Cydnabod arbenigedd academydd Aberystwyth gyda chymrodoriaeth
Yr Athro Peter Merriman
23 Medi 2022
Mae academydd blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth ym maes daearyddiaeth, yr Athro Peter Merriman, wedi’i ethol yn Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol.
Mae'r Athro Merriman yn ddaearyddwr dynol sy'n arbenigo mewn daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol, astudiaethau symudedd, a hanes ac athroniaeth daearyddiaeth fodern.
Mae’n ysgolhaig blaenllaw mewn astudiaethau symudedd a hanes symudedd, ac mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar ddulliau damcaniaethol o ymdrin â gofod a lle, hanes y ffordd a gyrru, a damcaniaethau cenedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol.
Dywedodd yr Athro Merriman o Brifysgol Aberystwyth:
“Mae cael fy nerbyn i’r Academi, ac ymuno â grŵp o ysgolheigion a llunwyr polisi mor nodedig, yn anrhydedd o’r mwyaf. Mae gwaith yr Academi fel pencampwr y gwyddorau cymdeithasol yn un bwysig iawn, rwy’n gobeithio y galla i gyfrannu at eu gwaith o hyrwyddo’r maes dros y blynyddoedd i ddod.”
Mae Cymrodoriaeth yr Academi yn cynnwys unigolion nodedig o’r sectorau academaidd, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, ar draws ystod lawn y gwyddorau cymdeithasol.
Mae’r Cymrodyr yn unigolion medrus iawn sy’n cael eu cydnabod am ragoriaeth yn eu meysydd a’u cyfraniadau ehangach i’r gwyddorau cymdeithasol er budd y cyhoedd.
Dywedodd Will Hutton FAcSS, Llywydd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol:
“Mae’n bleser gan Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol groesawu ystod ardderchog o wyddonwyr cymdeithasol nodedig iawn i ymuno â’n rhengoedd - wrth i waith y gwyddorau cymdeithasol ddod yn fwyfwy pwysig. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â nhw yn ein gwaith.”
Cwblhaodd yr Athro Peter Merriman ei raddau BA a PhD yn Ysgol Daearyddiaeth Prifysgol Nottingham, a bu’n Ddarlithydd ym Mhrifysgol Reading rhwng 2000 a 2005. Ymunodd ag Adran Ddaearyddiaeth Aberystwyth fel Darlithydd ym mis Gorffennaf 2005, a chafodd ei ddyrchafu’n Uwch Ddarlithydd yn 2008, Darllenydd yn 2012, a Chadair Bersonol yn 2014.
Mae’n gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd y Brifysgol, yn aelod o Goleg Adolygu Cymheiriaid y Cyngor Ymchwil Dyniaethau a Chelfyddydau a Choleg Adolygu Cymheiriaid Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol yr UKRI, ac mae wedi gwasanaethu ar reithgor rhyngwladol Cronfa Wyddoniaeth Awstria, Coleg Adolygwyr Arbenigol y Sefydliad Gwyddoniaeth Ewropeaidd, a Grŵp Rheoli Canolfan Hyfforddiant Doethurol ’ymru'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae’r Athro Merriman wedi ysgrifennu neu olygu wyth llyfr, ac ef yw Golygydd y gyfres lyfrau 'Routledge Research in Culture, Space and Identity', a Golygydd Cyffredinol casgliad chwe chyfrol Bloomsbury ar 'A Cultural History of Transport and Mobility'. Mae'n eistedd ar fyrddau golygyddol y cyfnodolion 'Cultural Geographies', 'Mobilities', 'Transfers', 'Applied Mobilities', a 'Mobility Humanities'. Mae hefyd yn Gymrawd o’r Gymdeithas Daearyddiaeth Frenhinol ac Athrofa Daearyddwyr Prydain.