn addysg uwch ac mae’n rhan o ganolfan addysg gofal iechyd newydd gwerth £1.7 miliwn ar gampws Penglais y Brifysgol.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau yn y Ganolfan newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis Medi, a chafodd ei hagor yn swyddogol gan Weinidog Iechyd Cymru Eluned Morgan AS.
Mae’r Ganolfan wedi derbyn statws ‘dementia-gyfeillgar’ gan yr elusen Dementia UK yn ogystal.
Dywedodd Amanda Jones, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydyn ni’n ffodus iawn o allu elwa ar arbenigedd y cwmni hwn. Mae’r adnoddau dementia yma yn y ganolfan newydd yn bwysig iawn i’r ddarpariaeth addysg yma. Wrth reswm, mae cynorthwyo cleifion sydd â diagnosis dementia yn rhan gynyddol allweddol o ddarpariaeth gofal iechyd yng Nghymru a thu hwnt. Dyna pam rwy’n falch ein bod ni wedi gallu buddsoddi yn yr adnoddau hyn ar gyfer ein myfyrwyr.
“Mae’r offer addysgu newydd yma yn y Ganolfan hefyd yn cynnwys dyfeisiadau realiti rhithwir ar gyfer profi breuder ac effaith heneiddio. At ei gilydd, mae’r Ganolfan yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn, a bydd yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol.”
Sefydlwyd RemPods gyntaf yn 2009 gan Richard Ernest. Cafodd ei ysbrydoli i sefydlu’r cynnyrch gofal iechyd arloesol pan ffurfiodd berthynas agos â chymydog oedrannus a yrrodd yn ôl ac ymlaen o gartref gofal i weld ei wraig oedd â salwch angheuol.
Yn 2013, cynigiodd sêr BBC TV Dragons’ Den, Deborah Meaden a Peter Jones fuddsoddiad ar y cyd i ehangu’r busnes.
Ychwanegodd Richard Ernest, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr RemPods:
“Mae’n wych gweld mai Prifysgol Aberystwyth a’i myfyrwyr yw’r cyntaf mewn addysg uwch i elwa o’n hadnoddau ni. Mae gwneud gofal dementia yn rhan graidd o addysg gofal iechyd yn hanfodol - mae’n galonogol gweld bod anghenion cleifion dementia yn ein cymdeithas sy’n heneiddio yn cael mwy a mwy o sylw.”