Darpariaeth Dysgu Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn ‘rhagorol’ yn ôl Estyn

31 Awst 2022

Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr wedi derbyn gradd ragorol gan Estyn, y corff sy’n arolygu safonau addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Mae’r uned yn rhan o Brifysgol Aberystwyth, ac mae’n un o 11 o ddarparwyr cyrsiau dysgu Cymraeg i oedolion a gefnogir gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’n cynnal cyrsiau i ddysgwyr ar bob lefel i dros 1,500 o ddysgwyr ar-lein ac mewn lleoliadau ledled Ceredigion, Powys a Sir Gâr.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (dydd Mercher 31 Awst) yn dilyn arolygiad ym mis Mai 2022, mae Estyn yn canmol Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr fel ‘cymuned ddysgu gynhaliol a gofalgar iawn sydd wedi addasu a llwyddo yn hynod effeithiol ar y platfform dysgu ar-lein.’

Dywed yr adroddiad fod Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr ‘yn llwyddo i greu cymuned ddysgu gynhwysol sy’n cynnig gofal, cymorth ac arweiniad rhagorol i’w dysgwyr.’

Nododd Estyn fod dysgwyr ar bob lefel yn gwneud cynnydd da: ‘Mae llawer o ddysgwyr yn gwneud cynnydd cryf ac yn datblygu’n ddysgwyr annibynnol ac yn defnyddio’r Gymraeg yn fuddiol y tu allan i’w gwersi, naill ai yn gymdeithasol, yn y gwaith neu drwy ddefnyddio adnoddau ychwanegol fel adnoddau electronig i atgyfnerthu ac ymestyn eu dysgu.’

Canmolodd Estyn drefniadau’r darparwr i ddiogelu dysgwyr a gofalu am eu lles, gan nodi fod ‘y dysgwyr yn teimlo’n rhan bwysig o gymuned glos a chyfeillgar y dosbarth.’

Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr yn cynnal cyrsiau i gyflogwyr ar draws y rhanbarth, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ac mae hefyd yn cynnal cyrsiau Cymraeg yn y Cartref i ddysgwyr sydd am ddefnyddio’r Gymraeg yn y teulu.

Yn ôl Estyn, ‘un o gryfderau’r darparwr yw ei fod yn flaengar wrth gynllunio a chyflwyno rhaglen sy’n cynnig cyrsiau prif ffrwd ochr yn ochr â chyrsiau i grwpiau penodol o ddysgwyr.’

Mae Estyn yn rhoi canmoliaeth arbennig i’r cyrsiau i staff ysgolion a chyrsiau i rieni, sydd yn ei dro yn cyfoethogi profiad ieithyddol cymuned yr ysgol: ‘Mae hyn yn rhoi mynediad ehangach iddynt glywed a defnyddio’r Gymraeg. O ganlyniad, mae’r ddarpariaeth yn ymateb yn rhagweithiol i flaenoriaethau cenedlaethol fel cynyddu defnydd o’r Gymraeg o fewn ysgolion wrth i ddisgyblion ac athrawon wneud cynnydd ar hyd y continwwm ieithyddol. Mae hyn yn cyfrannu’n fwriadus at gynllunio a datblygu hyfforddiant y gweithlu addysg.’

Mae’r cyrsiau’n gwneud cyfraniad pwysig i wireddu targed Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a dywed yr adroddiad fod gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr ‘weledigaeth a strategaeth bendant sy’n hybu nodau ac amcanion y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn llwyddiannus.’

Ar gychwyn y pandemig ym mis Mawrth 2020, llwyddodd Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr i symud yn gyflym iawn i ddysgu ar-lein gan sicrhau fod y dysgu wedi parhau bron yn ddi-dor. Nododd yr adroddiad mai ‘un o nodweddion hynod effeithiol y ddarpariaeth yw bod bron bob tiwtor yn meithrin perthynas gadarnhaol gyda’r dysgwyr gan greu amgylchedd dysgu cefnogol.’

Wrth ymateb i’r adroddiad, meddai Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr: “Mae’r adroddiad hwn yn tystio i waith effeithiol iawn gan dîm sydd ag angerdd i greu siaradwyr Cymraeg newydd, a galluogi dysgwyr o bob cefndir i fwynhau dysgu a chael hyder a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd. Mae’n ganlyniad hefyd i gydweithio hapus â phartneriaid ar draws y rhanbarth, yn enwedig gydag ysgolion ac awdurdodau addysg.”

Mae’r Athro Elizabeth Treasure, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, wedi elwa ei hunan ar y cyrsiau Dysgu Cymraeg, ac meddai: “Llongyfarchiadau calonnog i’r holl dîm ar yr arolwg hwn sy’n gydnabyddiaeth haeddiannol o waith gwych y staff canolog a’r tiwtoriaid ar draws y tair sir, a hynny yn ystod cyfnod heriol y pandemig. Mae Dysgu Cymraeg yn rhan o genhadaeth y Brifysgol i hyrwyddo defnydd y Gymraeg ymysg myfyrwyr a staff ac yn ein cymunedau, a thrwy hynny, adeiladu at gyflawni’r targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae hefyd yn adlewyrchiad o gyfraniad cymunedol y Brifysgol i hyrwyddo dysg a chyfleoedd dysgu gydol oes i bawb, a’r manteision a ddaw yn sgil hynny.”

Mae’r adroddiad llawn ar wefan Estyn.

Mae rhaglen newydd o gyrsiau Dysgu Cymraeg yn cychwyn ym mis Medi 2022, a cheir manylion llawn ar Dysgu Cymraeg Ceredigion-Powys-Sir Gâr | Dysgu Cymraeg