Prifysgol Aberystwyth yn croesawu myfyrwyr o Wcráin

Oleksii Gorbatenko a Maryna Zaitzeva sy’n astudio yn Ysgol Fusnes Aberystwyth fel rhan o gynllun gefeillio gyda Phrifysgol Genedlaethol Economeg Odesa yn Wcráin.

Oleksii Gorbatenko a Maryna Zaitzeva sy’n astudio yn Ysgol Fusnes Aberystwyth fel rhan o gynllun gefeillio gyda Phrifysgol Genedlaethol Economeg Odesa yn Wcráin.

21 Rhagfyr 2022

Wrth i ryfel Wcráin barhau, mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn adeiladu ar y cysylltiad a sefydlwyd gyda Phrifysgol Genedlaethol Economeg Odesa (PGEO) fel rhan o drefniant gefeillio ar draws y Deyrnas Gyfunol i gefnogi myfyrwyr a staff academaidd y wlad.

Ymunodd grŵp o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig o Odesa ag Ysgol Fusnes y Brifysgol ym mis Hydref, ac yn gynnar ym mis Tachwedd cynhaliodd y Brifysgol ysgol astudio wythnos o hyd ar gyfer myfyrwyr a staff PGEO.

Cafodd rhaglen yr Ysgol yr Hydref ei datblygu a’i chyflwyno gan staff yr Ysgol Fusnes a’r Ganolfan Saesneg Ryngwladol ac roedd yn ymdrin â hanfodion rheoli prosiect a sgiliau iaith Saesneg.

Yn ystod eu hymweliad buont hefyd yn dysgu am yr iaith a’r diwylliant Cymraeg ac yn cyfarfod ag aelodau o Rwydwaith Myfyrwyr Ewropeaidd y Brifysgol.

Cyrhaeddodd y myfyrwyr israddedig Maryna Zaitseva ac Oleksii Gorbatenko o Odesa ym mis Hydref a byddant yn Aberystwyth tan ddiwedd y semester cyntaf a fydd yn rhedeg tan ddiwedd Ionawr 2023.

Mae Maryna yn ei thrydedd flwyddyn o radd pedair blynedd yn PGEO lle mae’n astudio Entrepreneuriaeth, Masnach a Marchnadoedd Stoc. Yn Aberystwyth mae hi'n astudio Busnes Digidol, Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol ac Economeg Amgylcheddol.

Yn wreiddiol o Vinnytisa yng nghanolbarth Wcráin, nid oedd Maryna wedi ystyried astudio dramor cyn y rhyfel, ond croesawodd y cyfle i adael wrth i fywyd yno fynd yn gynyddol anodd.

“Mae astudio arferol yn Odesa yn anodd iawn ar hyn o bryd”, meddai Maryna, “nid yw’r cyflenwad trydan yn gyson ac rydych bob amser yn ymwybodol o beryglon rocedi’n glanio, yn enwedig o longau rhyfel Rwsiaidd yn y Môr Du.”

“Mae’r croeso yma yn Aberystwyth wedi bod yn gynnes iawn ac mae dod yma wedi bod yn gyfle gwych i wella fy Saesneg. Mae Aberystwyth hefyd yn brydferth, ger y môr, yn union fel Odesa, ac mae’n wych bod popeth o fewn pellter cerdded.”

Mae tad Maryna ac aelodau eraill o’i theulu a llawer o’i ffrindiau yn y fyddin. “Mae’n beryglus ble bynnag yr ydych yn Wcráin ar hyn o bryd a gyda chymaint o bobl rwy’n eu hadnabod yn ymwneud â’r fyddin, mae hynny’n golygu fy mod yn nerfus iawn ar adegau.”

Mae Oleksii yn ei ail flwyddyn yn PGEO ac yn astudio Rheolaeth. Mae ei ddewis o fodiwlau yn Aberystwyth yn debyg i’r rhai yr oedd fod i’w hastudio yn Odesa ac yn cynnwys Hanfodion Rheolaeth, Economeg Reolaethol, Busnes Digidol: Arwain a Rheolaeth.”

“Penderfynais ddod i Aberystwyth i ddianc rhag y gwrthdaro ond hefyd i astudio dramor ac mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i wella fy sgiliau iaith a fy ngwaith academaidd.”

“Mae’r bomio, yn enwedig o’r cyflenwad trydan wedi gwneud y sefyllfa yn Odesa yn waeth. Rwy’n poeni am fy mherthnasau a ffrindiau sydd wedi aros yn y ddinas ac yn cadw mewn cysylltiad â nhw bob dydd pan fo hynny’n bosibl.”

Yn ogystal ag Wcraneg a Saesneg, mae Maryna ac Oleksii yn siarad Rwsieg ac wedi astudio Almaeneg yn yr ysgol. Hoffai'r ddau ddychwelyd i Wcráin, ond am y tro, maent yn gobeithio gallu parhau â'u hastudiaethau o gyrraedd y gwrthdaro.

“Pan ddechreuodd y rhyfel roedd yn anodd iawn gwneud cynlluniau tymor hir gan nad oeddem yn gwybod beth oedd yn mynd i ddigwydd”, meddai Maryna. “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i astudio yn Aberystwyth a nawr hoffwn barhau i astudio dramor am o bosib ddwy neu dair blynedd a chwblhau gradd Meistr cyn dychwelyd adref.”

“Yn y pen draw hoffwn ddychwelyd i Wcráin i helpu i ailadeiladu’r wlad”, ychwanegodd Oleksii, “drwy wneud rhywbeth sy’n ymwneud â’m hastudiaethau, gobeithio. Rwy’n gweld eisiau Wcráin a’m ffrindiau a’m teulu yno, ond am y tro rwy’n falch fy mod yn Aberystwyth ac yn gallu parhau â’m hastudiaethau ymhell o beryglon y rhyfel.”

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn cydymdeimlo â phawb sydd wedi eu heffeithio gan y rhyfel ofnadwy yn Wcráin, ac yn ddiolchgar ein bod yn gallu chwarae ein rhan wrth helpu myfyrwyr o'r wlad. Roedd llofnodi’r cytundeb gyda Phrifysgol Genedlaethol Economeg Odesa yn gam pwysig ac yn gyfle i gefnogi pobl ifanc y mae’r gwrthdaro dinistriol wedi amharu ar eu hastudiaethau academaidd.

“Roedd yn bleser o’r diwedd croesawu ein myfyrwyr cyntaf ym mis Hydref a’r grŵp a fynychodd yr Ysgol yr Hydref. Gobeithiwn y gallwn adeiladu ar y camau cyntaf hyn a chynnig partneriaeth sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r Brifysgol yn Odesa wrth i’r genedl barhau i ddygymod â goblygiadau’r gwrthdaro. Edrychwn ymlaen at gryfhau datblygiadau addysgol ac ymchwil sy’n ehangu cyfeillgarwch a theyrngarwch ac yn cadarnhau’r cysylltiadau rhwng Cymru a Wcráin.”

Ar adeg llofnodi’r cytundeb rhwng Prifysgol Aberystwyth a PGEO ddiwedd mis Mehefin 2022, roedd 71 o bartneriaethau wedi eu harwyddo rhwng prifysgolion yn y DU a Wcráin fel rhan o fenter gefeillio Universities UK.

Sefydlwyd PGEO ym 1921. Heddiw mae ganddi 10,000 o fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig ac mae ei ffocws academaidd ar ymchwil sylfaenol a chymhwysol ym maes economeg.