Gallai cwsmeriaid a chynhyrchwyr elwa o gynllun seren i raddio ansawdd bwyta cig, medd ymchwilwyr
Gwartheg teulu Roderick o Ffarm Newton, Aberhonddu. Mae teulu Roderick a’u ffarm yn ymddangos mewn cyfres o dair ffilm fer a gynhyrchwyd ar gyfer BeefQ yn edrych ar sut gall rhai arferion ffermio ddylanwadu ar ansawdd bwyta cig eidion.
29 Tachwedd 2022
Mae adroddiad terfynol prosiect ymchwil pedair blynedd dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth yn argymell cyflwyno system raddio ar gyfer cig eidion ar draws y Deyrnas Unedig er mwyn sicrhau ansawdd bwyta cig eidion gwarantedig a chyson i ddefnyddwyr.
Nod prosiect BeefQ oedd datblygu, profi a dangos sut y gallai cyfundrefn rhagweld ansawdd bwyta cig eidion weithio yn y DU.
Fel sail ar gyfer rhagweld ansawdd bwyta, fe ddefnyddiodd prosiect BeefQ fodel graddio Safonau Cig Awstralia yr MSA sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus. Cafodd ei gyflwyno yn Awstralia bum mlynedd ar hugain yn ôl ac mae’n dyfarnu graddau tair, pedair neu bum seren i ansawdd bwyta cig eidion.
Er mwyn dilysu dulliau’r MSA at ddibenion y DU, aeth y tîm ati i wneud arolwg o 2,090 o garcasau gwartheg yn cynnwys bron i 70 o fridiau a chroesfridiau.
Cynhaliwyd 20 sesiwn flasu hefyd gyda 1,200 o ddefnyddwyr yng Nghymru a Lloegr i brofi eu hymateb i doriadau gwahanol ac ansawdd bwyta rhagweledig cig eidion.
Cafodd canfyddiadau’r adroddiad eu cyhoeddi mewn digwyddiad arbennig ar faes Ffair Aeaf y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar ddydd Mawrth 29 Tachwedd 2022, ar y cyd ag un o bartneriaid allweddol y prosiect Hybu Cig Cymru - y sefydliad sy’n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymreig.
Dywedodd Rheolwr Prosiect BeefQ, Dr Pip Nicholas-Davies o Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth: “Mae’n hymchwil yn dangos y gallai cyflwyno set glir o safonau ar draws y Deyrnas Unedig fod o fudd i ddefnyddwyr a’r diwydiant. Mae gan y wlad hon enw rhagorol am anawdd ei chig eidion ond byddai cyfundrefn raddio gydnabyddedig yn cynnig dewis, cysondeb a hyder ychwanegol i ddefnyddwyr tra’n cyfrannu at gynaliadwyedd tymor-hir cynhyrchwyr a phroseswyr cig eidion mewn marchnad hynod gystadleuol. Ein gobaith yw y caiff ein canfyddiadau eu datblygu ymhellach nawr gan y diwydiant a llunwyr polisi.”
Dywedodd Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig Hybu Cig Cymru, Dr Eleri Thomas:
“Rydyn ni’n falch o fod yn cynnal digwyddiad yn y Ffair Aeaf i nodi 4 blynedd o waith ar y prosiect BeefQ.Er mwyn sicrhau’r enillion gorau posibl i ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru, mae’n hanfodol adeiladu ymhellach ar enw da Cig Eidion Cymru fel cynnyrch premiwm o safon fyd-eang.Bydd cynnal yr ymchwil hwn yn helpu’r sector i roi hyder i ddefnyddwyr am ansawdd bwyta Cig Eidion Cymru, ochr yn ochr â’i nodweddion cryf o ran cynaliadwyedd a'r gallu i’w olrhain.”
Cyllidwyd prosiect BeefQ drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.