Mae angen i lywodraethau “newid yn sylweddol” y modd maen nhw’n delio â’r argyfwng bioamrywiaeth, dywed ymchwilydd
Prifysgol Aberystwyth
19 Rhagfyr 2022
Dyw llywodraethau ddim yn gwneud digon i flaenoriaethu bioamrywiaeth o ran eu polisïau gwyrdd, yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth wrth siarad yn COP15 yng Nghanada.
Mae uwchgynhadledd bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig ym Montreal yn gartref i fwy na 10,000 o wyddonwyr, swyddogion y llywodraeth ac ymgyrchwyr o bron bob cenedl, gyda'r nod o gymeradwyo nodau a thargedau hirdymor i helpu i atal colli’n barhaus bioamrywiaeth ddaearol a morol.Mae miliwn o rywogaethau dan fygythiad o ddiflannu ar hyn o bryd.
Mewn digwyddiad yn yr uwchgynhadledd, amlinellodd yr Athro Mike Christie o Ysgol Busnes Aberystwyth fod y ffordd y mae byd natur yn cael ei werthuso wrth wneud penderfyniadau polisi yn aml yn anwybyddu ei arwyddocâd cymdeithasol, diwylliannol ac ysbrydol.Mae gor-bwyslais cymdeithas ar elw tymor byr a thwf economaidd wedi arwain at danbrisio gwerth byd natur.
Dywedodd fod angen i lywodraethau wneud mwy i ystyried barn pobl leol a chymunedau brodorol wrth wneud penderfyniadau polisi. Dywedodd yr Athro Christie: “Mae angen newid sylweddol yn y modd y mae llywodraethau yn ymateb i’r argyfwng bioamrywiaeth byd-eang.
“Gall llunio polisïau fod yn anodd: gall prosiectau datblygu economaidd greu swyddi a chynyddu cynnyrch domestig gros ond ar draul difrodi ecosystem ardal.Mae angen i lywodraethau roi mwy o sylw i’r corff cynyddol o dystiolaeth wyddonol ar wir werth byd natur, a’r cyfraniad y mae’n ei wneud i gymunedau lleol a’r amgylchedd ehangach.”
Roedd yr Athro Christie yn gyd-awdur ar adroddiad nodedig ‘Values Assessment’ IPBESa gyhoeddwyd yn gynharach eleni a oedd yn dadlau bod angen i lywodraethau edrych y tu hwnt i agweddau ar y farchnad ar lunio polisïau a sicrhau bod penderfyniadau’n ystyried eu heffeithiau ar natur a dinasyddion.
“Os ydyn ni am amddiffyn byd natur, mae angen i bawb gyfrannu at yr alwad hon.Yn ogystal â llywodraethau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol, mae angen i fusnesau a phobl newid ymddygiad hefyd i leihau eu heffeithiau ar natur,” meddai.
“Nid yw’n ymwneud yn unig â pha werthoedd sy’n bwysig, ond gwerthoedd pwy sy’n cael eu hystyried mewn polisi.Mae angen inni fynd i’r afael â’r anghydbwysedd grym wrth wneud penderfyniadau er mwyn sicrhau bod pob llais, gan gynnwys lleisiau pobl frodorol, yn cael eu clywed.Mae amser yn mynd yn brin i atal colli bioamrywiaeth.Bydd yr hyn sy’n digwydd yn COP15 yn cael effaith sylweddol ar y dyfodol i bobl ac i natur.”
Bydd Cynhadledd Bioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) yn dod i ben ar 19 Rhagfyr.Mae’r Cenhedloedd Unedig yn gobeithio y bydd llywodraethau’n dod i gytundeb ar nodau hirdymor newydd a bydd camau gweithredu yn helpu i drawsnewid perthynas dynolryw â bioamrywiaeth ac yn sicrhau bod cydbwysedd mwy cytûn yn cael ei gyflawni erbyn 2050.