Sychder eithafol a sbardunodd trawsnewid diwylliannol ac esblygiad dynol
Offer drilio ym masn Chew Bahir, de Ethiopia (Credyd: Dr Julian Ruddock)
26 Medi 2022
Mae ymchwil newydd yn dangos bod sychder eithafol a barodd ddegau o filoedd o flynyddoedd wedi chwarae rhan hollbwysig yn esblygiad dynol, drwy orfodi Homo sapiens i ddatblygu'r diwylliant a'r offer i ymdopi.
Tynnodd tîm rhyngwladol o ymchwilwyr, gan gynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth ac ar draws ystod eang o ddisgyblaethau, ddau graidd 280-metr o waddod o fasn Chew Bahir yn ne Ethiopia. Mae gan yr ardal hon grynodiad mawr o ffosilau dynol a dyma lle roedd bodau dynol cynnar yn byw yn ystod Oes yr Iâ rhwng 2.5 miliwn ac 11,700 o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r creiddiau’n rhoi’r cofnod mwyaf cyflawn dros y cyfnod hiraf i fodau dynol a oedd yn byw yn yr ardal hon a mewnwelediad digynsail i sut y dylanwadodd yr hinsawdd ar eu trawsnewidiad biolegol a diwylliannol.
Mewn papur a gyhoeddwyd heddiw yn y cyfnodolyn ‘Nature Geoscience’, canfu’r ymchwil fod bodau dynol, rhwng 620,000 a 275,000 o flynyddoedd yn ôl, yn byw mewn amodau sefydlog a hirhoedlog yn ne Ethiopia ochr yn ochr ag ystod o grwpiau a oedd yn perthyn yn agos.
Fodd bynnag, rhwng 275,000 a 60,000 o flynyddoedd yn ôl, cafodd yr ardal ei siglo gan newidiadau naturiol sylweddol yn yr hinsawdd a drawsnewidiodd ardaloedd o lystyfiant toreithiog a llynnoedd dwfn yn anialwch a phyllau bach hallt.
Dangosodd yr ymchwil fod y newidiadau hyn yn yr hinsawdd wedi gorfodi bodau dynol i addasu yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn dechnolegol, gan ddatblygu iaith well, dulliau hela soffistigedig, ac offer carreg fel llafnau a phenau gwaywffynn.
Roedd y cyfnod rhwng 60,000 a 10,000 o flynyddoedd yn ôl yn cynnwys y sychder mwyaf eithafol ac yn debygol o fod wedi gorfodi bodau dynol i symud i ranbarthau gwlypach yng ngogledd ddwyrain Affrica a Môr y Canoldir.
Fodd bynnag, er bod Homo sapiens yn gallu datblygu strategaethau i'w helpu i addasu, nid oedd rhywogaethau dynol eraill fel Homo habilis a Homo erectus yn gallu, ac arweiniodd hynny at eu difodiant.
Mae’r creiddiau a echdynnwyd ymhlith y rhai mwyaf manwl a gafwyd o'r rhanbarth, gan roi cyfle i ymchwilwyr archwilio hinsawdd pob degawd dros y 620,000 o flynyddoedd diwethaf bob hanner centimetr o waddod.
Bu’r Athro Helen Roberts a’r Athro Henry Lamb, y ddau o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, yn gweithio ar y prosiect, a oedd yn cynnwys ymchwilwyr o 19 o sefydliadau mewn chwe gwlad.
Dywedodd yr Athro Roberts:
“Mae’r canfyddiadau hyn yn mynd â ni gam yn nes at ddeall y cysylltiadau, yn y gorffennol, rhwng hinsawdd, yr amgylchedd ac esblygiad dynol Roedd y cyfnod yr astudiaeth yn un o arloesi gwych gan bobl o ran sut yr oeddent yn rhyngweithio â'i gilydd, eu diwylliant, a'u defnydd o offer carreg. Oherwydd ein canfyddiadau gallwn ddeall mwy am amodau byw bodau dynol, eu hesblygiad a datblygiad eu cymdeithasau.
“Mae hefyd yn berthnasol heddiw gan fod ein prosiect wedi ein helpu ni i edrych ar sut roedd gwahanol ffactorau hinsawdd yn effeithio ar ei gilydd yn y gorffennol. Mae hyn yn rhywbeth y gellir ei drosi i’r oes fodern a’n helpu ni i ddeall yr hinsawdd a newid hinsawdd nawr.”
Dywedodd Dr Verena Foerster o Sefydliad Addysg Daearyddiaeth Prifysgol Cwlen, a fu’n rhan o’r astudiaeth:
“Yn wyneb y bygythiadau presennol i’r cynefin dynol o ganlyniad i newid hinsawdd a’r gor-ddefnydd o adnoddau naturiol trwy weithgarwch dynol, mae deall y berthynas rhwng yr hinsawdd ac esblygiad dynol wedi dod yn fwy perthnasol nag erioed.”