Map byd-eang newydd o fywyd y tu mewn i'r Ddaear yn datgelu glo llawn bacteria
Dr André Soares yn dadansoddi DNA microbau dan ddaear yn Amgueddfa Lofaol Cymru yn ystod ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth.
18 Ionawr 2023
Mae glo yn syndod o gyfoethog mewn bacteria yn ôl atlas cyntaf y byd o fioamrywiaeth ficrobaidd yn ddwfn o dan wyneb y Ddaear, a gafodd ei ddatblygu gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae’r papur ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Microbiology, yn tynnu sylw at waith 25 o wyddonwyr mewn deg gwlad yn archwilio bioamrywiaeth organebau sy’n byw o dan y ddaear.
Edrychodd yr astudiaeth ar ddata a gasglwyd dros y degawd diwethaf a chymhwyswyd algorithmau cyfrifiadurol uwch i greu'r map byd-eang cyntaf o'r miloedd o rywogaethau o facteria sy'n byw yn ddwfn o dan wyneb y Ddaear.
Eglurodd un o awduron y papur, yr Athro Andy Mitchell, daearegwr o Brifysgol Aberystwyth, y cefndir:
“Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae technolegau newydd ar gyfer dilyniannu DNA wedi cynhyrchu llawer iawn o ddata sy’n disgrifio’r gwahanol rywogaethau o facteria sy’n byw mewn creigiau a dŵr daear, ond mae’r astudiaethau hyn fel arfer wedi bod yn lleol neu’n rhanbarthol iawn eu ffocws.
“Fel rhan o’r ymchwil buon ni’n edrych ar ddatblygu dulliau cyfrifiannol newydd i goladu’r data o’r astudiaethau hyn. Roedd yn fater o wneud y cysylltiad rhwng y gwahanol ddarnau o ddata i raddau helaeth ond mae’r hyn y mae’n ei ddarparu yn gam cyntaf tuag at ddeall bioamrywiaeth fyd-eang yr hyn sydd o dan wyneb y Ddaear.”
Wrth siarad am y canfyddiad rhyfeddol bod lefel uchel iawn o fioamrywiaeth mewn glo, ychwanegodd yr Athro Mitchell:
“Roedd llawer o’n hymchwil ni yng Nghymru’n canolbwyntio ar byllau glo yn y de gan fod y gwythiennau dwfn yn darparu cyfoeth o wybodaeth wyddonol. Yn y gwaith hwn, fe wnaethom nodi bod mwy o rywogaethau o facteria i'w cael o fewn glo nag o fewn creigiau eraill fel dolomit neu siâl ac roedd hyn yn cael ei ailadrodd mewn dyddodion glo ar draws y gwledydd eraill.
“Gall hyn helpu i roi gwybod i ni am faterion fel dal a storio carbon yn y dyfodol.”
Gall astudio micro-organebau o'r fath hefyd effeithio ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Deilliodd y defnydd o brofion PCR yn ystod y pandemig Covid o ymchwil a gafodd ei gynnal yn y 1960au i ficrobau a gafodd eu darganfod ym Mharc Cenedlaethol Yellowstone yn America.
Gallai’r gwaith newydd hwn gael effaith sylweddol ar ein dulliau gwyddonol hirdymor yn ôl y microbiolegydd Dr Arwyn Edwards o Brifysgol Aberystwyth:
“Fel planed rydyn ni’n wynebu argyfwng bioamrywiaeth ond mae angen i ni hefyd ystyried sut rydyn ni’n mesur effaith bioamrywiaeth. Mae’r gwaith arloesol hwn wedi amlygu gwybodaeth nad oedd yn hysbys i ni o’r blaen ac yn sicr na chafodd ei hystyried ar raddfa fyd-eang.
“Mae gan yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu am y byd microbau o’n cwmpas, diolch i ddatblygiadau mewn technoleg dilyniannu DNA, y potensial i gael effaith sylweddol ar ein bywydau ac agor y drws i bosibiliadau newydd. Mae’n wych bod Prifysgol Aberystwyth wedi gallu arwain ar y gwaith gwyddonol arloesol hwn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i arwain y ffordd mewn ymchwil arloesol gyda gwyddonwyr o bob rhan o’r byd.”
Ynghyd â Phrifysgol Aberystwyth, cyfrannodd sefydliadau ymchwil mewn sawl gwlad wahanol gan gynnwys Canada, y Swistir a’r Ffindir at yr astudiaeth. Cafodd llawer o’r gwaith ei arwain gan Dr André Soares tra’r oedd yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth dan oruchwyliaeth yr Athro Andy Mitchell a Dr Arwyn Edwards.