Pori, brigbori a chyplu: Bwyd a chwmni o gymorth i anifeiliaid caeth
Hawlfraint: 2022 Flip Wibbly Jelly
28 Medi 2022
O alpacaod yn rowlio eu tafodau i iacod croendenau a moch pryderus, mae ymchwil newydd wedi datgelu pam fo rhai anifeiliaid fferm a sw yn ymdopi yn well nag eraill sy’n ymddangos eu bod dan straen.
Mae ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth a Portsmouth wedi cyhoeddi’r astudiaeth gyntaf ar raddfa eang sy’n adnabod pa rywogaethau anifeiliaid sydd â charnau, a adnabyddir fel carnolion, sydd yn gweddu’n well i amgylchiadau caeth ac sydd angen hwsmonaeth well pe cadwent mewn caethiwed.
O amgylch y byd, mae dros bum biliwn o anifeiliaid mawr sydd â charnau, megis ceffylau, moch a jiraffod, yn cael eu cadw fel da byw ac mewn sŵau a pharciau saffari. Mae hyn yn eu gwneud yn rhai o’r anifeiliaid mwyaf cyffredin a gedwir ar ffermydd ac mewn sŵau.
Edrychodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Proceedings of the Royal Society, ar ymddygiad dros 15,000 o anifeiliaid unigol ar draws 38 o rywogaethau carnol a chanfod bod y math o fwyd a fwytawyd a’u patrymau paru yn gysylltiedig â’r perygl o symptomau straen.
Yn benodol, y rhywogaethau sydd fwyaf tebygol o arddangos arferion sy’n gysylltiedig â straen yw’r rheini sy’n bwyta llystyfiant coediog, megis camelod, okapiod a rhinoserosod, neu’n cyfathrachu gyda llawer o bartneriaid, fel byfflos, iacod, defaid a moch.
Anghenion ymddygiadol rhywogaeth ydy’r rheini y maent yn gwneud er mwyn goroesi a chenhedlu yn eu cynefinoedd naturiol. Os y byddant yn cael eu cyfyngu mewn sw neu ar fferm, gall arwain at les gwael ac ymddygiadau anarferol, ailadroddus a adnabyddir fel ymddygiadau ‘ystrydebol’.
Mae’r astudiaeth hon yn dangos pa anghenion ymddygiadol penodol y dylid eu blaenoriaethu er mwyn osgoi’r ymddygiadau ystrydebol a sicrhau lles carnolion.
Daeth yr academyddion i’r casgliad bod anifeiliaid mewn sw ac ar fferm ac sydd heb fynediad parhaus at fwyd yn agored iawn i ddioddef problemau ymddygiadol.
Dywedodd un o gyd-awduron yr astudiaeth, Dr Sebastian McBride o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae ein data yn awgrymu bod nodweddion bioleg ymddygiadol rhywogaethau gwyllt a hwsmonaeth gaeth yn ffactorau pwysig wrth ddarogan yr ymddygiadau ystrydebol mewn carnolion.
“Mae gan yr ymchwil goblygiadau pwysig ar gyfer sut mae’r anifeiliaid mawr hyn sydd â charnau yn cael eu cadw mewn caethiwed - mae gennym ddealltwriaeth well nawr o ba rywogaethau sydd fwyaf agored i straen mewn caethiwed a sut rydyn ni’n mynd i’r afael â’r broblem hon er mwyn gwella lles yr anifeiliaid hynny.”
Dywedodd cydawdur yr ymchwil Dr Leanne Proops o Brifysgol Portsmouth:
“Mae’r astudiaeth hon yn defnyddio dull newydd sy’n ein galluogi i ddarogan sut y bydd rhywogaethau yn ymdopi mewn caethiwed, gan gynnwys y rheini sy’n brin neu heb fod yn destun astudio’n aml.
“Gwelsom ni ei bod yn hanfodol sicrhau bod gan garnolion fwyd a threfn gymdeithasol. Tra, ar y llaw arall, sicrhau bod gan gigysyddion ddigon o le, sy’n allweddol iddyn nhw. Mae hyn yn dangos pwysigrwydd deall anghenion penodol grwpiau gwahanol o rywogaethau.”
Ychwanegodd Kate Lewis o Brifysgol Portsmouth:
“Fel cymdeithas, mae angen i ni barhau i gwestiynu ac ymchwilio’r ffactorau amgylcheddol sy’n bwysig i anifeiliaid os ydyn ni’n mynd i sicrhau’r lles gorau iddyn nhw. Mae yna wersi yma i ffermwyr a sŵau am sut orau i fagu ac i drin da byw.”