Ymchwilio effaith chwalu ysgafellau iâ yr Antarctig
Academyddion o Aberystwyth yn ymchwilio yn yr Ysgafell Iâ Larsen C
03 Tachwedd 2022
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn ymweld â’r Antarctig er mwyn ymchwilio i’r ffordd mae ysgafellau iâ yn chwalu a’r effaith bosibl ar y cynnydd yn lefel y môr.
Ymylon llenni iâ sy’n arnofio yw ysgafellau iâ: maen nhw’n chwalu pan maen nhw’n rhwygo ac mae darnau o iâ yn cwympo i ffurfio rhewfryniau.
Ni all modelau presennol ragweld pryd bydd rhwygiadau yn yr ysgafellau iâ yn digwydd, sut maen nhw’n datblygu, neu pan fydd ysgafellau eu hunain yn chwalu.
Nod ymchwil y tîm yw edrych ar sut mae rhwygiadau’n datblygu’n gyflym trwy iâ ‘meteoriaidd’ oer, caled, ond yn cael eu hatal mewn ardaloedd cynhesach a meddalach, a elwir yn ‘ia ardal asio’.
Bydd y tîm yn gwersylla ar dri safle yn yr Ysgafell Iâ Larsen C er mwyn cynnal cyfres o arbrofion. Mae’r rhain yn cynnwys defnyddio radar sy’n cael ei dynnu gan sgwter eira, drilio dŵr poeth a gosod opteg ffibr tu mewn i dyllau turio i gofnodi tymheredd iâ.
Mae Ysgafell Iâ Larsen C ymhell dros ddwywaith maint Cymru ac yn gorchuddio tua phum deg i chwe deg pum cilometr sgwâr.
Cyn ei ymweliad i Antartica, dywedodd yr Athro Bryn Hubbard o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’r ymchwil hwn yn hollbwysig wrth ddatblygu modelau sy’n gallu rhagweld y rôl y mae rhwygo ysgafellau iâ yn ei chwarae yn nyfodol llenni iâ’r Antarctig. Yn Ysgafell Iâ Larsen C, y llif i lawr o Benrhyn Joerg, byddwn ni’n defnyddio amryw dechnegau ac offerynnau i gofnodi natur iâ parth asiad, ymchwilio i rwygo parhaus, a mesur newidiadau ers arolygon blaenorol.”
Ychwanegodd Dr Katie Miles, sy’n aelod arall o dîm ymchwil Prifysgol Aberystwyth:
“Mae deall y newidiadau hyn a sut y byddan nhw’n effeithio ar gynnydd yn lefel y môr yn hanfodol i ddyfodol y rhanbarth a’n planed gyfan. Bydd yr ymchwil radar a drilio yn ein helpu i ddeall priodweddau ffisegol iâ parth asiad a'i effaith ar ymlediad rhwygiadau. Bydd hyn oll ein helpu i ddatblygu modelau sy’n gallu dangos sut mae’r prosesau rhwygo yn dylanwadu ar yr Antarctig yn ei gyfanrwydd.”