Gweinidog yn agor Canolfan Addysg Iechyd newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure, Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS, Pennaeth Addysg Gofal Iechyd Amanda Jones, ac Elin Jones AS yn agor y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd
30 Medi 2022
Bydd Gweinidog Iechyd Cymru yn agor canolfan newydd gwerth £1.7 miliwn i hyfforddi staff y gwasanaeth iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth heddiw.
Mae’r Brifysgol wedi creu ystafelloedd ymarfer clinigol ansawdd uchel, yn ei Chanolfan Addysg Gofal Iechyd newydd, sydd gyferbyn ag Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth. Cafodd y datblygiad gwerth £1.7 miliwn ei gefnogi gyda grant o £500,000 gan Lywodraeth Cymru.
Rhan ganolog o’r safle newydd yw Uned Sgiliau Clinigol gydag ardaloedd efelychu ansawdd uchel sy’n adlewyrchu taith y claf o’r cartref a gwasanaethau cymunedol i asesu, gofal wedi’i gynllunio a gofal acíwt.
Mae’r offer addysgu newydd yn cynnwys dyfeisiadau realiti rhithwir ar gyfer profi heneiddio a modelau dynol sy’n efelychu ystod eang o gyflyrau iechyd.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr nyrsio ar eu hastudiaethau yn y Ganolfan ym Mhrifysgol Aberystwyth ddechrau mis Medi.
Disgwylir y bydd y datblygiadau newydd yn hwb mawr i ymdrechion i gadw a recriwtio staff i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan AS: “Rwy'n falch iawn o agor y ganolfan newydd hon ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'n gydweithrediad ardderchog rhwng y byrddau iechyd a'r Brifysgol a bydd yn hwb o ran recriwtio nyrsys yn yr ardal yma.
“Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a fydd yn helpu i gyflawni ein cynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd, fel y nodir yn ein strategaeth Mwy na Geiriau."
Datblygwyd addysg nyrsio ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Fe ddyfarnodd Addysg a Gwella Iechyd Cymru gytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys ar gyfer oedolion ac iechyd meddwl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd a gychwynnodd eleni y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ychwanegodd yr Is-Ganghellor yr Athro Elizabeth Treasure:
“Anrhydedd fawr yw cael y Gweinidog yn ymweld i agor y Ganolfan, sydd yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i’r Canolbarth. Rwy’n ffyddiog bydd hyn yn hwb o ran recriwtio a chadw staff yn lleol ac yn rhanbarthol. A, thrwy gynnig llawer iawn o’r hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg, bydd yn fuddiol i’r ddarpariaeth iaith yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r prosiect. Hoffwn i ddiolch hefyd i’r holl bartneriaid sydd wedi cyflawni hyn, gan gynnwys y Byrddau Iechyd lleol, Cyngor Sir Ceredigion ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru “
“Dros y blynyddoedd i ddod, ac wrth weithio gyda phartneriaid, rydym yn awyddus i gyfrannu mwyfwy at gwrdd ag anghenion hyfforddi ein gwasanaeth iechyd. Rwy’n siŵr bydd y Ganolfan newydd yn adnodd pwysig yn hyn o beth. Dyma ni heddiw yn gosod sylfeini ar gyfer twf darpariaeth addysg gofal iechyd yma yn Aberystwyth ar gyfer y dyfodol.”