Ceirch a ffa Aberystwyth ar y fwydlen wedi argymhelliad i’r diwydiant
Y math newydd o geirch gaeaf, Cromwell, a gafodd ei ddatblygu gan dîm bridio IBERS, Prifysgol Aberystwyth
14 Rhagfyr 2022
Mae mathau o geirch a gafodd eu bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn fwy tebygol o fod ar y fwydlen, wedi iddynt gael eu hargymell i ffermwyr gan fwrdd diwydiant y llywodraeth.
Mae’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, corff diwydiant statudol, wedi rhoi sawl math o geirch a gafodd eu bridio yn Aberystwyth ar restr o argymhellion y Deyrnas Gyfunol i ffermwyr a thyfwyr.
Mae math newydd o geirch gaeaf yn eu plisgyn, Cromwell, a gafodd ei ddatblygu gan dîm bridio IBERS y Brifysgol a’i farchnata gan bartneriaid Senova wedi’i ychwanegu at Restr o Argymhellion y bwrdd ar gyfer y flwyddyn i ddod oherwydd ei gyfuniad o gynnyrch uchel ac ansawdd grawn gwych.
Mae tri math arall a ddatblygwyd yn Aberystwyth - y Winter Oat Valentine, y Spring Oat Timpani a'r Noeth Spring Oat Ovation – hefyd wedi cael eu rhestru'n genedlaethol.
Ymhlith y mathau o geirch sydd wedi’u bridio ym Mhrifysgol Aberystwyth mae Mascani, sy’n ffefryn gan felinwyr ac sy'n cyfrif am dros 80% o farchnad ceirch gaeaf y Deyrnas Unedig.
Mae’r ffa maes gaeaf newydd Bonneville, a gafodd ei fridio ym Mhrifysgol Aberystwyth a’i farchnata gan Senova, wedi’u hychwanegu at Restr Ddisgrifiadol 2023 Sefydliad Ymchwil y Proseswyr a Thyfwyr gan ymuno â nifer o fathau eraill o’r rhaglen gan gynnwys arweinydd y farchnad Vespa. Mae gan Bonneville gynnwys protein uwch a maint hadau mwy, gan ehangu dewis tyfwyr.
Dywedodd Dr Catherine Howarth o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’n dipyn o bluen yn yr het bod yr amrywogaethau newydd hyn wedi cyrraedd y rhestrau hyn o argymhellion i’r sector gyfan. Bydd argymell y ceirch Cromwell yn dod â rhagor o ddewis i dyfwyr ceirch ac yn lleihau dibyniaeth y diwydiant ar un math prif-ffrwd. Bydd yn ychwanegu at ddewis tyfwyr a pharhau i godi safonau codlysiau.
“Mae ceirch yn cynnig buddiannau clir i iechyd pobl, a gostwng lefelau cholesterol yw’r mwyaf amlwg o’r rhain. Mae hefyd yn gnwd mwy deniadol yng Nghymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol.”
“Mae galw mawr am ffa oherwydd eu cyfraniad at leihau’r angen am wrtaith nitrogen ac fel ffynhonnell amgen o brotein. Bydd cynyddu amrywiaeth y mathau o ffa sydd ar gael yn cynyddu eu cynaliadwyedd.”
Ychwanegodd Tom Yewbrey o Senova:
“Rydym wrth ein bodd bod Cromwell wedi derbyn argymhelliad ac o’r farn ei fod yn ychwanegiad amserol iawn at y rhestr. Er y bydd Mascani yn parhau i fod yn ddewis poblogaidd, mae manteision o gael mwy nag un amrywiaeth y mae melinwyr a thyfwyr â ffydd ynddynt.
“Rydyn ni bellach yn gweld ceirch yn cael eu bwyta ar wahanol adegau o’r dydd, heblaw am yr adeg draddodiadol honno o amser brecwast. Mae amrywiaeth eang o gynhyrchion sy'n defnyddio ceirch wedi'i falu, o fwydydd iach a chyfleus i ddewisiadau “rhydd o” ac amnewidion llaeth. Does ryfedd fod cymaint o ddiddordeb yn Cromwell a’r hyn sydd ganddo i’w gynnig.”
“Rydyn ni’n falch o weld Bonneville ar Restr Ddisgrifiadol 2023, sy’n ymestyn ein cynnig ffa gaeafol.”