Canfod heintiau mewn anifeiliaid gyda deallusrwydd artiffisial
Delwedd o llyngyr yr iau
17 Hydref 2022
Mae gwyddonwyr wedi datblygu dull cyflymach o ganfod parasitiaid mewn da byw gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.
Mae tîm o Brifysgol Aberystwyth a chwmni technoleg clefydau Techion wedi datblygu a phrofi algorithmau dysgu peirianyddol newydd awtomatig sy’n adnabod y parasit gan ddefnyddio delweddau o gamera.
Gallai’r darganfyddiad gynorthwyo ffermwyr yng Nghymru ac o amgylch y byd i wneud diagnosis yn gyflymach ac felly gyflymu’r driniaeth.
Mae llyngyr yr iau a’r rwmen yn barasitiaid sy’n heintio da byw sy’n pori ledled y byd, a gallant arwain at golli chwant bwyd, cyflwr corff gwaeth, a bod yn fwy tebygol o ddal heintiau eraill.
Mae’r parasitiaid yn her arbennig yng Nghymru oherwydd yr hinsawdd fwyn a gwlyb, ond mae newid hinsawdd yn ei wneud yn fater cynyddol ryngwladol.
Gwneir diagnosis o’r heintiau trwy ddod o hyd i wyau llyngyr mewn carthion anifeiliaid, sydd angen technegydd medrus i'w hadnabod ar hyn o bryd.
Mae’r dechneg newydd yn defnyddio dyfais sy'n gallu dal delweddau o garthion ar raddfa fawr ac mae'r datblygiad yn golygu y gall ffermwyr ganfod heintiau eu hunain, gyda'r canlyniadau'n cael eu derbyn o fewn diwrnod.
Meddai Dr Hefin Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Amgylchedd Amaethyddol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Credwn fod y prosiect hwn yn garreg filltir arwyddocaol wrth drawsnewid a moderneiddio diagnosis a rheolaeth yr heintiau hyn. Dylai'r algorithmau a ddatblygwyd fel rhan o'r prosiect hwn wneud diagnosis yn fwy hygyrch ac effeithiol. Mae hynny’n golygu gwell canlyniadau iechyd milfeddygol a busnesau amaethyddol mwy cynaliadwy.
“Efallai y bydd y dechneg newydd yn ei gwneud hi’n bosibl gwneud diagnosis o’r heintiau hyn ar ffermydd, neu hyd yn oed ochr y gorlan, a does dim angen unrhyw ddeunyddiau drud i’w gwneud. Mae'r dulliau presennol yn llafurus, yn gofyn am sgiliau arbenigol ac yn cymryd llawer o amser. Mae hynny’n cyfyngu ar eu defnyddioldeb a’u heffeithiolrwydd i lywio triniaethau gan fod ffermwyr yn aml angen diagnosis ‘yr un diwrnod’ i’w galluogi i drin grŵp o anifeiliaid yn gywir.
“Bydd y dull newydd hwn yn hollbwysig gan y rhagwelir y bydd rheolaeth effeithiol o lyngyr yr iau yn fwy heriol yn y dyfodol gyda risg uwch o heintiau oherwydd newid hinsawdd a lledaeniad ymwrthedd anthelmintig llyngyr yr iau yn y DU.”
Dywedodd Dr Amanda Clare o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’r defnydd hwn o ddeallusrwydd artiffisial i adnabod llyngyr yr iau yn enghraifft go iawn o brosesu delweddau awtomatig sy’n cael ei ddefnyddio er budd cymdeithas drwy les anifeiliaid. Gall deallusrwydd artiffisial fod yn hynod fuddiol o’i gymhwyso i heriau fel hyn ac mae defnyddio datblygiad arloesol fel hwn yn uniongyrchol ar y fferm yn syniad gwych.”
Ychwanegodd Eurion Thomas, Rheolwr Cyffredinol Techion UK Cyf:
“Mae gennym eisoes gyrhaeddiad da yn y farchnad diwydiant iechyd anifeiliaid gyda chwsmeriaid yn defnyddio ein system FECPAKG2 mewn clinigau milfeddygol, siopau manwerthu ac ar y fferm i ganfod haint nematodau parasitig yn gyflym ac yn gywir.
“Bydd rhyddhau ein system canfod wyau llyngyr yn fasnachol yn ddiweddarach eleni yn ehangu newydd a sylweddol ar allu ein system. Mae’n rhywbeth y mae ein cwsmeriaid wedi bod yn gofyn amdano ers amser maith. Mae’r cydweithio llwyddiannus hwn wedi ein galluogi ni i ddefnyddio’r arbenigedd ym Mhrifysgol Aberystwyth i’n helpu i ddatblygu prawf cyflym, fforddiadwy a dibynadwy y gall y diwydiant ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion cynyddol meddyginiaeth da byw sy’n seiliedig ar dystiolaeth.”
Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol drwy Lywodraeth Cymru ynghyd â’r Cyflymydd Cenedl Ddata.