Gwyddonwyr Prifysgol Aberystwyth yn croesawu eclips solar rhannol i Gwm Elan
Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth
14 Hydref 2022
Bydd eclips solar rhannol i’w weld dros awyr Cymru y mis yma, ac i nodi hynny bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cyfres o sgyrsiau a gweithgareddau seryddol yng Nghwm Elan ym Mhowys.
Bydd y ffenomen seryddol, sy’n cynnwys y lleuad yn croesi dros rhan o’r haul, yn digwydd ar 25 Hydref.
Bydd Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth yn dod â’u telesgopau solar arbenigol i Ymddiriedolaeth Cwm Elan ym Mhowys er mwyn i’r cyhoedd weld yr eclips am 10:00yb, yn ogystal â’u casgliad o feteorynnau.
Yn ogystal, caiff cyfres o sgyrsiau ac arddangosiadau eu cynnal gan academyddion ac ôl-raddedigion o’r Adran.
Bydd y sgwrs ‘The Sun: a middle-aged star with attitude’ gan yr Athro Huw Morgan yn datgelu sut gall yr haul, er yn hanfodol i gynnal bywyd ar y Ddaear, achosi peryglon ar ffurf ffaglau'r haul ac echdoriadau. Mae ymchwil yn Aberystwyth yn chwarae rhan flaenllaw i liniaru’r peryglon hyn, drwy gynorthwyo Swyddfa Feteorolegol y Derynas Gyfunol gyda’u rhagolygon.
Bydd Pete Williamson, un o Gymrodorion y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, yn siaradwr gwadd yn y digwyddiad, a bydd yn cyflwyno sgwrs ar “The Sun and How it Works”.
Mae disgwyl i’r eclips solar rhannol bara tan tua hanner dydd yng Nghwm Elan, a bydd i’w weld yn gorchuddio 35% o arwyneb yr Haul o’r Deyrnas Gyfunol.
Maen nhw’n digwydd rhwng dwy a phum gwaith y flwyddyn ond dim ond rhan gyfyngedig o'r byd sy'n gallu eu gweld bob tro.
Cafodd yr olaf o Gymru ei weld ym mis Mehefin 2021 a bydd y nesaf o’r math hwn i’w weld o’r Deyrnas Gyfunol yn 2025.
Meddai’r Athro Morgan: “Mae eclipsau solar rhannol yn un o ffenomenau mwyaf trawiadol seryddiaeth ac mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu eu mwynhau a dysgu am y wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw. “Er bod delweddau o'r eclipsau hyn yn adnabyddus, does dim byd o gwbl yn cyfateb i'r cyffro a'r harddwch o'u gweld yn bersonol - ond mae'n bwysig gwneud hynny'n ddiogel, a defnyddio offer amddiffyn llygaid priodol neu delesgopau wedi'u hidlo. Peidiwch byth ag edrych ar yr Haul yn uniongyrchol heb offer o'r fath, ac nid yw sbectol haul arferol yn darparu amddiffyniad digonol.
“Dyna pam rydyn ni’n falch iawn o gael ein croesawu gan Ymddiriedolaeth Cwm Elan ar gyfer yr eclips solar rhannol hwn. Gall digwyddiad fel hwn syfrdanu hyd yn oed y gwylwyr awyr mwyaf profiadol a dal dychymyg y rhai nad ydyn nhw erioed wedi gweld eclips o’r blaen, gan danio hobi neu hyd yn oed yrfa y byddan nhw’n ei mwynhau am weddill eu hoes.”
Derbyniodd Ymddiriedolaeth Cwm Elan wobr gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2015 am ei gwaith yn gwarchod yr ardal rhag llygredd golau. Dywedodd Sam Price, Swyddog Awyr Dywyll yr Ymddiriedolaeth a Pharc Awyr Dywyll Rhyngwladol Cwm Elan:
“Bydd hwn yn ddiwrnod llawn hwyl i’r rheini sy’n dymuno edrych ar yr Haul trwy delesgopau solar diogel a dysgu mwy am y gofod, gyda’r arbenigwyr o Brifysgol Aberystwyth a Pete Williamson (FRAS).”
Yn 2015, croesawodd Prifysgol Aberystwyth gannoedd o staff, myfyrwyr ac aelodau o’r gymuned leol i weld eclips solar rhannol o’i champws. Ar yr un pryd, teithiodd academyddion o'r Adran Ffiseg i Svalbard yn Norwy, lle roedd yr eclips i’w weld yn llawn.