Gallai iaith fyd-eang newydd ar gyfer newidiadau tir esbonio colled ecosystemau
Prifysgol Aberystwyth
01 Medi 2022
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyd-ddatblygu iaith gyffredinol i ddisgrifio byd sy’n newid, a allai helpu i ddatgelu’r hyn sy’n achosi colli ecosystemau a difrod amgylcheddol.
Mae'r Tacsonomeg Newid Byd-eang, prosiect sy'n cynnwys ymchwilwyr o wledydd Awstralia, yr Eidal a Groeg yn ogystal â Chymru, yn ceisio uno'r gwahanol ffyrdd o ddisgrifio newid gorchudd tir o ardaloedd lleol i fyd-eang, a thros gyfnodau amrywiol o amser.
Mae'r cynnydd torethiol yn nifer y lloerennau monitro byd-eang yn y degawdau diwethaf wedi helpu i arwain at fwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o newidiadau hinsawdd a gorchudd tir a achosir yn bennaf gan weithgareddau dynol fel amaethyddiaeth, coedwigaeth fasnachol a seilwaith trefol.
Fodd bynnag, mae mwy o ffocws wedi bod ar gofnodi newid yn hytrach nag ystyried y cysylltiadau rhwng y gwahanol achosion.
Mae’r ymchwil hwn yn cael ei lesteirio gan ddiffyg cysondeb o ran yr iaith a ddefnyddir, felly gall ‘anialwch’ neu ‘ddiraddio’ er enghraifft olygu gwahanol bethau i wahanol lywodraethau neu sefydliadau ac mewn gwirionedd gwmpasu ystod amrywiol o newidiadau cyfrannol. Mae hyn yn ei gwneud yn anos cyflawni prosesau llunio polisi a rheoli tir cyson o fewn ac ar draws ffiniau.
Mae'r rhestr newydd o dermau yn nodi 246 o ddosbarthiadau, sy'n gallu dangos sut mae tirweddau presennol wedi esblygu, sut maen nhw wedi newid dros amser a sut gall tirweddau'r dyfodol ymddangos. Mae'r termau a'r ymadroddion yn raddadwy o ran gofod ac amser a gallan nhw ddisgrifio newidiadau o'r arwynebedd lleiaf o orchudd tir i ranbarthau mawr. Mae'r dull hwn hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer achosion amrywiol y newidiadau hyn.
Gellir defnyddio'r eirfa hefyd gyda data lloeren a synhwyrydd yn yr awyr i nodi, disgrifio a mapio newidiadau.
Dywedodd yr Athro Richard Lucas, o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:
“Mae deall y pwysau gwahanol ar orchudd tir yn hollbwysig os ydyn ni am wrthdroi’r golled a’r difrod a achoswyd i amgylcheddau’r Ddaear hyd yma, hyd yn oed yn fwy felly o ystyried sut mae'r newid hwn yn cael ei yrru gan ffactorau economaidd-gymdeithasol a ffactorau cynyddol gysylltiedig â'r hinsawdd.
“Does dim modd gwneud hynny mewn modd cyson a hygyrch ar hyn o bryd, sy’n rhwystro ein gallu i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n wynebu bodau dynol a byd natur. Dyw llawer o dermau etifeddol ddim yn darparu digon o fanylion neu gysondeb, sy'n golygu bod llawer o ymdrechion yn aneffeithlon ac yn llai effeithiol nag y gallen nhw fod.
“Mae’r eirfa hon yn rhoi eglurder i reolwyr tir a gwyddonwyr a bydd yn helpu llywodraethau, y tu mewn a thu hwnt i’w ffiniau, i ddatblygu, gweithredu ac asesu polisïau gan gynnwys y rhai sy’n canolbwyntio ar sgwrsio, amddiffyn, adfer a gwella ein byd naturiol.”
Mae’r papur, a gyhoeddir heddiw (1 Medi) yn ‘Global Change Biology’, yn dilyn gwaith a gynhaliwyd ar y cyd gan Ysgol Busnes Aberystwyth a roddodd werth ar wahanol agweddau o fyd natur.