Y myfyrwyr nyrsio cyntaf yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth

Nyrsio yn Aberystwyth

Nyrsio yn Aberystwyth

05 Medi 2022

Bydd myfyrwyr nyrsio cyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau heddiw.

Mae’r datblygiad wedi ei groesawu’n wresog fel hwb mawr i’r gwasanaeth iechyd, yn enwedig yn y Canolbarth.

Mae’r myfyfwyr yn cyrraedd wedi i Addysg a Gwella Iechyd Cymru ddyfarnu cytundeb i Brifysgol Aberystwyth hyfforddi nyrsys i oedolion ac iechyd meddwl.

Yn ogystal, caiff y myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer y graddau newydd y cyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth Yr Athro Elizabeth Treasure:

“Mae’n hyfryd croesawu ein myfyrwyr nyrsio cyntaf yma. Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n rhanddeiliaid allweddol, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig; ac mae dechrau addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny.

“Mae’n hwb i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac o fudd o ran recriwtio a chadw nyrsys yn lleol ac yn rhanbarthol. Yn ogystal, mae potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb. Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt.

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu ein cynlluniau i ddarparu addysg nyrsio yma. Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth gyson ein partneriaid, gan gynnwys y byrddau iechyd lleol a Chyngor Sir Ceredigion. Hebddynt, ni fyddai’r datblygiad hwn yn bosibl.”

Ychwanegodd yr Athro Treasure:

“Mae addysgu nyrsys i oedolion ac iechyd meddwl yn ddatblygiad pwysig iawn i’n Prifysgol wrth iddi dyfu. Ein huchelgais yw chwarae rôl hyd yn oed yn fwy mewn hyfforddi gweithwyr gofal iechyd dros y blynyddoedd i ddod. O ystyried profiadau pawb yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid oes adeg bwysicach nag yn awr i flaenoriaethu buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc ddawnus a fydd yn gyfrifol am les pob un ohonom.”

Datblygwyd addysg nyrsio yn y Brifysgol gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.

Dywedodd Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Mae’n bleser gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru groesawu myfyrwyr i raglen addysg nyrsio cyn-gofrestru gyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth.

“Mae datblygu a chyflwyno’r rhaglen hon gyda’r brifysgol a’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn dipyn o gamp, un sy’n adlewyrchu pwysigrwydd ehangu mynediad a darparu addysg gofal iechyd o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled Cymru. Bydd y myfyrwyr nyrsio hyn yn meddu ar sgiliau a phrofiad i ddiwallu anghenion poblogaethau gwledig; darparu gofal diogel, effeithiol ac o safon; a’u galluogi i gychwyn ar gyfleoedd gyrfa llwyddiannus a boddhaus yma yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n holl brifysgolion yng Nghymru, y gwasanaeth iechyd gwladol, gofal sylfaenol a chymunedol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a gwella’r ffyrdd newydd a modern hyn o ddarparu addysg i sicrhau’r gweithlu sy’n diwallu anghenion gofal iechyd pobl Cymru.”