Prifysgol Aberystwyth yn dathlu’r 150
Cicio'r bar i ddathlu penblwydd 150 y Brifysgol.
14 Hydref 2022
Daeth myfyrwyr, staff, cyn-fyfyrwyr a chyfeillion Prifysgol Aberystwyth ynghyd ddydd Gwener 14 Hydref i gicio’r bar ar bromenâd enwog y dref ar gyfer dathliad diwrnod y sylfaenwyr i nodi 150 mlwyddiant y sefydliad.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddathliadau dros gyfnod o flwyddyn i nodi canrif a hanner ers i’r Brifysgol groesawu ei myfyrwyr cyntaf i westy Fictoraidd oedd heb ei orffen, yr Hen Goleg, ar 16 Hydref 1872.
Dan arweiniad yr Athro Jamie Medhurst, pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, yr Is-ganghellor a’r Dirprwy-Gangellorion y Fonesig Elan Closs Stephens ac Elfyn Llwyd, ciciodd gorymdaith Diwrnod y Sylfaenwyr y bar, a oedd eleni wedi ei addurno yn lliwiau coch a gwyrdd y Brifysgol, diolch i waith Dr Cathryn Charnell-White, pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
Dilynwyd cicio’r bar gan y brecwast traddodiadol, sy’n adlais o’r brecwast a fwynhawyd gan sylfaenwyr y Brifysgol yng Ngwesty’r Belle Vue ar y 15fed o Hydref 1872 i ddathlu’r agoriad.
Yn ystod y brecwast eleni lansiodd y Brifysgol ei chyfrol newydd i ddathlu’r 150 mlwyddiant, Ceiniogau’r Werin / The Pennies of the People.
Mae’r gyfrol ddarluniadol hon yn dod â chyfoeth o straeon a phobl o’r gorffennol a’r presennol yn fyw trwy 150 o wrthrychau sydd yn bennaf o archif casgliadau ac adrannau academaidd y Brifysgol.
Ym mhlith y gwrthrychau sy’n cael sylw yn y gyfrol 312 tudalen mae cyfarpar pelydr-X cynnar, offer gwneud caws, graffiti myfyrwyr ar waliau’r Hen Goleg, gweithiau celf syfrdanol, a’r cofrestr cyntaf o fyfyrwyr.
Mae’r awduron yn cynnwys Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure; y prifardd ac Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Mererid Hopwood; Pennaeth yr Ysgol Gelf, yr Athro Robert Meyrick; Canghellor y Brifysgol, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd; y gyn-fyfyrwraig, awdur a chyn Gomisiynydd Comedi BBC Radio 4, Sioned Wiliam.
Yn ei hanerchiad yn y lansiad, talodd yr Athro Treasure deyrnged i sylfaenwyr y Brifysgol, y bu i’w harweiniad a’u hymroddiad arwain at agor y Brifysgol ym mis Hydref 1872.
“Mae heddiw wedi bod yn gyfle gwych i ddathlu ein penblwydd yn 150 oed yng nghwmni ein myfyrwyr, staff a ffrindiau ein Prifysgol ac roedd yn braf iawn lansio Ceiniogau’r Werin / The Pennies of the People sy’n adlewyrchu ein treftadaeth a’n hanes cyfoethog. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o’i chynhyrchu ac at y digwyddiadau sy’n cael eu cynnal i nodi’r garreg filltir nodedig hon yn ein hanes.
“Mae hanes Prifysgol Aberystwyth yn un o benderfyniad a haelioni rhyfeddol gan bobl o bob cefndir i wireddu’r weledigaeth o addysg prifysgol i bobl Cymru. Heddiw, mae'r sefydliad hwn yn croesawu myfyrwyr o bob cwr o'r byd gyda hyd at 100 o genhedloedd yn cael eu cynrychioli yma ar unrhyw un adeg; mae’n cynnig un o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU ac mae iddi enw rhagorol am ansawdd y dysgu ac mae’n ymgymryd ag ymchwil sy’n arwain y byd ac sy’n mynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu heddiw.
“Gweledigaeth ein sylfaenwyr, gan gynnwys Syr Hugh Owen a Thomas Charles Edwards, ein Prifathro cyntaf, ynghyd â chymaint o rai eraill, a osododd y sylfeini ar gyfer yr hyn yr ydym heddiw, a’n braint a’n dyletswydd yw adeiladu ar y rhain er budd cenedlaethau i ddod.”
Bydd y dathliadau’n parhau ddydd Sadwrn 15 Hydref gydag Y Gig Mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth sydd hefyd yn dathlu carreg filltir nodedig eleni, ei hanner canmlwyddiant. Bydd digwyddiadau hefyd yn Llundain ddydd Mawrth y 18fed yng nghwmni’r darlledwr Huw Edwards, a Chaerdydd ddydd Mercher 19eg yng nghwmni Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.
Mae rhagor o fanylion am y dathliadau 150 mlwyddiant ar gael ar-lein.
Mae rhagor o gwybodaeth am Geiniogau’r Werin hefyd ar gael ar-lein yma.