Rhodd hael i ariannu ymchwil ar Gwenallt a datblygiad y gyfraith yn yr Hen Goleg
Mr Francis Glynne Jones gyda'r Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth a Manon Rogers, Swyddog Apêl Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni y Brifysgol.
28 Medi 2022
Mae ymchwil i waith y bardd Gwenallt a chynllun i ddatblygu Ystafell y Gyfraith a Llys Dadlau newydd fel rhan o gynllun uchelgeisiol i drawsnewid yr Hen Goleg wedi derbyn hwb ariannol sylweddol.
Mewn derbyniad arbennig ddydd Mawrth 20 Medi, cyflwynodd Francis Glynne Jones, cyfreithiwr wedi ymddeol o Wrecsam, rodd o £50,000 i’r Brifysgol er cof am ei ddiweddar frawd Colin Glynne Jones, ei dad Hywel Glynne Jones, ei daid Cyril Oswald Jones, a’i hen daid Humphrey Bradley Jones, y bardd Garmonydd.
Bydd yr arian, sydd o ystad ei frawd, Colin, yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y ddau brosiect sy’n cael eu harwain gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac Adran y Gyfraith a Throseddeg.
Er i Francis Glynne Jones ei hun astudio yng Nghaergrawnt, bu ei dad, ei frawd ac aelodau eraill o’r teulu yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yn ogystal, gwasanaethodd ei frawd, ei dad a’i daid fel Llywydd Cymdeithas Cyfreithwyr Caer a Gogledd Cymru y neu tro.
Wrth gyflwyno’r rhodd, dywedodd Mr Jones: “Mae gan fy nheulu lawer o gysylltiadau â Phrifysgol Aberystwyth ac rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu eu cydnabod drwy wneud hyn. Rwy’n credu’n gryf mai addysg yw popeth ar gyfer y dyfodol, ac mae dyfodol ein gwlad yn ddibynnol ar addysg. Mae prosiect Ystafell y Gyfraith a Llys Dadlau’r Hen Goleg yn un cyffrous ac yn gyfle i ddod â’r gyfraith yn fyw, dangos sut y dylai weithredu a’i gwneud yn fwy dynol, ac rwy’n falch iawn hefyd o gefnogi’r gwaith ar Gwenallt, o ystyried y traddodiad barddol cyfoethog yn ein teulu.”
Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Pleser o’r mwyaf oedd cael croesawu Francis Glynne Jones i’r Brifysgol a chael cydnabod haelioni’r teulu. Mae’r ddau brosiect a fydd yn elwa o’r rhodd hon yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ni; ar yr un llaw i ddatblygu adnodd holl bwysig ar gyfer cenhedlaeth newydd o raddedigion y Gyfraith, a hynny wrth i ni ddathlu 120 mlwyddiant yr Adran, yr henaf yng Nghymru, ac ar y llaw arall hwyluso astudiaeth academaidd i fywyd a gwaith un o lenorion mawr yr ugeinfed ganrif yma yng Nghymru.”
Fel rhan o’r cynlluniau cyffrous i drawsnewid yr Hen Goleg, bydd Ystafell y Gyfraith a Llys Dadlau newydd yn cael eu creu ar gyfer Adran y Gyfraith a Throseddeg, a bydd rhodd yn cyfrannu at wireddu’r adnodd gwerthfawr newydd hwn.
Dywedodd Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth: “Mae’r rhodd hael hon yn hwb sylweddol i’r cynllun ar gyfer creu Llys Dadlau cyfoes yn yr Hen Goleg. Bydd y Llys yn gaffaeliad enfawr i’n myfyrwyr ac i’r Adran. Bydd yn cynnig lleoliad heb ei ail i gynnal ymrysonau cyfreithiol, sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr finiogi eu sgiliau dadlau a rhesymu, wrth gael blas o waith llys. Bydd hefyd yn ofod ar gyfer dysgu yn fwy cyffredinol am y gyfundrefn gyfiawnder, gan gynnwys ymwneud â’r cyhoedd, er mwyn cynyddu dealltwriaeth gyhoeddus am y gyfraith a throseddeg.”
Yn gynharach eleni, cyflwynwyd casgliad o wrthrychau a llawysgrifau’r bard, yr ysgolhaig a’r heddychwr Gwenallt i ofal y Brifysgol gan ei wyres, Elin Gwenallt Jones.
Bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol, byddant yn adnodd pwysig ar gyfer astudiaeth gan y myfyrwyr PhD Gruffydd Rhys Davies, a fydd yn cael ei chyllido gan y rhodd.
Dywedodd yr Athro Mererid Hopwood o Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: “Mae’r rhodd hon wedi agor y drws i ni dderbyn Gruffydd Rhys Davies fel myfyriwr PhD a gwireddu cynllun ymchwil go arbennig - un o bwys lleol a chenedlaethol. Gyda nawdd Mr Francis Glynne Jones a’r teulu, ac mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, gallwn fwrw ati i ddadansoddi'r deunydd newydd hwn a herio rhai o’r canfyddiadau traddodiadol am Gwenallt fel dyn a llenor. Rydym fel Adran yn hynod ddiolchgar ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gychwyn arni.”
Y gobaith yw y bydd creiriau o archif newydd Gwenallt yn cael eu cynnwys yn arddangosfa barhaol y Brifysgol yn yr Hen Goleg ar ei newydd wedd.