Canolfan ymchwil newydd y Brifysgol i fynd i’r afael â heriau trafnidiaeth

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn lansiad swyddogol Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd Prifysgol Aberystwyth gyda Dr Rachel Rahman, yr Athro Charles Musselwhite, yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure, yr Athro Peter Merriman a’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Colin McInnes.

Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn lansiad swyddogol Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd Prifysgol Aberystwyth gyda Dr Rachel Rahman, yr Athro Charles Musselwhite, yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure, yr Athro Peter Merriman a’r Dirprwy Is-Ganghellor yr Athro Colin McInnes.

01 Rhagfyr 2022

Cafodd canolfan ymchwil newydd yn edrych ar yr heriau trafnidiaeth sy’n wynebu cymdeithas ei lansio’n swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw (Dydd Iau 1 Rhagfyr) gan Ddirprwy Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Lee Waters AS.

Daw’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd ag ymchwilwyr o gyfadrannau ar draws y Brifysgol ynghyd i ystyried atebion i faterion trafnidiaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Y nod yw llywio polisïau ac arferion sy’n effeithio ar y ffordd mae pobl a nwyddau’n cael eu cludo o le i le, ac edrych ar systemau sy’n fwy cynaliadwy, yn fwy teg ac yn fwy hygyrch.

Bydd y ganolfan newydd yn ystyried cyfraniad technolegau newydd gan gynnwys cerbydau carbon-isel ac awtomataidd, ‘dinasoedd clyfar’ a symudedd deallusol.

Gan adeiladu ar arbenigedd a phrosiectau ymchwil cyfredol y Brifysgol, bydd hefyd yn ystyried effaith gwasanaethau trafnidiaeth a symudedd ar gymunedau lleol a phwysigrwydd dirnad a dylanwadu ar ymddygiad pobl er mwyn esgor ar newid.

Wrth siarad yn y lansiad a gynhaliwyd fel rhan o Ŵyl Ymchwil 2022 y Brifysgol, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth:

“Gyda’r polisïau rydym yn eu rhoi ar waith, rwy’n hyderus y byddwn ni’n gweld gwelliannau sylweddol o ran teithio ar fysiau, beicio a cherdded, gyda symudiad pellach tuag at drafnidiaeth gynaliadwy.

“Wrth gwrs, nid mater o newid ein hisadeiledd yn unig yw hwn, mae hefyd yn fater o newid ymddygiad a bydd y Ganolfan Ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ein helpu i edrych ar ffyrdd o wneud hyn drwy ddarparu atebion arloesol i’r materion trafnidiaeth sy’n effeithio ni i gyd.”

Caiff y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd ei harwain gan yr Athro Charles Musselwhite o Adran Seicoleg y Brifysgol a’r Athro Peter Merriman o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Dywedodd yr Athro Musselwhite: “Mae trafnidiaeth a symudedd wrth wraidd trafodaethau cymdeithasol ar gynaliadwyedd, newid hinsawdd, gweithgarwch corfforol ac anghydraddoldebau iechyd. Ar adeg o chwyldro technolegol o bwys, gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn buddsoddi arian mawr mewn datrysiadau trafnidiaeth cynaliadwy, nod y ganolfan yw ymchwilio i rai o’r materion allweddol sy’n wynebu gwneuthurwyr polisi trafnidiaeth, gwyddonwyr cymdethasol a gwyddonwyr ymddygiad heddiw ac yn y dyfodol.”

Dywedodd yr Athro Merriman: “Mae gan y Brifysgol ystod o brosiectau yn edrych ar agweddau gwahanol ar drafnidiaeth a symuededd. Bydd y ganolfan aml-ddisgyblaethol hon yn adeiladau ar ymchwil cyfredol yn ogystal â datblygu partneriaethau a chydweithio newydd ar draws academia, llywodraeth, busnesau a mudiadau’r sector breifat, cyrff elusennol a chymunedau lleol.”

Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael ar wefan y Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTraM): cetram.aber.ac.uk