Canolfan ymchwil newydd ym maes llenyddiaeth a hanes meddygaeth yng Nghymru
‘Dyn y Sidydd’ yn Llawysgrif LlGC 3026C (Mostyn 88), Gutun Owain o ail hanner y 15ed ganrif. Hawlfraint: Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
03 Tachwedd 2022
Mae academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru i sefydlu Canolfan Ymchwil newydd a fydd yn elwa ar gasgliad cyfoethog ac amrywiol y Llyfrgell o weithiau printiedig yn ymwneud â meddygaeth ac iechyd yng Nghymru.
Bydd y Ganolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth yng Nghymru yn cael ei lansio mewn cynhadledd undydd a gynhelir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Gwener 11 Tachwedd 2022.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gasgliad sylweddol o weithiau printiedig Cymraeg a Chymreig ar feddygaeth ac iechyd. Mae'r casgliad, a sefydlwyd trwy nawdd a chefnogaeth Ymddiriedolaeth Wellcome, yn cwmpasu dros 6,500 o eitemau unigol yn dyddio'n ôl i 1740. Mae'n cynnwys llyfrau ar feddyginiaethau cynnar, meddyginiaethau llysieuol, adroddiadau ar lanweithdra, disgrifiadau o glefydau heintus, a chofnodion am gleifion gwallgofdai.
Mae Dr Bleddyn Owen Huws o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ymddiddori yn y cyfeiriadau at iechyd ac iacháu ym marddoniaeth yr Oesoedd Canol Diweddar. Dywedodd: “Mae sefydlu’r Ganolfan Ymchwil hon yn gyfle gwych i fanteisio ar y cyfoeth o adnoddau a ffynonellau llenyddol a hanesyddol sydd ar garreg ein drws yn y Llyfrgell Genedlaethol, er mwyn dod ag arbenigwyr ym meysydd llên a hanes Cymru at ei gilydd a sbarduno mwy o waith gan ymchwilwyr profiadol ac ymchwilwyr ifainc ar agweddau yn ymwneud ag iechyd a meddygaeth yng Nghymru.”
Mae Dr Steve Thompson o Adran Hanes a Hanes Cymru y Brifysgol yn cynnal ymchwil ar iechyd y boblogaeth yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif. Meddai: “Gan fod llawer o ddiddordeb mewn hanes iechyd a meddygaeth yng Nghymru ar hyd y canrifoedd gwelwn fod nifer o feysydd ymchwil yn eu cynnig eu hunain inni, fel ein bod yn gallu dehongli’r dystiolaeth a geir mewn archifau a chyhoeddi astudiaethau ar ffurf llyfrau, papurau a darlithoedd. Ein gobaith yw denu myfyrwyr ymchwil i weithio yn y maes ffrwythlon hwn.”
Mae'r rhaglen ar gyfer y gynhadledd undydd, a fydd yn cynnwys lansiad y Ganolfan Ymchwil newydd, yn cynnwys neges fideo gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS. Ceir cyflwyniadau hefyd gan yr Athro Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor: Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a Pedr ap Llwyd, Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys nifer o bapurau byr ar wahanol agweddau ar waith y Ganolfan Ymchwil newydd:
- Charles Roberts – ‘Côf ac Angof - y Ffliw Sbaenaidd’: Ymchwilio yn archifdai Cymru a Llundain ar effaith y Pandemig’
- Dr T. Robin Chapman – ‘Cynnyrch cystudd: golwg ar Offrymau Neillduaeth (1879) Daniel Owen’
- Cadi Dafydd – ‘Astudiaeth o salwch meddwl yn ardaloedd chwarelyddol gogledd Cymru rhwng 1875-1914’
- Dr Steve Thompson – ‘Dyma scandal digon i beri i waed dyn ferwi’: Meddygon, cleifion a’r iaith Gymraeg yn y gwallgofdai, 1880-1900’
Yn Gymraeg y cynhelir y gynhadledd gyda gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Ni chodir tâl i fynychu, a gallwch archebu’ch lle trwy wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae rhaglen lawn y digwyddiad hefyd ar gael ar y wefan.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Llenyddiaeth a Hanes Meddygaeth yng Nghymru yn cael ei sefydlu fel rhan o Bartneriaeth Rhwydwaith y Llawysgrif a’r Llyfr rhwng Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae aelodau o staff y Llyfrgell Genedlaethol yn rhan o bwyllgor gwaith y Ganolfan, ac mae Manon Foster Evans, Pennaeth Cynnwys Cyhoeddedig a Gwasanaethau Ymchwil y Llyfrgell, yn croesawu’r cydweithio rhwng y ddau sefydliad: “Rydym yn hynod o falch o’r cyfle i gydweithio gyda’r Brifysgol ac i adeiladu ar y gwaith gwych a gyflawnwyd gan brosiect Ymddiriedolaeth Wellcome i gynnig mynediad i gasgliadau meddygol y Llyfrgell. Trwy fod yn bartner yn y Ganolfan mae’r Llyfrgell yn gobeithio y bydd modd denu nawdd a phartneriaid newydd i gefnogi ymchwil pellach ar y cyfoeth o gasgliadau sydd i’w canfod yn y Llyfrgell.”