Prifysgol Aberystwyth yn lansio Canolfan Deallusrwydd Artiffisial i archwilio technoleg bwysicaf y ddegawd
12 Hydref 2022
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi lansio canolfan newydd i astudio deallusrwydd artiffisial mewn ymateb i dechnoleg sy'n cyflwyno rhai o'r cyfleoedd mwyaf y degawd hwn i weddnewid cymdeithas.
Mae'r Ganolfan yn elwa o arbenigedd academyddion o bob rhan o'r Brifysgol sy’n cydweithio mewn meysydd fel roboteg a dysgu peirianyddol, astroffiseg, triniaethau meddygol, darganfod cyffuriau a bwydydd y dyfodol, trwy gyfres o weithdai, cynadleddau, a phrosiectau cydweithredol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi bod yn rhan o nifer o brosiectau uchel eu proffil yn ymwneud â’r dechnoleg hon. Ym mis Mehefin 2022, bu’n cydweithio gyda Dŵr Cymru i greu system deallusrwydd artiffisial a helpodd i fonitro dibynadwyedd prosesau trin dŵr.
Mae'r Brifysgol hefyd wedi datblygu ap i helpu cleifion sy’n gwella wedi strôc i ymarfer mwy ac mae hefyd wedi edrych ar sut y gellir defnyddio'r dechnoleg i archwilio'r tywydd yn y gofod.
Mewn symposiwm diweddar a gynhaliwyd gan Brifysgol Aberystwyth, bu academyddion yn trafod pynciau megis sut y gellid defnyddio deallusrwydd artiffisial ym meysydd gofal iechyd, y celfyddydau a storio a chategoreiddio gwybodaeth allweddol.
Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y Brifysgol yn adeiladu ar ei harbenigedd wrth gymhwyso deallusrwydd artiffisial i wyddor y gofod a data, peirianneg, roboteg ddeallus a gofal iechyd.
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau pwll tywod i ddod ag academyddion o bob disgyblaeth yn y Brifysgol ynghyd i rannu syniadau ac i ddechrau prosiectau newydd, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal cynhadledd gyhoeddus yn 2023.
Meddai’r Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi): "Deallusrwydd artiffisial yw un o'r cyfleoedd mwyaf - ac un o’r heriau’r mwyaf - i'r byd y degawd hwn. Ac nid dim ond o safbwynt technolegol - bydd yn effeithio ar gymdeithas, yr economi, diwylliant a hawliau dynol. Rwy'n falch iawn bod Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan arweiniol wrth archwilio effaith Deallusrwydd Artiffisial yn yr holl feysydd hyn ynghyd â sut y byddant yn rhyngweithio â'i gilydd."
Meddai'r Athro Reyer Zwiggelaar, Pennaeth y Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial: "Bydd y technolegau hyn yn gwthio ffiniau darganfyddiadau gwyddonol: o archwilio arwyneb y blaned Mawrth a mesur effaith amgylcheddol cynhesu byd-eang, i ganfod biofarcwyr iechyd newydd, creu bwydydd y dyfodol a deall sut y mae organebau byw yn synhwyro, symud a rhyngweithio â'u hamgylcheddau naturiol.
"Dyma pam y gwnaethom sefydlu'r Ganolfan Deallusrwydd Artiffisial: i gydweithio ac i archwilio potensial llawn y dechnoleg. Bydd yn helpu i sbarduno arloesi ar draws cymdeithas ac yn rhywbeth a fydd yn newid ein bywydau er gwell, ym mhob rhan o’r wlad a ledled y byd. Rydym yn awyddus i fod ar flaen y gad yn y maes cyffrous hwn."