Becws o Gymru yn edrych i fanteisio ar ymchwil gyda chacennau maethlon
Gwyddonwyr Prosiect Bwydydd y Dyfodol Prifysgol Aberystwyth, o’r chwith i’r dde: Dr Manfred Beckmann, Yr Athro John Draper a Dr Amanda Lloyd
20 Hydref 2022
Mae cwmni pobi o ogledd Cymru yn edrych i ehangu ystod eu cynnyrch gyda chacennau mwy maethlon sy’n cynnwys powdr madarch iach, diolch i gymorth ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth.
Mae cwmni Siwgr a Sbeis o Lanrwst wedi gweithio gyda chwmni o Feddgelert, Madarch Cymru, i ychwanegu’r powdr i’w fflapjacs.
Ymunodd y ddau gwmni â rhaglen Bwydydd y Dyfodol, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, i addasu’r rysáit ar gyfer fflapjacs gan leihau’r defnydd o siwgr a’u gwneud yn iachach.
Mae’r madarch sy’n cael eu tyfu yn Llanerfyl ym Mhowys ac yn Ngwynedd yn ffynhonnell dda o fitamin D sy’n hanfodol ar gyfer cadw esgyrn, dannedd a chyhyrau yn iach ac atgyfnerthu’r system imiwnedd.
Mae gwaith Madarch Cymru wedi cynyddu lefel fitamin D2 mewn madarch ffres pan fyddant yn cael eu tyfu o dan olau LED o gymharu â golau fflworoleuol. Mae profion gyda grŵp o bobl wedi awgrymu bod powdr madarch yn y fflapjac yn cynnig buddion posib o ran llid yn y corff a newidiadau metaboledd.
Caiff llwyddiant y cydweithio rhwng y cwmnïau bwyd ac ymchwilwyr ei ddathlu mewn cynhadledd yn Aberystwyth heddiw (dydd Iau 20 Hydref).
Dywedodd Rhian Owen o gwmni Siwgr a Sbeis:
“Mae’r ymchwil yn andros o gyffrous. Wrth i ni edrych i’r dyfodol, mae’r canlyniadau yn cynnig sail gref i ni gynllunio cynnyrch newydd. Mae’r cydweithio wedi bod yn hynod werthfawr, a bydd hynny’n parhau.
“Rydyn ni eisoes wedi defnyddio iogwrt ar gyfer pannacotta fel ei fod yn is o ran braster. Ac rydyn ni’n obeithiol y gallwn ni fanteisio ar y madarch meithlon sy’n cael eu tyfu yma yn y Gogledd.
“Heb os, fydden ni ddim wedi cyrraedd lle rydyn ni heb gymorth Prifysgol Aberystwyth. Mae’u cefnogaeth nhw yn holl bwysig wrth i ni edrych i ddatblygu ymhellach dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’n cynnig opsiynau i ni eu hystyried wrth symud ymlaen.”
Ychwanegodd Dr Amanda J Lloyd o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae’n wych gallu dathlu llwyddiant y rhaglen. Mae Bwydydd y Dyfodol wedi darparu arbenigedd o safon fyd-eang mewn gwyddor bwyd, technoleg ac ymchwil maeth. Mae’r cydweithio rhwng Siwgr a Sbeis, Madarch Cymru a phartneriaid eraill gan gynnwys Phytoquest ac Aerona hefyd yn dangos sut mae’r prosiect wedi helpu busnesau Cymru i ddatblygu cynnyrch iach a llwyddiannus yn fasnachol, gan wella eu gallu i gystadlu a’u cynaliadwyedd.”
Dywedodd Cynan Jones o Fadarch Cymru:
“Heb os, mae wedi bod yn gyfle arbennig iawn i gydweithio gyda’r Brifysgol a busnesau eraill ar y prosiect hwn. Mae wedi agor y drws i lawer o gyfleon, ac mae potensial i gynyddu gwerth masnachol ein cynnyrch. Yn sgîl cymryd rhan yn y rhaglen yma, rydyn ni wedi dechrau sgyrsiau gyda chwmnïau eraill sy’n dymuno cydweithio â ni. Mae potensial mawr o ran adeiladu ar y gwaith pwysig hwn.”
Cafodd y rhaglen Bwydydd y Dyfodol ei chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn cydweithrediad â BIC Innovation a’i hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.