Dysgu o rannau eraill y DG i ddiogelu ffermydd Cymru rhag TB – cynhadledd yn Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson, Prifysgol Aberystwyth

14 Medi 2022

Mae dysgu o’r arfer bioddiogelwch gorau yn y Deyrnas Gyfunol yn allweddol er mwyn atal twbercwlosis rhag lledaenu yng Nghymru, yn ôl arbenigwr blaenllaw a fydd yn siarad mewn cynhadledd yn Aberystwyth. 

Wedi’i threfnu gan Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd y gynhadledd yn canolbwyntio ar bob agwedd ar fioddiogelwch.

Bydd y mynychwyr, sy’n dod o bob rhan o’r byd amaeth, gan gynnwys ffermwyr a milfeddygon, yn dysgu am y ffyrdd mwyaf effeithiol a diweddar o atal yr haint rhag lledaenu i ac o ffermydd. 

Yn ogystal, bydd cynadleddwyr yn clywed am ddatblygiad apiau newydd, gwiriadau ac adnoddau gwe i gynorthwyo ymdrechion i ddileu’r afiechyd mewn gwartheg.  

Meddai’r Athro Glyn Hewinson, sy’n arwain y Ganolfan Ragoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a drefnodd y gynhadledd:

“Rhan o genhadaeth y Ganolfan Ragoriaeth yw creu ymwybyddiaeth bellach ar draws y diwydiant ynglŷn â datblygiadau ym maes TB Gwartheg ac ymdrechion i reoli’r clefyd niweidiol hwn. Mae dysgu o rannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol a chynnal y trafodaethau hyn yn hanfodol.

“Bwriad ein cynadleddau blynyddol yw hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth am sut mae arferion presennol a datblygiadau yn y maes hwn yn medru gwella a dylanwadu ar waith ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr gwyddonol a’r llywodraeth er mwyn symud ymlaen yn ein brwydr yn erbyn TB Gwartheg.

“Yn ein cynhadledd gyntaf, roedd consensws cryf bod angen trafod mesurau bioddiogelwch mewn rhagor o fanylder. Rwy’n falch iawn bod cyfle gennyn ni i wneud hynny, a chlywed cyfraniadau gan lawer o unigolion uchel eu parch am yr holl waith mewn meysydd allweddol.”

Ymysg y siaradwyr mae Sarah Tomlinson o’r Gwasanaeth Cynghorol TB yn Lloegr. Dywedodd:

“Mae TB yn glefyd mor ddinistriol ac yn aml mae ffermwyr a milfeddygon yn teimlo nad oes ganddyn nhw fawr o reolaeth drosto fe. Rwy’n falch iawn o’r gwahoddiad i rannu’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn Lloegr gydag ymweliadau’r Gwasanaeth Cynghori ar TB. Rydyn ni’n annog milfeddygon a ffermwyr i weld TB fel clefyd heintus yn union fel clefyd BVD neu Johne. Mae yna lawer o lwybrau risg y gallwn eu lleihau, os nad eu dileu, trwy fesurau ymarferol, cost effeithiol. Allwn ni ddim rheoli pob risg, ond ddylai hynny ddim ein hatal ni rhag rheoli’r hyn a allwn ni.”

Mae’r Ganolfan Ragoriaeth TB Gwartheg wedi derbyn cefnogaeth Sêr Cymru II, rhaglen a sefydlwyd er mwyn ehangu a datblygu arbenigedd ymchwil yng Nghymru. Caiff y rhaglen ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Am y newyddion diweddaraf, dilynwch Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg Prifysgol Aberystwyth ar Twitter @aber_tb.